Camddefnyddio sylweddau
Mae Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau (SMAT) Sir y Fflint, sef grŵp o fewn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn lleol.
Prif flaenoriaeth SMAT yw sicrhau bod Strategaeth 10 Mlynedd Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008 – 2018, ‘Gweithio gyda’n Gilydd i Leihau Niwed’, yn cael ei gweithredu’n lleol. Mae’r blaenoriaethau lleol yn gydnaws â phedwar prif faes gweithredu’r strategaeth, gan gynnwys:
- Atal niwed.
- Cynorthwyo camddefnyddwyr sylweddau i wella eu hiechyd a chynorthwyo a chynnal eu hadferiad.
- Cefnogi ac amddiffyn teuluoedd.
- Mynd i’r afael â diffyg gwasanaethau ac amddiffyn unigolion a chymunedau trwy gyfrwng gweithgareddau gorfodi.
Cyngor a chymorth ar gael yn Sir y Fflint a’r ardal
- Gwasanaethau Barnados yn Sir y Fflint – cymorth i deuluoedd
- Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau
- Sefydliadau a Rhaglen Ymyrryd â Chyffuriau
- Gwasanaeth Lleihau Niwed
- Gwasanaeth Gwella Cymhelliad
- Gwasanaeth Cyfnewid Nodwyddau Chwistrell
- Grŵp Pheonix - cymorth alcohol
- Tîm Alcohol a Chyffuriau Pobl Ifanc
Partneriaethau
Mae Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Sir y Fflint a’i is-grwpiau yn cynnwys yr asiantaethau partner, y cynrychiolwyr a’r sefydliadau canlynol:
- Heddlu Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Prawf Cymru
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Gwasanaeth Ieuenctid
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol
- Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc
- Addysg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Cefnogi Pobl
- Barnardo’s
- Mentrau ARCH
- Tai
- Cydgysylltydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Cynrychiolwyr Fforwm Camdriniaeth yn y Cartref
- Iechyd
- Gwasanaethau Plant
- Trwyddedu
- Safonau Masnach
- Dysgu Gydol Oes
Dolen(ni) Defnyddiol
Cyffuriau ac Alcohol Cymru - Pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy’n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.