Alert Section

Cyflwr Tai

Manylion am yr amodau y mae'n rhaid i bob landlord ac asiant rheoli yng Nghymru sicrhau bod eu heiddo yn eu bodloni.

O dan Rhan 4 Deddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 mae’n rhaid i Landlord sicrhau bod eiddo mewn cyflwr addas i bobl fyw ynddo. 

Mae’r rhwymedigaethau yma wedi’u nodi yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 sy’n nodi 29 mater sy’n pennu a yw annedd yn addas i bobl fyw ynddi. 

Y rhain yw 

1. Lleithder a Thwf Llwydni

2. Oer 

3. Gwres

4. Asbestos a Ffibrau Mwynau Synthetig

5. Bywleiddiaid

6. Carbon monocsid a chynhyrchion hylosgi tanwydd (nitrogen diocsid, sylffwr diocsid a mwg)

7. Plwm

8. Ymbelydredd 

9. Nwy tanwydd nas hylosgwyd

10. Cyfansoddion organig anweddol

11. Gorlenwi a gofod

12. Tresmaswyr yn dod mewn

13. Goleuo

14. Sŵn

15. Hylendid domestig, plâu a sbwriel

16. Diogelwch bwyd

17. Hylendid personol, carffosiaeth a draeniau

18. Cyflenwad dŵr

19. Syrthio oherwydd baddonau ac ati

20. Syrthio ar arwynebau

21. Syrthio ar risiau ac ati

22. Syrthio rhwng lefelau

23. Peryglon trydanol

24. Tân

25. Fflamau, arwynebau poeth ac ati

26. Taro yn erbyn neu fynd yn sownd 

27. Ffrwydradau

28. Safle amwynderau a’u gweithrediad ac ati

29. Dymchwel strwythurol ac elfennau'n disgyn


Mae’n rhaid i landlordiaid sicrhau bod amrywiaeth o dystysgrifau diogelwch yn cael eu cwblhau, bod copïau'n cael eu cadw a chopïau'n cael eu rhoi i ddeiliaid contract yn rhan o’u contract meddiannaeth. Y rhain yw:

  • Tystysgrif Diogelwch Trydanol
  • Tystysgrif Diogelwch Nwy
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni
  • Prawf o ddiogelu blaendal

Os byddwch chi angen cyngor ynglŷn â chyflwr unrhyw eiddo, cysylltwch â’n Tîm Iechyd yr Amgylchedd yn HousingEnforcement@flintshire.gov.uk.

Gallwch ddilyn ein sianeli Facebook a Twitter drwy ddilyn y dolenni isod: