Paratowyd a chymeradwywyd y cynllun cyhoeddi enghreifftiol hwn gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir ei fabwysiadu heb ei addasu gan unrhyw awdurdod lleol heb gymeradwyaeth bellach a bydd yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol.
Mae’r cynllun cyhoeddi hwn yn rhwymo awdurdod i ofalu bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn perthyn i’r dosbarthiadau o wybodaeth a grybwyllir yn y ddogfen isod, lle bo’r wybodaeth hon yn cael ei chadw gan yr awdurdod.
Gwybodaeth, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau sefydliadol
Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant gwirioneddol ac a ragwelir, caffael a chontractau ac archwiliad ariannol
Strategaethau a chynlluniau, dangosyddion perfformiad, archwiliadau, ymchwiliadau ac adolygiadau
Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau.
Protocolau, Polisïau a Gweithdrefnau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein gwasanaethau a chyfrifoldebau.
Cofrestru cyhoeddus a chofrestri a ddelir fel cofnodion cyhoeddus
Gwybodaeth am y gwasanaethau mae’r cyngor yn ei ddarparu gan gynnwys taflenni, canllawiau a newyddlenni