Pan fyddwch yn derbyn contract gyda chartref sy’n eiddo i’r Cyngor, byddwch yn cael cytundeb contract. Mae’r cytundeb contract yn nodi’ch goblygiadau chi fel deiliad contract, a rhai Cyngor Sir y Fflint fel landlord. Mae’r cytundeb hwn yn gontract sy’n rhwymol yn gyfreithiol, rhyngoch chi a Chyngor Sir y Fflint.
Rhent a Thaliadau eraill
Caiff eich rhent ei ddefnyddio i dalu am y gwasanaethau tai rydych yn eu cael. Mae’n bwysig bod pawb yn talu eu rhent yn rheolaidd ac ar amser, fel y gallwn fforddio i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae’r adran hon yn sôn am eich goblygiadau i dalu eich rhent.
Ein Rhwymedigaethau;
1. Os ydym yn casglu’r tâl am nwy, trydan, cefnogaeth tenantiaeth, tanc septig, yswiriant cynnwys, neu’r drwydded teledu â chonsesiwn a gwasanaethau eraill fel rhan o'ch rhent i gyd, byddwn yn eu talu i’r sefydliadau priodol.
2. Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig sydd o leiaf 8 wythnos cyn cynyddu neu ostwng y rhent.
3. Gallwn gynyddu neu ostwng newidiadau eraill sy'n cael eu cynnwys yn y rhent gyda llai na phedair wythnos o rybudd.
4. Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig o leiaf wythnos ymlaen llaw am unrhyw newid i'r taliadau hyn.
5. Byddwn yn rhoi datganiad rhent cyfredol bedair gwaith y flwyddyn a phryd bynnag y byddwch yn gofyn am un.
6. Efallai y bydd gofyn i chi dalu’r taliadau gwasanaeth hefyd. Dyma daliadau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhent. Fe allai esiamplau o wasanaethau gynnwys glanhau ardaloedd cymunedol, garddio a gwasanaethau eraill mewn ardaloedd cymunedol. Os bydd tâl gwasanaeth, caiff ei nodi’n glir ar eich ffurflen manylion tenantiaeth.
Eich Rhwymedigaethau
1. Rhaid i chi dalu eich rhent ac unrhyw daliadau eraill yn rheolaidd ac ar amser, mae rhent yn ddyledus wythnos ymlaen llaw ar ddydd Llun.
2. Gall eich rhent gynnwys taliadau am nwy, trydan, tanc septig, yswiriant cynnwys, neu’r drwydded deledu â chonsesiwn a gwasanaethau eraill, os nad ydyw’n cynnwys y rhain, rhaid i chi dalu amdanynt yn uniongyrchol.
3. Rydych yn cytuno, os yw gwasanaethau cefnogi’n cael eu cynnwys fel amod o’ch meddiannaeth, y byddwch yn derbyn, yn talu ac yn defnyddio'r gwasanaethau cefnogi y cytunwyd arnynt, a ddarperir gennym ar eich rhan.
4. Rhaid i chi dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent yn unol ag unrhyw gytundeb a wneir gyda ni. Mae hyn hefyd yn gymwys i unrhyw ôl-ddyledion o denantiaeth flaenorol a oedd gennych gyda ni.