Gwirio'ch diwrnod biniau
Casgliadau Brown Bin
Gan nad oes llawer o breswylwyr yn defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff yr ardd yn ystod misoedd y gaeaf, ni fydd biniau brown yn cael eu casglu yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror yn y dyfodol.
Ble dylwn osod fy miniau er mwyn iddynt gael eu casglu?
Dylech sicrhau fod eich biniau/cynwysyddion yn cael eu gosod ar garreg y drws erbyn 7am heb achosi rhwystr. Os oes angen ac os yw’n ddiogel gwneud hynny, gallwch osod eich biniau allan i gael eu casglu’r noson gynt. Carreg y drws yw lle mae eich eiddo yn cwrdd â’r palmant/ffordd. Man casglu eiddo sydd â dreif hir preifat yw’r man lle mae’r dreif yn cwrdd â’r ffordd/priffordd. Lle mae angen, byddwn yn gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer mannau casglu penodol i fflatiau, eiddo â mynedfeydd cul neu eiddo sy’n anodd ei gyrraedd. Bydd y Tîm Ailgylchu’n hysbysu perchennog yr eiddo o’r rhain.
Calendr a chwilio am ddiwrnod casglu gwastraff
Byddwn yn casglu gwastraff fel arfer ar wyliau banc, ac eithrio diwrnod Nadolig a Gŵyl san steffan. Cewch wybodaeth am ddigwyddiadau a fydd yn tarfu ar y gwasanaeth e.e. tywydd gwael/prinder tanwydd, ar eich prif dudalen ar y we, www.siryfflint.gov.uk
Gwiriwch eich diwrnod bin yma