Alert Section

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cyngor Sir y Fflint


Defnyddio’r wefan hon

Cyngor Sir y Fflint sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir
  • nid oes penawdau i’r rhesi yn rai tablau
  • nid yw rhai penawdau yn gyson
  • nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
  • nid yw rhai labeli yn unigryw
  • nid oes testun arall da ar gyfer rhai delweddau
  • nid yw’r testun ar gyfer rhai dolenni cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
  • mae sawl dogfen mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

PDF a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai o'n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) ddim yn hygyrch. Er enghraifft nid yw rhai ohonynt:

  • wedi eu marcio mewn modd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin eu deall
  • wedi eu tagio'n gywir - er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau cywir
  • wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir

Mae rhai o'r dogfennau hyn yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu'n gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi eu heithrio o'r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i'w gwneud yn hygyrch.

Cyfyngiadau a dewisiadau amgen

Er gwaethaf ein ymdrechion i sicrhau hygyrchedd SiryFflint.gov.uk, efallai y bydd rhai cyfyngiadau. Isod mae disgrifiad o gyfyngiadau a datrysiadau posibl. Cysylltwch â ni os ydych yn dod ar draws broblem sydd heb gael ei restru isod.

Cyfyngiadau siryfflint.gov.uk:

  1. Problemau cyferbynnedd lliw PDF: Mae gan rai PDF’s broblemau cyferbynnedd lliw, megis delweddau wedi’u sganio. Mewn rhai achosion efallai nad oes gennym fynediad at y ddogfen wreiddiol er  mwyn addasu’r cyferbynnedd lliw. Hefyd, ni allwn newid cyferbynnedd lliw ar PDF’s penodol megis delweddau o ddogfennau wedi eu sganio. Rydym yn newid problemau cyferbynnedd lliw lle bynnag gallwn ni, ac hefyd yn ceisio olrhain y dogfennau gwreiddiol.  Cysylltwch â ni os ydych yn dod ar draws problem.
  2. Delweddau: Efallai nad yw rhai delweddau yn dod gyda thestun amgen gan fod rhai delweddau yn cael eu defnyddio ar gyfer dibenion addurniadol yn unig ac nad ydynt yn darparu unrhyw wybodaeth i ddefnyddwyr y wefan.  Rydym yn monitro negeseuon e-bost ac adborth y wefan am unrhyw broblemau gyda’r wefan.  Cysylltwch â ni os ydych yn dod ar draws problem.
  3. Ar hyn o bryd, nid yw'r PDF canlynol yn cydymffurfio â wcag 2.1 oherwydd templedi allan o'n rheolaeth.
    1. Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg

Baich anghymesur

Rydym wedi nodi nifer cyfyngedig o ddogfennau PDF ac MS Word a gyhoeddwyd ar ôl mis Medi 2018 lle byddai'r cost a/neu amser cyhoeddi'r dogfennau hyn mewn fformat hygyrch yn golygu naill ai:

  • baich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd;
  • neubaich anghymesur dros dro, yr ydym yn ceisio ei drwsio.

Mae'r dogfennau rydym wedi’u nodi ar hyn o bryd fel baich anghymesur yn cynnwys:

  • Datganiadau cyfrifin (PDF)
  • Cyfansoddiad y cyngor (PDF)
  • Cofrestr trwyddedu Tai Aml-feddiannaeth (PDF)
  • calendrau dyddiad casglu biniau (PDF)
  • rhai taenlenni (dogfennau MS Excel)
  • dogfennau Gorchymyn Diogelu Coed Darpariaethol

Ar hyn o bryd, mae nifer o ffurflenni cais yn y fformat PDF ac MS Word yn cynrychioli baich anghymesur, fodd bynnag rydym yn anelu at newid y ffurflenni hyn gyda fersiynau hygyrch ac arlein.

Ni fydd rhywbeth sy’n faich anghymesur ar hyn o bryd o reidrwydd yn faich anghymesur am byth. Os yw'r amgylchiadau yn newid, byddwn yn ailasesu a allwn ddarparu ein gwybodaeth ar-lein mewn fformat hygyrch.

Ystyriaethau hygyrchedd ychwanegol

Er mai ein nod yw cydymffurfiaeth WCAG 2.1 Lefel AA, rydym hefyd wedi cymhwyso rhai o feini prawf lefel AAA: Defnyddir delweddau o destun ar gyfer dibenion addurniadol yn unig. Nid yw ail-awdurdodi ar ôl i sesiwn ddod i ben yn achosi i’r data gael ei golli.

Adborth

Croesawn eich adborth ar hygyrchedd SiryFflint.gov.uk. Rhowch wybod i ni os ydych yn dod ar draws rhwystrau hygyrchedd: 

Ymdrechwn i ymateb i’ch adborth  o fewn 5 diwrnod busnes.

Cydweddoldeb gyda phorwyr gwe a thechnoleg gynorthwyol

Siryfflint.gov.uk is designed to be compatible with the following assistive technologies:

  • Firefox, Safari, Opera, Chrome, Edge, IE11
  • Hygyrch gyda llechi. Esiamplau yn cynnwys llechi Kindle (Silk Browser), Apple iPad, Android a Windows
  • Hygyrch gyda dyfeisiau symudol

Nid yw SiryFflint.gov.uk yn cydweddu gyda:

  • Phorwyr gwe sydd yn hŷn na’r 3 prif fersiwn neu systemau symudol sy’n hŷn na 5 mlynedd
  • Ni argymhellir defnyddio fersiynau hŷn o IE (IE10, 9, 8, 7) am resymau diogelwch a hygyrchedd

Manylion Technegol

Mae hygyrchedd Siryfflint.gov.uk yn dibynnu ar y technolegau canlynol i weithio gyda chyfuniad penodol o borwr gwe ac unrhyw dechnolegau cynorthwyol neu ategion sydd wedi’u gosod ar eich cyfrifiadur:

  • HTML
  • WAI-ARIA
  • CSS
  • JavaScript

Dibynnir ar y technolegau hyn er mwyn cydymffurfio â’r safonau hygyrchedd a ddefnyddir.

Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 28 Medi 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 20 Ionawr 2022.

Mae Adroddiadau Cyfredol o ran Cydymffurfio â Hygyrchedd ar gael ar gais.