Gorfodaeth Gwastraff Ychwanegol
Dechreuodd gorfodaeth ym mis Mawrth 2018 ond cafodd ei atal ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol o ran gwastraff ychwanegol ar draws y Sir, nad yw’n gynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau llym, y mae’n rhaid eu cyrraedd, ar gyfer pob awdurdod lleol er mwyn lleihau gwastraff, ac ailgylchu ac ailddefnyddio mwy o ddeunyddiau. I ddiwallu’r targedau hyn mae’n rhaid i ni leihau faint o wastraff ychwanegol sy’n cael ei gyflwyno i’w gasglu, bu cynnydd nodedig ar draws y sir, ac nid yw hyn yn gynaliadwy mwyach ac felly mae’n rhaid addysgu ac yna cyflwyno camau gorfodi.
Yn Sir y Fflint, nid oes cyfyngiad ar faint o ddeunydd ailgylchu y caiff preswylwyr eu rhoi allan i’w casglu, neu fynd â nhw i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod ac i weld dolenni cyswllt, gweler y Cwestiynau Cyffredin isod.
Gwastraff ychwanegol yw bagiau neu eitemau ychwanegol a gaiff eu rhoi allan i’w casglu nad ydynt wedi cael eu rhoi yn y cynhwysyddion cywir a ddarperir gan yr awdurdod. Mae bin sy’n orlawn, gan atal y caead rhag cau gan fod sachau wedi’u pentyrru hefyd yn cyfrif fel gwastraff ychwanegol.
Bydd criwiau casglu’n casglu sbwriel sy'n cael ei gyflwyno ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. Ni fydd bagiau neu eitemau ychwanegol sydd wrth ochr y bin ar olwynion, neu finiau ar olwynion sydd wedi’u gorlenwi a bod y caead methu cau’n iawn, yn cael eu casglu.
Gall y rhan fwyaf o wastraff sy'n cael ei daflu o’r cartref gael ei roi yn eich casgliadau ailgylchu wythnosol. Yn Sir y Fflint, rydym wedi gwneud cynnydd gwych i gyflawni targedau ailgylchu Cenedlaethol, fodd bynnag, mae gostyngiad wedi bod yn y 2 flynedd ddiwethaf ac yn anffodus, rydym yn anfon mwy o wastraff i gael ei waredu.
Mae’n rhaid i ni gyflawni targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o’r deunydd yr ydym yn ei gynhyrchu. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i bawb reoli’r deunyddiau y maent yn eu cynhyrchu yn eu cartref a lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle bo modd.
Dim ond eitemau na ellir eu hailgylchu y dylid eu rhoi yn y bin du.
Rydym wedi dadansoddi beth mae preswylwyr yn ei gynnwys yn y biniau du ar olwynion ac ar gyfartaledd, mae llawer o ddeunydd ailgylchadwy'n dal i gael ei waredu fel gwastraff. Mae angen i ni ddargyfeirio’r deunydd ailgylchadwy o'r bin i mewn i'ch casgliadau ailgylchu wythnosol. I helpu i annog hyn, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cyfyngiad ar faint o wastraff y gallwch ei gyflwyno i gael ei gasglu.
O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, roedd gorfodaeth gwastraff ychwanegol wedi cael ei atal rhwng mis Mawrth 2020 a mis Medi 2021. Gwnaethpwyd hyn yn sgil peryglon iechyd a diogelwch i’n tîm gorfodaeth, a fyddai’n gorfod archwilio’r gwastraff mewn bagiau du i ddod o hyd i dystiolaeth er mwyn nodi o ble mae’r gwastraff yn dod. Yn ogystal â hynny, gan fod y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi cau am gyfnod, nid oedd modd i drigolion waredu eitemau mwy na gwneud cais am ragor o gynwysyddion ailgylchu i ymdrin â’u gwastraff yn gyfrifol.
- Ailddefnyddio rhai eitemau, fel jariau gwydr, poteli a thuniau bisgedi
- Compostio gartref
- Trwsio eitemau
- Lleihau gwastraff drwy brynu nwyddau sydd â llai o ddeunydd pecynnu
- Defnyddio ein cynllun casglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd a chasgliad gwastraff bwyd wythnosol.
- Defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- Gwneud cais am Gasgliad Clytiau a Chynnyrch Hylendid Amsugno
Ewch i walesrecycles.org.uk er mwyn gweld awgrymiadau i leihau eich gwastraff.
Nid oes cyfyngiad ar faint o ailgylchu y gallwch chi ei gyflwyno ar gyfer eich casgliad ailgylchu wythnosol – os oes angen mwy o gynwysyddion ailgylchu, gallwch archebu mwy gynwysyddion ailgylchu ar-lein yma neu trwy ffonio 01352 701234.
Gellir casglu’r rhain dros y cownter mewn Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu neu Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gan ddefnyddio’r cod a ddarperir.
Bydd y Cyngor yn monitro’r casgliadau ac yn rhoi gwybod i breswylwyr sut y gallant ailgylchu mwy a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gyflwyno i‘w waredu. Os daw hi i’r pen a bod trigolion yn rhoi gwastraff ychwanegol allan yn rheolaidd a heb wrando ar gyngor am ailgylchu, gall y Cyngor gymryd camau gorfodi.
Cam un (Anffurfiol): Cyflwyno llythyr rhybuddio.
Y cam cyntaf yw cyflwyno llythyr o gyngor a phamffled ar sut i leihau gwastraff a beth y gellir ei ailgylchu. Bydd sticer hysbysu hefyd yn cael ei roi ar y bin. Bydd y criw yn derbyn y gwastraff ychwanegol ar yr achlysur hwn.
Cam dau (Ffurfiol): Cyflwyno Rhybudd Adran 46
Bydd rhybudd ffurfiol o fwriad i gymryd camau yn cael ei gyflwyno i’r eiddo, gelwir y rhybudd hwn yn Rhybudd Adran 46.Ar y cam hwn, bydd swyddog gorfodi’n helpu i egluro’r gwasanaeth ac yn cynnig cyngor. Fodd bynnag, bydd y cam hwn yn cael ei gofnodi a’i fonitro.
Ni fydd y criw yn derbyn y gwastraff ychwanegol ar yr achlysur hwn, byddant yn gadael y gwastraff i’r preswylydd eu trefnu i’r cynwysyddion ailgylchu a ddarperir a’u gwaredu yn barod ar gyfer y casgliad nesaf.
Cam 3 (Ffurfiol): Cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig.
Bydd Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei gyflwyno os nad yw’r preswylydd yn newid eu hymddygiad a’u bod yn parhau i gyflwyno gwastraff ychwanegol yn dilyn cam un a dau. Bydd 28 diwrnod i dalu’r Rhybudd Cosb Benodedig, sy’n £75. Os nad yw’n cael ei dalu, gall y Cyngor symud ymlaen i erlyniad. Bydd unrhyw wastraff ychwanegol yn cael ei adael i’r preswylydd ymdrin â hwy yn briodol. Nodwch: ni fyddwn yn dychwelyd i gasglu gwastraff ychwanegol sydd wedi’i nodi fel casgliad a gollwyd yn dilyn Cam 2 a 3. Bydd cyfeiriadau’n cael eu cofnodi a’u monitro.
Trefnwch eich deunyddiau i’r cynwysyddion ailgylchu dynodedig a ddarperir gan y Cyngor.
Ystyriwch Gasgliad Gwastraff Swmpus
Ewch â’ch gwastraff i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref agosaf gan sicrhau eich bod wedi eu trefnu a’u rhannu yn barod ar gyfer eich ymweliad a’u bod yn cael eu rhoi yn y cynwysyddion cywir ar y safle.
Byddwch yn ystyriol o’ch cyfrifoldeb dyletswydd gofal; wrth waredu gwastraff. Os ydych yn talu i rywun waredu eich gwastraff ar eich rhan, defnyddiwch ddarparwr sgip neu gludwr gwastraff cofrestredig priodol; rydych yn dal i fod yn atebol am gam gorfodi os daw i’r amlwg bod eich gwastraff wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon.
Os ydych chi’n teimlo nad yw maint eich bin yn ddigon ar gyfer anghenion eich teulu, efallai y byddwch yn gymwys i gael bin mwy. 180 litr yw maint bin gwastraff du sylfaenol, ond gall teuluoedd mwy (6 neu fwy yn y cartref) wneud cais am y bin mwy sy’n dal 240 litr, ar yr amod eu bod yn ailgylchu cymaint â phosib’.