Alert Section

Fy Nghyfrif


Gallwch gysylltu â Chyngor Sir y Fflint yn syth drwy greu Fy Nghyfrif. 

Bydd Fy Nghyfrif yn caniatáu i chi gael mynediad ardal bersonol ar ein gwefan lle allwch chi addasu’r cynnwys i gyd-fynd a’ch dewisiadau a’ch diddordebau unigol chi. Gallwch olrhain cynnydd unrhyw geisiadau a wnaethoch i’r Cyngor, gwybodaeth am wastraff ac ailgylchu, gweld pwy yw eich cynghorydd lleol a llawer iawn mwy.

  • Mae Fy Nghyfrif ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Mae eich manylion yn cael eu cadw, nid oes angen eu  mewnbynnu eto - gan arbed amser i chi
  • Ar-lein yw’r ffordd rataf o gael mynediad at ein gwasanaethau
  • Eich gwybodaeth yn ddiogel

Creu Fy Nghyfrif

Mewngofnodi i Fy Nghyfrif 

Cymorth a Chyngor 
Os oes angen cymorth i greu neu fynd i Fy Nghyfrif gall y wybodaeth isod fod o help.

Sut mae creu Fy Nghyfrif?

I greu Fy Nghyfrif neu fynd i Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu am gymorth

  • mae’n rhaid i chi fod â chyfeiriad e-bost dilys
  • bydd angen i chi greu cyfrinair diogel
  • rhaid i chi gytuno â’n Telerau ac Amodau 

Allwch chi ond cael cyfrif os ydych yn byw yn Sir y Fflint?

Na, does dim rhaid i chi fod yn byw yn Sir y Fflint i greu Fy Nghyfrif.   

Rydw i wedi anghofio fy enw defnyddiwr a fy nghyfrinair.

I fewngofnodi bydd angen i chi fewnbynnu eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn gywir.  Peidiwch â cheisio mewngofnodi gyda chyfrinair na allwch ei gofio gan y bydd gormod o geisiadau anghywir yn cloi eich cyfrif.

Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr. Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair cliciwch ar y ddolen ‘'Wedi anghofio eich cyfrinair?’ ar waelod y dudalen mewngofnodi.

Dydi fy nghyfeiriad e-bost ddim yn cael ei dderbyn

Efallai nad oedd y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd yn ddilys.  Os ydych wedi cysylltu â ni yn y gorffennol (dros y ffôn, ar e-bost neu ar-lein) ac wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni mae’n bosibl e fod yn ein system yn barod.  Cysylltwch â ni am ragor o gymorth.

Rydw i angen help gyda Fy Nghyfrif.

 

Pe baech angen unrhyw gymorth gyda Fy Nghyfrif cliciwch ar cysylltu â ni.

Sut fyddwch chi’n defnyddio fy ngwybodaeth?

Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner er mwyn sicrhau fod ein cofnodion yn gyfredol ac yn gywir a hefyd i’n helpu ni i weld a oes gwasanaethau neu fuddiannau y mae gennych o bosibl hawl iddynt neu a fydd o ddiddordeb i chi.  Efallai hefyd y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth er mwyn atal a datgelu twyll a/neu droseddau eraill fel sy’n ofynnol dan y gyfraith.  Am ragor o wybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth cyfeiriwch at ein Hysbysiad Preifatrwydd.