Mae cymunedau o blaid pobl hŷn yn herio oedraniaeth drwy ddod â phobl o wahanol oedrannau at ei gilydd a meithrin delweddau cadarnhaol o heneiddio.
Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?
- Gweithgareddau i bawb o bob oed gymryd rhan ynddyn nhw
- Hyfforddiant/sesiynau codi ymwybyddiaeth i fusnesau a darparwyr gwasanaeth i sicrhau bod eu busnes/gwasanaeth yn gynhwysol
- Prosiectau sy’n galluogi pobl o bob oed gyfnewid sgiliau a gwybodaeth
Astudiaethau Achos
Sefydlwyd grŵp Cymuned Cyfeillgar i Ddementia ac Oed Treffynnon yn 2018 gyda’r nod o wneud Treffynnon a’r ardal gyfagos yn gymunedau diogel a chynhwysol sy’n cynnig gweithgareddau/cyfleusterau sy’n galluogi pawb i heneiddio’n dda. Un o brif nodau’r grŵp yw codi ymwybyddiaeth am ddementia fel bod pobl â dementia a’u gofalwyr yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a bywiog.
Yn 2019, derbyniodd y grŵp grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gwynt y Môr i ddathlu prosiect ymgysylltu â’r gymuned gyda 6 ysgol a chymuned yn ardal wledig gogledd Sir y Fflint. Defnyddiwyd drama a pherfformio yn y prosiect fel cyfrwng ar gyfer gweithio gyda phlant ysgol gynradd i wella eu dealltwriaeth o ddementia a sut gall y gymuned ehangach gymryd camau syml i alluogi rhagor o bobl ddiamddiffyn i deimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i barhau i gymryd rhan weithredol yn y gymuned. Roedd y prosiect yn cynnwys y camau canlynol:
- Dysgodd staff a disgyblion ym mhob ysgol am ddementia a dod yn Ffrindiau Dementia.
- Gweithiodd ymarferydd celfyddydau cymunedol gyda grŵp bychan o blant ym mhob ysgol i ddatblygu perfformiad ar ddementia a heneiddio’n dda a rannwyd gyda chymuned yr ysgol.
- Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau diogelwch cymunedol yn yr ardal, yn darparu cyfleoedd i oedolion hŷn ddysgu am yr amrywiaeth o wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael i’w galluogi i heneiddio’n dda.
- Cafwyd dathliad diwedd prosiect ym Mharc Dyffryn Maes Glas i oedolion hŷn (gan gynnwys pobl sy’n byw â dementia) a disgyblion o bob ysgol, i annog y cenedlaethau i ddysgu gyda’i gilydd a galluogi plant i ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu newydd a’u dealltwriaeth o ddementia a heneiddio’n dda.
Mae’r prosiect wedi gwireddu’r canlynol:
- cymerodd 214 o ddisgyblion (6 - 11 oed) ran mewn sesiynau ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia a dod yn Ffrindiau Dementia
- Daeth 17 o staff ysgol yn Ffrindiau Dementia
- Mynychodd 40 o ymwelwyr ddigwyddiadau diogelwch cymunedol, gan dderbyn gwybodaeth a chyngor a chefnogaeth ddilynol gan 15 o sefydliadau statudol a thrydydd sector
- Mynychodd 102 o ddisgyblion a 24 o oedolion hŷn y digwyddiad Dathlu a chafwyd adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr.
Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd