Alert Section

Gwastraff Gweladwy

O 1 Ebrill 2025, ni ddylech ddod â gwastraff heb ei ddidoli i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Rhaid i breswylwyr sy'n dod â bagiau du i mewn wahanu eu gwastraff cyn mynd i'r safle. Mae dros 50% o'r eitemau a gyflwynir mewn sachau du yn rhai y gellir eu hailgylchu.

Fel rhan o’n Strategaeth Adnoddau a Gwastraff, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo strategaeth Llywodraeth Cymru i greu economi gylchol, gynaliadwy yn Sir y Fflint. Mae gwastraff yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd a thrwy gynyddu'r hyn yr ydym yn ei ailgylchu a chael gwared ar lai, gallwn oll leihau ein heffaith.

Er y cydnabyddir bod llawer o drigolion yn ailgylchu cymaint ag y gallant ac yn cyfrannu at y ffigurau o 62%, mae dadansoddiad cyfansoddiadol diweddar yn dangos y gellir ailgylchu tua 58% o wastraff mewn biniau du trwy ein gwasanaethau ailgylchu lluosog.  Mae deunyddiau y gellir eu hailgylchu fel bwyd, gwydr, caniau, papur, plastigion a chardbord yn cael eu taflu pan fydd modd eu casglu'n wythnosol a'u hailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu ymyl y ffordd.

Beth yw'r polisi?

Mae’r Polisi Gwastraff Gweladwy yn ceisio annog trigolion i ddidoli eu gwastraff i’w ailgylchu, fel y gallwn osgoi anfon deunyddiau gwerthfawr i’w llosgi. Mae gennym oll Ddyletswydd Gofal i gael gwared ar ein deunydd ailgylchu a’n gwastraff yn gywir.

Pam mae’r polisi wedi’i gyflwyno?

Cynyddodd y targed statudol ar gyfer faint o wastraff sy’n cael ei baratoi i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio i 70%, ar ôl cael ei osod ar 64% yn y blynyddoedd blaenorol fel rhan o Strategaeth “Mwy nag Ailgylchu” Llywodraeth Cymru. 

Fodd bynnag, fel Cyngor, nid yw Sir y Fflint wedi llwyddo i gyflawni’r targedau statudol ers 2019 a, heb newid sylweddol i wasanaethau, ni fydd yn cyrraedd y targed o 70% sy’n ofynnol.

Gallai hyn arwain at gosbau ariannol sylweddol pellach gan Lywodraeth Cymru, y disgwylir iddynt fod yn fwy nag £1miliwn eisoes.

Pryd mae'r polisi'n dechrau?

Bydd y polisi gwastraff gweladwy yn cael ei gyflwyno mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref o 1 Ebrill 2025, cynghorir pob preswylydd i ddidoli eu gwastraff cyn mynd i’r safle a sicrhau bod eu gwastraff yn weladwy wrth gyrraedd.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Trefnwch wastraff i’w ailgylchu o ddeunyddiau na ellir eu hailgylchu gartref fel y gallwch chi, pan fyddwch chi'n ymweld â'r Ganolfan, ei roi yn syth yn y biniau cywir.  Bydd hyn yn gwneud eich ymweliad yn gyflymach ac yn haws.

Byddwch yn barod i agor bagiau y byddwch chi'n dod â nhw i'r Ganolfan i ddangos i'n tîm nad ydyn nhw'n cynnwys deunydd i’w hailgylchu. Os ydynt, efallai y gofynnir i chi ddychwelyd adref a didoli.

Dim ond eitemau na ellir eu hailgylchu a ganiateir yn sgip weddilliol Gwastraff y Cartref.

Oni fydd y Polisi hwn yn cynyddu tipio anghyfreithlon?

Mae gennym oll Ddyletswydd Gofal i gael gwared ar ein deunydd ailgylchu a’n gwastraff yn gywir. Rydym yn cynnig gwasanaeth ailgylchu helaeth trwy ein casgliadau ymyl y ffordd a Canolfannau Ailgylchu. Os byddwn i gyd yn cymryd y camau cywir ni ddylai fod unrhyw gynnydd mewn lefelau gwastraff a/neu dipio anghyfreithlon.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd.  Bydd tîm gorfodi’r Cyngor yn ymchwilio i unrhyw unigolion nad ydynt yn ymdrin â’u gwastraff yn gyfrifol ac yn cymryd rhan mewn tipio anghyfreithlon ac fe allent wynebu dirwyon sylweddol.

Nid yw Cynghorau eraill yng Nghymru sydd wedi cyflwyno polisi Gwastraff Gweladwy yn eu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi profi cynnydd mewn deunyddiau tipio anghyfreithlon.

Beth os oes gennyf eitemau sensitif yn fy magiau?

Sicrhewch fod unrhyw eitemau sensitif yn cael eu gwahanu cyn dod i'r safle.

A fydd gweithwyr y safle yn didoli fy neunyddiau ailgylchu a’m gwastraff i mi?

Na. Mae gennym oll Ddyletswydd Gofal dros ein deunyddiau ailgylchu a'n gwastraff ein hunain felly eich cyfrifoldeb chi yw eu didoli cyn mynd i mewn i'r safle.

Os nad yw gweithwyr yn gallu gweld cynnwys y gwastraff, ac na allwch ddidoli'n ddiogel i'r sgipiau cywir, gofynnir i chi adael y safle a gallwch ddychwelyd unwaith y bydd y deunyddiau ailgylchu a gwastraff wedi'u didoli.

Sut mae cael mwy o gynwysyddion ailgylchu?

Gall preswylwyr gael cymaint o focsys / bagiau ailgylchu ag sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod yr holl wastraff ailgylchadwy yn gallu cael ei roi allan i'w gasglu.

Cais Ailgylchu Eitemau / Gwastraff

Mae eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth MAWR yn Sir y Fflint.

Diolch i chi am barhau i wneud y peth iawn a chwarae eich rhan dros yr amgylchedd, drwy sortio eich gwastraff ac ailgylchu cymaint ag y gallwch.