Alert Section

Cofrestr Tai Sir y Fflint

Mae Cofrestr Tai Sir y Fflint wedi'i sefydlu i'w gwneud hi'n haws gwneud cais am Dai Cymdeithasol yn Sir y Fflint. Mae Cofrestr Tai Sir y Fflint yn bartneriaeth sy'n cynnwys eich Cyngor lleol a'r holl Gymdeithasau Tai lleol: Grŵp CynefinClwyd AlynTai Wales & West ac ADRA.

Mae un Gofrestr Tai (un rhestr dai) a rennir gan Gyngor Sir y Fflint a'r holl Gymdeithasau Tai lleol. Mae hyn yn golygu bod gan ymgeiswyr un pwynt cyswllt ac un broses ymgeisio i'w hystyried ar gyfer yr holl dai cymdeithasol sydd ar gael yn Sir y Fflint.

I ddarganfod a ydych yn gymwys i fynd ar y Gofrestr Tai bydd angen i chi gwblhau Asesiad Brysbennu Tai.

I wneud hyn, ffoniwch 01352 703777 neu ewch i'ch Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf.


Cliciwch botwm i fynd i'r ardal berthnasol:

My Account Welsh 1080x530

Fy Nghyfrif

Mae dros 20,000 o ddefnyddwyr wedi cofrestru i gael defnyddio eu hardal bersonol eu hunain ar ein gwefan, sef Fy Nghyfrif. Yma, fe allwch chi reoli eich ceisiadau ar-lein, cael gwybodaeth am ein gwasanaethau a mwy. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint, cliciwch y botwm isod

Cofrestrwch i Fy Nghyfrif 

 Cymdeithasol Tai Cofrestr

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich asesiad brysbennu tai bydd eich cais yn cael ei asesu wedyn i ganfod eich angen am dai drwy gasglu gwybodaeth.

Mae'r polisi gosod tai cyffredin yn gynllun bandio i flaenoriaethu ymgeiswyr yn ôl eu hamgylchiadau. Mae pedwar strwythur bandio, i ddarganfod mwy am y wybodaeth hon, cliciwch yma.

Gall amseroedd aros am dai cymdeithasol fod yn sylweddol weithiau yn dibynnu ar y stoc tai sydd ar gael a'r math o eiddo sydd ei angen ar ymgeiswyr. Unwaith y bydd eiddo ar gael i'w osod, bydd yr holl ymgeiswyr y mae'r eiddo'n addas ar eu cyfer yn cael eu rhestru yn nhrefn band blaenoriaeth a dyddiad y cais gyda'r ymgeisydd yn aros am y flaenoriaeth hiraf sy'n cael y flaenoriaeth uchaf.

Yn aml mae gan ymgeiswyr sy'n hyblyg gyda'u dewisiadau ardal ac sy'n cynyddu nifer y lleoedd y byddent yn ystyried byw ynddynt, well siawns o gael eu hailgartrefu, ond hyd yn oed wedyn gall yr amseroedd aros fod yn sylweddol. Wrth gwrs, rydym yn parchu penderfyniadau pob ymgeisydd ynghylch ble maent yn teimlo ei fod yn briodol iddynt fyw, wrth ystyried mynediad at wasanaethau a chymorth teulu ac ati. I weld y stoc sydd gennym ym mhob ardal, gweler y Map Stoc Ardal isod.


Cwestiynau Cyffredin

Faint fydd yn rhaid i mi aros ar y Rhestr Aros?

Pa ddewisiadau eraill sydd ar gael i mi?

Pa newidiadau sydd yn rhaid i mi roi gwybod i chi amdanyn nhw?

Oes modd i chi fy ystyried ar gyfer eiddo gyda mwy o ystafelloedd gwely?

Ydw i’n gallu gwneud cais am gynlluniau gofal ychwanegol?

Sut fyddaf yn gwybod fy mod wedi cael cynnig eiddo?

Pan fyddaf yn cael cynnig eiddo, fydd yna ddodrefn a charpedi?

Fydd gan yr eiddo rodfa a/neu ardd?

Dw i wedi cael cynnig eiddo, pryd fedraf fynd i’w weld?

Rydw i am gael fy nhroed ar yr ysgol eiddo

 Opsiynau Tai Amgen

Mae amrywiaeth o ddewisiadau tai eraill i'w hystyried yn dibynnu ar eich amgylchiadau;

  • Cynlluniau perchnogaeth fforddiadwy
  • Cynlluniau rhent canolradd
  • Rhentu preifat
  • Cynlluniau i helpu pobl i symud allan o'r ardal
  • Cynlluniau gwella cartrefi neu wasanaethau addasu sy'n galluogi pobl i aros yn eu cartref presennol
  • Tai â chymorth neu gymorth yn y cartref
  • Tai gwarchod neu dai gofal ychwanegol

Gall tenantiaid presennol y Cyngor a Chymdeithasau Tai sydd am symud wneud cais am gyfnewid neu drosglwyddiad.

Gallwch ddefnyddio gwefan Homeswapper i ddod o hyd i gyfnewidfa addas naill ai yn Sir y Fflint neu yn rhywle arall.

 

Mae Tai Teg yn darparu dewisiadau gwahanol o ran tai fforddiadwy, yn cynnwys eiddo sydd ar werth neu ar gael i’w rhentu.  Mae Tai Teg yn rheoli’r gofrestr tai fforddiadwy/tai canolradd.  

Am fwy o wybodaeth am y meini prawf cymhwysedd cyfredol ac i ymgeisio ewch i Tai Teg - A ydw i’n gymwys i wneud cais?

Map Rhyngweithiol Tai Cymdeithasol

I ddysgu mwy am y stoc tai cymdeithasol yn Sir y Fflint a faint o eiddo a osodwyd, ewch i'n Map Tai Cymdeithasol Rhyngweithiol.



Yn darllen ar ddyfais symudol? Mae ein map rhyngweithiol i’w weld orau ar ffôn symudol ar dirlun ac mewn ffenest newydd.

Agor y Map Rhyngweithiol mewn ffenestr newydd (addas i ffonau symudol)

Neu, edrychwch ar fersiwn hygyrch y ddogfen ryngweithiol isod;


Stoc Tai Cymdeithasol

Y aml iawn mae gan ymgeiswyr sy’n hyblyg o raneu dewis o ardaloedd ac yn cynyddu nifer y llefyddy byddent yn ystyried byw ynddynt well siawnso gael tŷ.

Hyd yn oed wedyn gallai amseroedd amser fod yn sylweddol.

Unwaith y byddwch wedi adolygu eich dewisiadau anfonwch e-bost atom: Housing.Register@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 703777

Social Housing Stock