Alert Section

Casglu eitem swmpus / dodrefn

Rhoddwch

Mae'r elusennau lleol Refurbs Flintshire (01352 734111) yn gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim o garreg eich drws.

Fel arall, hysbysebwch nhw ar wefan Freecycle / Freegle.

Casglu oergelloedd / rhewgelloedd

Symudir oergelloedd a rhewgelloedd yn rhad ac am ddim o eiddo preswyl yn unig.

Mae’n rhaid i oergelloedd a rhewgelloedd gael eu gadael ar ymyl y palmant a dylid gwagio’r holl fwydydd cyn iddynt gael eu casglu.

Casglu eitem swmpus / dodrefn

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu ar gyfer eitemau na ellir eu cludo a’u gwaredu yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Gwiriwch isod pa eitemau y gellir eu casglu cyn archebu.

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Os fedrwch chi gario a chludo eitemau swmpus eich hun, fe allwch chi fynd ag amrywiaeth o eitemau yn rhad ac am ddim i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol. Mae’r canolfannau yn derbyn gwastraff pren, rwbel, pridd, asbestos a gwastraff peryglus.

Canolfannau Ailgylchu Cartref

Costau (yn cynnwys TAW)

  • Tâl am hyd at 5 eitem £45.00
  • Tâl am bob eitem ychwanegol £5.00

Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £70.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd).

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau penodol e.e. Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Cysylltiedig ag Incwm), Lwfans Byw i’r Anabl / PIP, Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredydau Pensiwn Gwarantedig, ac yn dangos tystiolaeth o hynny, fe allwch chi dderbyn casgliadau gwastraff swmpus rhatach.   

  • Tâl am hyd at 5 eitem £25.00
  • Tâl am bob eitem ychwanegol £5.00

Uchafswm y nifer o eitemau ychwanegol yw 5 (h.y. taliad uchafswm o £50.00 am weithrediad gyda 10 eitem i gyd)

Trefnu casgliad

Bydd angen i chi gyflwyno manylion eich budd-dal/pensiwn i ni i os ydych yn gymwys i gael gwasanaeth casglu gostyngol.

Rydym yn derbyn arian parod, cardiau debyd neu gardiau credyd.

Byddwn yn casglu'r eitem(au) o fewn 10 diwrnod.

Wyneb yn wyneb

Ymweld â’n canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf:

  • Bwcle
  • Treffynnon
  • Y Fflint
  • Cei Connah
  • Yr Wyddgrug

Ffôn

Ffoniwch 01352 701234 i dalu trwy gerdyn credyd/debyd.

Post

Anfonwch siec trwy'r post yn daladwy i 'Gyngor Sir y Fflint' ynghyd â rhestr o'r eitemau i'w casglu, eich enw, eich cyfeiriad a chopïau o fanylion eich budd-dal/pensiwn at:

Gwasanaethau Streetscene,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint
CH7 6NF.

Amodau a chyfyngiadau

  • Rhaid i chi osod yr eitemau y tu allan i’ch eiddo ond o fewn y terfyn (e.e. gardd ffrynt/rhodfa) o’r amser y mae’ch casgliad wedi’i bennu.
  • Ni allwn ddod i mewn i'ch cartref i helpu gyda'r paratoadau neu'r gwaredu.
  • Peidiwch â gadael yr eitemau ar lwybr troed neu ar y ffordd oherwydd gallai hynny arwain at eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
  • Mae'n rhaid bod y cerbyd casglu yn gallu parcio ar eich ffordd, heb gael ei rwystro na'i atal gan gerbydau eraill.
  • O ran eiddo â mynediad trafferthus, e.e. fflatiau, rhaid cytuno ar fan casglu gyda ni o flaen llaw.
  • Yr eitemau rydych chi wedi eu rhag-archebu yn unig y byddwn yn eu casglu.
  • Gallwn wrthod casglu unrhyw eitem a all effeithio ar iechyd a diogelwch ein staff casglu.
  • Gofynnwn i chi orchuddio eitemau sy'n debygol o amsugno dŵr glaw.
  • Ein nod yw casglu eich eitemau o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Byddwn yn ceisio ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint â phosib o’ch gwastraff. Rhowch wybod i ni os ydych yn credu y gellid ailddefnyddio eich eitem, mae’n bosib y gallwn drefnu dyddiad ac amser casglu i atal difrod gan y tywydd.