RHOWCH EICH DIOGELWCH YN GYNTAF
Gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun diogelwch ar waith hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gadael yn syth.
Ceisiwch adael tra bydd y cyflawnwr oddi cartref fel na all ef/hi geisio’ch stopio.
Os oes modd, trefnwch le i aros cyn i chi adael a chael cyngor am gystodaeth os oes gennych unrhyw blant.
Os oes rhaid i chi adael mewn brys oherwydd bod eich partner wedi ymosod arnoch chi, ffoniwch yr heddlu. Efallai y gallant ei arestio/harestio, a fydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi adael.
Llinell gymorth trais domestig i ferched a ddynion
Gallwch gysylltu â Byw Heb Ofn, sydd ar agor 24 awr / saith diwrnod yr wythnos ar 0808 8010 800.
Aros yn eich cartref
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu drais domestig, efallai yr hoffech aros yn eich cartref, cael y cyflawnwr allan a gwneud eich cartref yn lle diogelach i fyw ynddo, yn enwedig os oes gennych gysylltiadau teuluol cryf neu addysg y plant yn yr ardal.
Ffoniwch yr Heddlu
Mewn rhai achosion, y ffordd orau o gael y cyflawnwr i adael yw iddynt gael eu harestio.
Efallai mai dim ond am gyfnod byr y bydd hyn yn eu symud o’r sefyllfa, fodd bynnag os ydynt yn cael eu cyhuddo, yna byddant un ai’n cael eu cadw yn y ddalfa neu gael mechnïaeth, gydag amodau, a ddylai gynnwys nad ydynt yn mynd i’r eiddo na’n cysylltu â chi.
Os cyflawnwyd trosedd, gallant gael eu herlyn, a allai olygu dedfryd o garchar.
Newidiwch y Cloeon
Hwyrach yr hoffech newid y cloeon i atal y cyflawnwr rhag mynd i mewn i’ch cartref. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o ddau beth:
- mae newid y cloeon yn annhebygol o atal ymosodwr penderfynol, ac eithrio pan gânt eu cyfuno â mesurau diogelwch eraill
- os oes gan y cyflawnwr hawliau i fyw yn y cartref (er enghraifft, os oes gennych denantiaeth ar y cyd), gallech fod yn ei droi/ei throi allan yn anghyfreithlon.
Gwnewch eich cartref yn fwy diogel
Mae sawl mesur y gallwch chi eu cymryd i’ch gwneud chi’n fwy diogel yn eich cartref, er enghraifft trwy:
- ffitio cloeon mwy diogel, cadwyni drws, a thyllau sbïo ar gyfer y drysau ffrynt
- atgyfnerthu drysau a fframiau drysau
- gosod cloeon, barrau a griliau ar y ffenestri
- gosod larymau, teledu cylch caeedig a goleuadau diogelwch
- gwella mesurau diogelwch tân
- cael ystafell ddiogel wedi’i hatgyfnerthu ac y mae modd ei chloi yn y tŷ y gellir ffonio’r heddlu ohoni
- rhoi gwybod i’r cymdogion nad yw’r cyflawnwr yn byw gyda chi mwyach a gofyn iddynt roi gwybod i chi os byddant yn ei (g)weld yn loetran o gwmpas
- newid rhifau ffôn a sgrinio galwadau.
Gellir defnyddio’r mesurau hyn ochr yn ochr â mesurau cyfreithiol eraill i gadw’r cyflawnwr allan (e.e. Gorchymyn Deiliadaeth neu Orchymyn Peidio ag Ymyrryd neu waharddeb). Byddant ond yn eich diogelu tra byddwch y tu mewn i’ch cartref, felly mae’n bosibl yr hoffech ystyried mesurau diogelwch eraill tra byddwch chi allan (e.e. larymau personol, ffôn symudol, dosbarthiadau hunan amddiffyn).
Gall yr heddlu roi rhagor o gyngor i chi ar fesurau diogelwch. Gwnewch yn siŵr fod eich gorsaf heddlu leol yn gwybod eich bod chi wedi dioddef cam-drin domestig Dylech hefyd roi copi iddynt o unrhyw waharddeb berthnasol, yn enwedig os oes grym arestiad ynghlwm, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt ymateb yn gyflym i unrhyw alwad gennych chi.
Gorchmynion Meddiannaeth
Gorchmynion llys yw Gorchmynion Deiliadaeth sy’n ymestyn neu’n cyfyngu ar hawl rhywun i breswylio mewn cartref. Er enghraifft, gallant roi’r hawl i chi aros yng nghartref y teulu lle nad oedd gennych yr hawl honno’n flaenorol (er enghraifft, lle mae’r denantiaeth yn unig denantiaeth yn enw’r cyflawnwr), neu wahardd y cyflawnwr o’r cartref.
Gellir gwneud cais am Orchymyn Deiliadaeth ar wahân neu fel rhan o drefniadau cyfraith deuluol arall (trefniadau ysgariad neu gystodaeth, er enghraifft). Bydd manylion y gorchymyn y gallwch wneud cais amdano’n dibynnu ar eich perthynas â’r cyflawnwr a’r math o lety rydych chi’n byw ynddo.
Gall Gorchmynion Deiliadaeth feddu ar bŵer i arestio, felly, er enghraifft, os ydy’r cyflawnwr wedi’i wahardd o’r cartref, gellir eu harestio os bydd yn ceisio torri i mewn. Gellir rhoi dedfryd o garchar neu ddirwy i gyflawnwr am dorri’r gorchymyn.
Bydd angen i chi ofyn am gyngor cyfreithiwr i gael Gorchymyn Deiliadaeth. Ni allant sicrhau eich diogelwch, a bydd ond yn para am amser cyfyngedig, felly bydd angen i chi gymryd camau pellach i ddatrys pwy sy’n aros yn yr eiddo yn y tymor hir.
Cael gorchymyn neu waharddeb
Bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu.
Bydd y cyfreithiwr yn eich helpu chi i wneud cais i’r llys am waharddeb. Weithiau, gellir ceisio gwaharddebau fel rhan o drefniadau cyfraith teulu (ysgariad neu gystodaeth).
Bydd y barnwr yn ystyried tystiolaeth y trais yn eich erbyn chi ac a:
- yw’r ymddygiad rydych chi eisiau ei stopio’n anghyfreithlon
- yw’r cyflawnwr yn debygol o roi’r camau ar waith
- oes tebygolrwydd o niwed i chi
- a ellir esbonio’r ymddygiad yn glir er mwyn i’r cyflawnwr ddeall beth mae’n cael ei wahardd rhag gwneud
- ydy’r gorchymyn neu’r waharddeb yn angenrheidiol ar gyfer eich diogelwch.
Yn wahanol i’r llysoedd troseddol, nid oes rhaid profi’r trais ‘y tu hwnt i bob amheuaeth resymol’; bydd rhaid i’r barnwr fod yn fodlon ei fod yn ‘fwy tebygol na pheidio’ bod y trais wedi digwydd. Wedyn, bydd y barnwr yn penderfynu a fydd yn gwneud gorchymyn neu waharddeb ac, os felly, pa amodau i glymu wrtho.
Cael help gan y Tîm Atebion Tai
Gallwch gysylltu â’r tîm am help os nad ydych yn dymuno aros yn y cartref, yn enwedig os na fyddwch yn teimlo’n ddiogel.
Gallant gynnig y canlynol:
- cyngor a chymorth ar ddigartrefedd
- trefnu llety neu loches brys
- cyngor ar wahardd y cyflawnwr o’ch cartref
- gwelliannau yn niogelwch eich cartref (e.e. caledu targedau – larymau, cloeon ac ati)
- cysylltiadau brys a chefnogaeth barhaus
Cysylltwch â’n tîm ar 01352 703777.