Mae cymunedau hygyrch yn galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau lleol. Mae strydoedd sydd mewn cyflwr da ac â digon o olau, arwyddion clir, mannau gwyrdd a thoiledau cyhoeddus i gyd yn cefnogi pobl hŷn i barhau i fod yn egnïol ac i fyw bywydau annibynnol.
Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?
- Gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau parciau a mannau gwyrdd (goleuadau, meinciau ac ati)
- Gwella mynediad adeiladau cymunedol i alluogi pawb i gymryd rhan
- Sicrhau bod toiledau ar gael mewn llefydd (e.e. canol trefi, parciau, llwybrau cerdded)
- Mannau croesi sy’n hawdd eu defnyddio gan bobl gyda nam ar y synhwyrau neu broblemau symudedd