Alert Section

Cyfrifoldebau'r Landlord

Manylion am y cyfrifoldebau y mae'n rhaid i bob landlord ac asiant rheoli yng Nghymru eu cyflawni.

Cofrestru a Thrwyddedu 

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae’n rhaid i bob Landlord yng Nghymru sy’n ymgymryd â gweithgareddau gosod a rheoli gofrestru i gael y drwydded berthnasol gyda Rhentu Doeth Cymru.  

Mae yna ddau fath o drwydded, Trwydded Landlord a Thrwydded Asiant.  Ar gyfer y Landlordiaid hynny sy’n rheoli ac yn gosod eu heiddo eu hunain, bydd rhaid iddynt wneud cais am Drwydded Landlord.  Bydd y rhai sy’n cwblhau gweithgareddau rheoli neu osod ar ran y landlord ac yn cael eu hystyried yn asiantau o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi, angen y Drwydded Asiant. 

I gael gwybod mwy, ewch i wefan Rhentu Doeth.


Blaendaliadau Tenantiaeth a Diogelu

Beth yw blaendal tenantiaeth?

Yn rhan o’r contract meddiannaeth, gall Landlord ofyn am ‘flaendal diogelwch’ neu ‘flaendal tenantiaeth’ i’w dalu cyn cychwyn y contract meddiannaeth.  Defnyddir y blaendal yma i dalu am ddifrod a achosir i’r eiddo yn ystod y contract meddiannaeth neu ôl-ddyledion rhent.

Mae hyn tua rhent 4/5 wythnos neu un mis. 

Sut ydw i’n diogelu fy mlaendal tenantiaid?

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae’n rhaid i bob blaendal gael ei roi mewn i un o dri chynllun blaendal tenantiaeth sy’n cael eu cefnogi gan y llywodraeth o fewn 30 niwrnod ar ôl derbyn yr arian.  Y rhain yw:

Y Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau (DPS)

My Deposits

Cynllun Blaendal Tenantiaeth (TDS)

Gallai methu â diogelu blaendal deiliaid contract arwain at achosion llys. 

Beth sydd arnaf angen gwneud ar ôl diogelu’r blaendal?

Pa unai ydi Landlord neu asiant rheoli yn gweithio ar ran y Landlord, rhaid diogelu’r blaendal, rhaid cyflwyno’r dystysgrif i’r deiliaid contract perthnasol.  


Eithriadau

Er y bydd mwyafrif y blaendaliadau’n cael eu diogelu fel yr uchod, fe fydd yna ychydig o eithriadau. 

Pan fydd Landlord wedi derbyn Bond gan Gyngor Sir y Fflint, ni fydd angen i’r Landlord ddiogelu’r blaendal yn un o’r cynlluniau uchod nes bod y Bond wedi cael ei ddisodli gydag arian.  Pan fydd y swm llawn wedi cael ei ad-dalu, mae gan y Landlord 30 diwrnod i’w roi yn un o’r cynlluniau blaendal. 

Mae yna hefyd eithriadau ar gyfer Landlordiaid preswyl, eiddo sy’n cael ei osod drwy gwmni gosod neu lety i fyfyrwyr. 

Gallwch ddilyn ein sianeli Facebook a Twitter drwy ddilyn y dolenni isod: