Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
Manylion am y cyfrifoldebau y mae'n rhaid i bob landlord ac asiant rheoli yng Nghymru eu cyflawni.
Manylion am yr amodau y mae'n rhaid i bob landlord ac asiant rheoli yng Nghymru sicrhau bod eu heiddo yn eu bodloni.
Gall ein Tîm Cefnogi Landlord gynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth i sefydlu contract meddiannaeth newydd
Tystysgrifau Perfformiad Ynni
Mae angen Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer unrhyw eiddo a gaiff ei adeiladu, ei werthu, neu ei osod ar rent. Mae dirwy ar gyfer y rheiny nad ydynt yn cael Tystysgrif Perfformiad Ynni ddilys pan fo hangen un. Fel Landlord mae’n rhaid i chi allu dangos copi o’ch Tystysgrif Perfformiad Ynni i unrhyw ddarpar ddeiliaid contract (tenantiaid).
Mae’r dystysgrif yn cynnwys sgôr effeithlonrwydd ynni o A i G. A yw’r mwyaf effeithlon a G yw’r lleiaf effeithlon. Mae’n rhaid i Landlordiaid sy’n gosod eiddo gael sgôr o E neu uwch er mwyn cydymffurfio â Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni.
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn para am 10 mlynedd ac mae’n rhoi gwybodaeth ynglŷn â defnydd eiddo o ynni a chostau rhedeg yr eiddo, yn ogystal ag argymhellion ynglŷn â sut y gall eiddo wella ei sgôr a lleihau costau a’r defnydd o ynni.
Dilynwch y ddolen isod i ganfod asesydd achrededig.
https://www.gov.uk/cael-tystysgrif-ynni-newydd
Canfod masnachwr dibynadwy
Yr ydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i ganfod contractwr dibynadwy, ac oherwydd pryderon ynglŷn â masnachwyr twyllodrus, gall fod yn anodd gwybod beth i chwilio amdano. Yng Nghyngor Sir y Fflint yr ydym yn cefnogi’r cynllun Prynwch Efo Hyder. Mae Prynwch Efo Hyder wedi ei ffurfio o nifer o wasanaethau Safonau Masnach i ddarparu rhestr o gontractwyr cymeradwy y gellwch fod yn sicr eu bod yn gymwys, profiadol, ac wedi eu fetio’n fanwl.
Dilynwch y ddolen isod i ganfod busnes sy’n lleol i chi.
https://www.buywithconfidence.gov.uk/home/
Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol
Fel Landlord mae’n bwysig cadw eich eiddo’n ddiogel ac i’r safonau cywir. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y gosodiadau trydanol yn eich eiddo’n fodern.
Mae’n rhaid i’r Landlord gael Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol (EICR) sy’n amlinellu canlyniad y prawf ac unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen. Mae’r adroddiad yn para am bum mlynedd, ac yna mae’n rhaid cynnal prawf arall.
Mae’n rhaid rhoi’r adroddiad hwn i ddeiliad contract presennol (tenant) o fewn 28 niwrnod o ddyddiad cynnal y prawf, i unrhyw ddeiliaid contract newydd cyn iddynt ddod i fyw yno, neu i unrhyw ddarpar ddeiliad contract o fewn 28 niwrnod o ddyddiad gwneud y cais.
Os yw’r awdurdod lleol yn gwneud cais i weld copi o’r adroddiad, mae’n rhaid ei ddarparu o fewn saith niwrnod o ddyddiad y cais. Mae’n rhaid i Landlordiaid wedyn gadw cofnod o’r adroddiad, oherwydd bydd rhaid iddynt ei ddarparu i’r profwr a fydd yn gwneud y prawf newydd ymhen pum mlynedd.