a) Defnyddio cerbyd llogi i gael gwared ar wastraff cartref
Gellir rhoi trwydded dros dro i breswylydd Sir y Fflint sy’n llogi cerbyd i symud eu gwastraff cartref eu hunain.
Bydd angen i’r deiliad tŷ ddarparu’r cytundeb llogi cerbyd i ddangos fod y cerbyd wedi ei logi.
b) Benthyca neu ddefnyddio fan gweithle neu gwmni a cherbyd o fath masnachol
Gall deiliaid tai o Sir y Fflint ddefnyddio fan eu cyflogwyr neu gerbydau o fath masnachol (cyn belled fod y cerbyd yn cydymffurfio â chyfyngiadau o ran math a maint) i gael gwared ar wastraff cartrefi eu hunain mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Fodd bynnag, bydd y deiliad tŷ angen llythyr gan y perchennog (neu ei gynrychiolydd) ar bapur y cwmni sy'n rhoi caniatâd i'r ymgeisydd ddefnyddio'r cerbyd i symud eu gwastraff domestig eu hunain, a fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle'r Ddogfen Cofrestru Cerbyd V5 ar gyfer dibenion dilysu (bydd angen prawf preswylio yn Sir y Fflint gan ddeiliad y tŷ).
c) Benthyg neu ddefnyddio cerbyd teulu/ffrind
Gall deiliaid tai o Sir y Fflint ddefnyddio cerbyd aelod o’r teulu neu ffrind (ar yr amod bod y cerbyd yn cydymffurfio â chyfyngiadau o ran math a maint) i ollwng eu gwastraff cartref eu hunain mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Bydd dal angen prawf o breswyliad yn Sir y Fflint gan ddeiliad y tŷ, ond nid yw'n ofynnol bod y cerbyd wedi'i gofrestru yn Sir y Fflint.
Rhaid i’r math o gerbyd ar gyfer y cais am drwydded untro gydymffurfio ag un o’r mathau o gerbydau a nodir. Os nad yw’r cerbyd yn cyd-fynd â’r gofynion maint neu fath yna ni chaniateir iddo gael mynediad i safle canolfan gwastraff cartref.
Rhoddir trwydded dros dro unwaith yn unig mewn cyfnod o 12 mis a fydd yn rhoi caniatâd i wneud tri ymweliad dros gyfnod o saith diwrnod.
Er mwyn cael trwydded dros dro, mae’n rhaid gwneud cais ymlaen llaw trwy ymgeisio ar-lein, neu drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 / streetsceneadmin@siryfflint.gov.uk fel y gellir gwneud asesiad, a rhoi trwydded.
Gwneud cais am drwydded dros dro ar-lein