Alert Section

Newyddion a Digwyddiadau i Landlordiaid ac Asiantau Rheoli

Arolwg Ar-lein Landlordiaid a Asiantau Gosod

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu RHE Global i gynnal gwerthusiad o Rhentu Doeth Cymru (RSW). Os ydych chi'n landlord neu asiant gosod eiddo sy'n gweithredu yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, fe’ch gwahoddir i gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn.

Mae'r arolwg hwn yn benodol ar gyfer landlordiaid ac asiant gosod tai ac yn ceisio deall eu profiadau, yr heriau a wynebant ac unrhyw effaith y mae RSW wedi'i chael ar eu gwaith a'u harferion busnes. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r arolwg yw 12.06.2024 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr arolwg, cysylltwch â housing@rheglobal.com.

Gallwch ddilyn ein sianeli Facebook a Twitter drwy ddilyn y dolenni isod: