Alert Section

Cysylltwch â Thîm Cefnogi Landlordiaid Sir y Fflint

Sut y gallwn ni helpu

Gall Tîm Cefnogi Landlordiaid Sir y Fflint helpu landlordiaid preifat ac asiantaethau rheoli.

---------------------------------

• Gosod Eiddo’n Gyflym
Mae gennym ni gofrestr tai llawn darpar denantiaid sy’n chwilio am dai addas ac yn gallu symud ar fyr rybudd. Golyga hyn y bydd eich eiddo’n wag am gyfnodau llai ac y gallwn ni gynnig gwasanaeth paru tenantiaid i gyd-fynd â’ch anghenion chi.

• Cymorth Parhaus i Denantiaid
Gyda staff cymorth wedi’u hyfforddi’n llawn ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gall Cyngor Sir y Fflint gynnig cymorth a chefnogaeth i denantiaid gyda sawl agwedd ar eu tenantiaethau, o lenwi ffurflenni i reoli eu harian.  Ar ddiwedd tenantiaeth, gall Cyngor Sir y Fflint helpu eich tenantiaid i ddod o hyd i lety arall a’ch helpu chi i ddod o hyd i denantiaid newydd.

• Rheolaeth Lawn Dros Ddewis Tenantiaid
Ar ôl i chi gofrestru gyda ni, eich dewis chi’n llwyr fydd derbyn unrhyw ddarpar denantiaid neu beidio. Ein gwaith ni yw meithrin tai cynaliadwy hirdymor, felly byddwn yn ceisio cynnig argymhellion sy’n cyd-fynd â’ch anghenion chi. 

Cefnogaeth i Landlordiaid
Mae’r Tîm Cefnogi Landlordiaid ar gael i gynnig unrhyw gymorth neu gyngor y byddwch chi ei angen mewn perthynas â phob agwedd ar rentu eich cartrefi. O broblemau gyda rhent i broblemau cynnal a chadw.

Blaendaliadau a Rhent Ymlaen Llaw
Gyda bondiau blaendal ac arian grant, gallwn gynnig cymorth ychwanegol i helpu tenantiaid sefydlu a chynnal eu tenantiaethau.

Mae’r Gwasanaeth yn Rhad ac am Ddim
Mae ein Gwasanaethau Cefnogi Landlordiaid wedi’u datblygu i fodloni anghenion y gymuned leol, a chânt eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint. Nid ydym yn gwneud unrhyw elw nac yn codi am y gwasanaeth hwn. Ar wahân i ffi fechan am gynlluniau prydlesu penodol, ni fyddwn yn codi arnoch chi am y cymorth rydym yn ei gynnig.

---------------------------------

Y prif fanylion cyswllt i gael gwybodaeth a chymorth yw:

01352 703811 neu Landlord.Support@flintshire.gov.uk

Gallwch ddilyn ein sianeli Facebook a Twitter drwy ddilyn y dolenni isod: