Compostio
Oherwydd cyfyngiadau o ran gofod a galw uchel, mae’r cyflenwad compost ar safleoedd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn brin. Rydym yn ailgyflenwi lefelau stoc yn y safleoedd hyn yn rheolaidd; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyflenwadau yn brin neu ddim ar gael ar adegau. Bydd argaeledd deunydd compost ar sail y cyntaf i’r felin.
Beth sy'n digwydd i Wastraff Gardd?
Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu Gwastraff Gardd o bob rhan o’r sir ac yn ei droi’n gynnyrch cyflyru pridd hynod gyfoethog. Cesglir tua 12,000 tunnell o wastraff gwyrdd o gartrefi Sir y Fflint, Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HRCs), ymyl ffyrdd, parciau a gerddi bob blwyddyn.
Mae'n cael ei gludo i safle compostio'r Cyngor ei hun ym Maes Glas. Dim ond llystyfiant fel glaswellt, canghennau, a dail y gellir eu cludo i'r safle, ni ellir derbyn eitemau fel pridd, cardbord neu blastig.
Gwastraff swmpus
Gallwch archebu lle ar gyfer casglu eitem swmpus ar-lein neu trwy ein Canolfan Gyswllt ar 01352 701234.
Casglu eitemau swmpus/dodrefn
Lleihau gwastraff - rhowch eich eitemau i bobl eraill!
Gall yr elusen leol Refurbs Flintshire (01352 734111) gasglu dodrefn y gellir eu hailddefnyddio ac eitemau trydanol o garreg eich drws a hynny am ddim. Fel arall, gallwch eu hysbysebu ar wefan Freecycle / Freegle lleol.