Alert Section

Sir y Fflint sy'n Gyfeillgar i Oed

Beth yw cymunedau sy'n gyfeillgar i oed?

Mae nifer y bobl sydd dros 65 oed yn Sir y Fflint wedi codi 23.7% ers cyfrifiad 2011. Mae disgwyl poblogaeth sy’n heneiddio barhau gan 2043.

Cafodd y syniad o gymunedau sy'n gyfeillgar i oed ei ddatblygu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i adnabod y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i gymunedau addasu i ac elwa o boblogaethau sy’n heneiddio.

Mae Cymuned sy’n Gyfeillgar i Oed yn galluogi pobl o bob oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ac mae’n trin pawb â pharch, waeth beth fo’u hoedran. Mae’r broses o ddod yn gyfeillgar i oed yn cynnwys unigolion, grwpiau lleol, gwasanaethau a busnesau sy’n dod at ei gilydd i wneud newid cadarnhaol i alluogi pobl i heneiddio’n dda ac, yn benodol, i sicrhau bod pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, a’u bod nhw’n gallu: 

  • Mynd allan o gwmpas
  • Gwneud y pethau maen nhw eisiau eu gwneud
  • Byw bywydau iach ac egnïol
  • Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
  • Cael llais

Mae Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio Llywodraeth Cymru yn nodi datblygiad cymunedau sy'n gyfeillgar i oed fel thema drawsbynciol sydd â’r nod o “wneud Cymru y lle gorau yn y byd i dyfu’n hŷn”. Mae Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn cael eu hannog i weithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn cynyddu pa mor gyfeillgar yw cymunedau i oedran ac i ymuno â Rhwydwaith Byd Eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o Ddinasoedd a Chymunedau Cyfeillgar i Oedran. Ymunodd Sir y Fflint â’r Rhwydwaith Byd-eang ym mis Mai 2023.

Sir y Fflint Cymunedau Oed-Gyfeillgar / Flintshire Age Friendly Communities

Sut mae Sir y Fflint yn elwa

  • Bod yn rhan o ymsymudiad rhyngwladol sydd yn tyfu sydd wedi ymrwymo i wella bywydau a lles pobl hŷn.
  • Derbyn newyddion diweddaraf yn rheolaidd am arferion sy’n gyfeillgar i oed o bob cwr o’r byd, gan rannu a dysgu o brofiadau pobl eraill.
  • Agor cyfleoedd cyllido posibl a dod o hyd i bartneriaid newydd i weithio gyda nhw.
  • Rhannu enghreifftiau o fentrau lleol ar wefan Byd sy’n Gyfeillgar i Oed sydd yn dangos enghreifftiau o arfer da o bob rhan o’r byd.
  • Helpu i wneud Cymru yn fwy cynhwysol, cefnogol a chyfeillgar ar y llwyfan byd-eang.

Sut mae cymunedau yn elwa 

  • Helpu i ddatblygu prosiectau a mentrau yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol • Cyfle i ddylanwadu ar newid y ffordd 
  • Cyfle i ddylanwadu ar newid y ffordd caiff gwasanaethau/gweithgareddau eu cynllunio/darparu er budd pobl o bob oed.
  • Dysgu am fentrau cyfeillgar i oed mewn ardaloedd eraill a all fod o fudd i’r gymuned.
  • Potensial i gael cyllid i gefnogi prosiectau lleol neu brosiectau ehangach gyda phartneriaid a chymunedau eraill.
  • Cyfrannu at wneud Sir y Fflint yn sir sy’n fwy cyfeillgar i oed.

Mae yna 8 thema i gymunedau sy’n gyfeillgar i oed

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi 8 thema (parth) o gymunedau sy’n eu gwneud nhw’n gyfeillgar i oed. Trwy weithio gyda’r gymuned leol, gallwn adnabod blaenoriaethau lleol a gwneud newidiadau i rai neu’r holl barthau i wneud y gymuned yn fwy cyfeillgar i oed.

Tarwch olwg ar y crynodeb o flaenoriaethau a chamau Sir y Fflint cyfeillgar i oedran

Er na ellir mynd i’r afael â phob blaenoriaeth yn syth, gallant helpu i lywio cynlluniau a pholisïau yn y tymor canolig a hirdymor. Gellir mynd i’r afael â nifer o’r blaenoriaethau yma drwy bobl yn cydweithio yn y gymuned.

Gallwch glicio ar bob thema i ddarllen mwy amdanynt.

Ymrwymiadau Sir y Fflint:

Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i gymunedau lleol.

Mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn y sector cyhoeddus lleol yn cydweithio fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i benderfynu ar flaenoriaethau lles Sir y Fflint a Wrecsam er mwyn gwella lles ar draws y ddwy sir. Mae’r Bwrdd yn cynnwys sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynnal asesiad lles ac yn pennu amcanion Cynllun Lles 2017-2023 ar gyfer gwella lles.

Mae gan y Cyngor flaenoriaethau partneriaeth iddo ef ei hun fel sefydliad unigol. Mae’r blaenoriaethau hyn yn ystyried barn pobl leol a disgwyliadau partneriaid, yn ychwanegol at bolisi Llywodraeth Cymru a chyfrifoldebau cyfreithiol y Cyngor. Darllenwch Gynllun Cyngor Sir y Fflint

Cyhoeddwyd asesiad lles diwethaf Sir y Fflint ym mis Mai 2022. Ym mis Chwefror 2023 daeth Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam at ei gilydd yn ffurfiol fel un corff, ac mae’r Bwrdd wrthi’n datblygu Cynllun Lles 2023-28 ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam, a fydd yn cael ei gyhoeddi fis Mai 2023.

Mae datblygu a gweithredu cynllun Cyngor Sir y Fflint a pholisïau a chynlluniau cysylltiedig yn ogystal â Chynllun Lles Sir y Fflint a Wrecsam, yn cael dylanwad cadarnhaol ar ba mor gyfeillgar yw ein cymunedau i oed ar draws yr wyth thema ‘cyfeillgar i oed’.

Cysylltwch â ni

Hoffem glywed am weithgareddau oed-gyfeillgar sy’n cael eu cynnal yn eich cymuned chi. Anfonwch neges i YmgysylltiadPH@siryfflint.gov.uk cofiwch gynnwys disgrifiad o’ch gweithgaredd oed-gyfeillgar a nodi ym mha ardal mae’r gweithgaredd yn cael ei gynnal. 

Ymgysylltu â Phobl Hŷn