Alert Section

Beth I'w Roi Yn Eich Bin


Cadi bwyd

Derbynnir:

  • Ffrwyth cwymp
  • Pasta, reis a grawnfwyd
  • Bwyd sydd wedi mynd heibio'i ddyddiad defnydd.
  • Bwyd wedi llwydo a sbarion
  • Esgyrn a chroen pysgod / cig
  • Bagiau te a choffi mâl
  • Wyau (a’u plisgyn), caws, iogwrt
  • Pilion ffrwythau a llysiau
  • Bara, cacennau a melysion sych
  • Bwyd anifeiliaid anwes
  • Braster cadarn

Gwrthodir: Hylif neu olew. Mae banciau olew ar gael yn eich tomen leol. Peidiwch ag arllwys braster/olew i lawr y draen – gall hynny flocio dreiniau/carthffosydd. Pecynnau o unrhyw fath, hyd yn oed os ydynt yn fioddiraddadwy.

Ni fyddwn yn gwagio cistiau os defnyddir bagiau plastig neu fio-fagiau na chawsant eu dosbarthu gennym ni i’w leinio nhw, oherwydd gall hynny lygru’r cynnwys. Mae bio-fagiau yn ddrud a gofynnwn i chi eu llenwi nhw cyn eu clymu. 

Cais i gael mwy o fio-fagiau.

Bin brown (gwastraff o’r ardd)

Derbynnir:

  • Glaswell a dorrwyd
  • Toriadu o wrychoedd
  • Chwyn
  • Dail
  • Brigau a changhennau bach
  • Blodau
  • Planhigion pot

Gwrthodir: Gwastraff cegin neu gwympedig (rhowch y rhain yn eich cist gwastraff bwyd). Gwastraff, gwelltach neu blu anifeiliaid. Pridd, cerrig neu rwbel. Bagiau plastig, papur neu gardfwrdd

Blwch glas (gwydr cymysg)

Derbynnir:

  • Poteli gwydr a jariau (heb gaead ac wedi’u rinsio)

Gwrthodir: Pyrex, gwydrau yfed, bylbiau golau, darnau o wydr, platwydr (cwareli ffenestr), tuniau a chaniau, poteli plastig.

Bag glas (papur a chardfwrdd)

Derbynnir:

  • Papurau newydd
  • Catalogau
  • Papur swyddfa
  • Llythyrau / post sothach (heb y cyfeiriad a’r ffenestr blastig)
  • Carpion papur (mewn bagiau ar wahân)
  • Amlenni
  • Cyfeirlyfrau / Yellow Pages
  • Cylchgronnau/ llyfrynnau
  • Blychau (wedi’u gwasgu)
  • Cardiau cyfarch (heb dâp/plastig/llwch llachar)
  • Blychau wyau

Gwrthodir: cartonau diod/pecynnau Tetra, blychau Pringles a Twiglets, cardiau cyfarch â llwch llachar neu atodiadau eraill, ffotograffau, papur lapio ffoil, clingffilm etc.

Sach wen / llwyd (metel: tuniau a chaniau)

*gellir ei gymysgu â photeli plastig*

Derbynnir:

  • Caniau diod
  • Tuniau bwyd
  • Caniau bwyd anifeiliaid anwes
  • Caniau erosol (heb y caeadau plastig a'r botymau)
  • Caeadau metel
  • Tuniau bisgedi / fferins etc.
  • Ffoil alwminiwn (dim gwastraff bwyd/saim)

Gwrthodir: ffoil coginio / clingffilm, cynwysyddion bwyd parod / dysglau pastai, tuniau paent etc.

Sach wen / llwyd (poteli plastig)

*gellir eu cymysgu â thuniau a chaniau metel*

Derbynnir: - Poteli plastig, heb gaead, wedi’u rinsio a’u gwasgu -

  • Dŵr
  • Llaeth
  • Diodydd
  • Siampŵ
  • Gel cawod
  • Hylif golchi llestri
  • Cannydd
  • Hylif glanhau etc
  • Pecynnau Margarîn
  • Potiau Iogwrt / Nwdls
  • Cynwysyddion Bwyd
  • Pacedi Ffrwythau
  • Cartonau Bwyd a Diod cwyr; cartonau sudd, cartonau cwstard ac ati

Gwrthodir – Polystyren, clingffilm, pecynnau creision, potiau planhigion, cynwysyddion du etc.

Bin sbwriel (du)

Derbynnir:

  • Sbwriel na ellir ei ailgylchu sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
  • I atal sbwriel rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, cofiwch ailgylchu cymaint â phosibl

Gwrthodir:

  • Gwastraff o’r ardd
  • Gwastraff bwyd
  • Eitemau DIY – paent, tuniau paent, cerrig, graean, rwbel, gwastraff adeiladwyr, teils
  • Gwastraff clinigol - gwastraff meddygol, nodwyddau
  • Cyrff anifeiliaid anwes
  • Olew coginio
  • Olew car
  • Eitemau trydanol
  • Gwastraff busnes
  • Gwastraff peryglus (toddyddion, cemegolion, paent, olew cerbydau, batris, tiwbiau fflworolau, bylbiau golau sy’n cynnwys mercwri, gwenwyn, abwyd)
  • Asbestos