Rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau i’r ffordd mae’r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu yn gweithredu megis tracio cerbydau, telemateg a theledu cylch caeedig 360 gradd ym mhob un o’n cerbydau casglu. Mae’r cyfan yn ein helpu i wneud ein gwasanaethau yn fwy effeithlon, yn gwella’r wybodaeth sydd ar gael i breswylwyr ac yn cyfrannu tuag at ein targed o ailgylchu 70%.
Yn 2020 cynhaliwyd treial llwyddiannus gan ddefnyddio sticer electronig ar gyfer biniau brown, a elwir yn RFID (adnabod amledd radio).
Yn 2022, fe wnaethom gyflwyno sticer newydd, sy’n cynnwys tag RFID (adnabod amledd radio) i bob aelwyd sy’n tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth casglu. Y bwriad yw gosod y sticeri electronig, sy’n gweithio’n debyg i dagiau neu sticeri diogelwch mewn siopau, ar y bin brown a’u cofrestru ar gyfer pob eiddo. Bwriedir i’r sticer electronig gael ei sganio’n awtomatig gan ddarllenydd sglodyn ar y lifft bin ar gefn y lori bin i gadarnhau bod yna danysgrifiad a’i gwneud yn haws i’r criwiau nodi bod y bin yn gymwys ar gyfer casglu. Mae’r darllenydd sglodyn yn debyg i sganiwr archfarchnad neu ddarllenydd cod bar a’r unig ddata a gesglir yw bod y bin wedi’i gasglu.
Mae’r defnydd o sticeri RFID yn ein helpu i adnabod ar unwaith os yw’r casgliad wedi’i fethu, cofnodi’r biniau wedi’u gwagio a chadarnhau fod yr holl finiau ar y rownd wedi’u prosesu.