Mae gallu cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu yn chwarae rhan bwysig i gynnal iechyd meddal a lles cadarnhaol. Mae cymunedau sy'n gyfeillgar i oed yn galluogi pobl hŷn i ryngweithio gydag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.

Pa fath o brosiectau allai fod yn berthnasol i’r parth yma?
- Gweithgareddau sy’n darparu cyfle i bobl gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
- Cynlluniau atgyfeirio sy’n cyfeirio unigolion at weithgareddau/gwasanaethau sy’n gwella eu hiechyd a’u lles
- Cyfleoedd dysgu anffurfiol sy’n annog pobl i ddysgu sgiliau newydd ac i fagu hyder
- Hyfforddiant a chymorth i helpu pobl i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau ar-lein
- Oriau siopa tawel neu “di-straen” ac ardaloedd gorffwys/eistedd mewn busnesau lleol