Bathodyn Glas - Rhestr wirio: nam gwybyddol
Mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael bathodyn glas o dan y meini prawf ar gyfer nam gwybyddol.
Mae'r meini prawf hyn yn gymwys i bobl sy'n ei chael yn anodd cynllunio neu ddilyn siwrnai i'r fath raddau y mae angen cadw llygad arnynt o hyd.
Gall hyn gynnwys pobl ag:
- Awtistiaeth
- Alzheimer's neu ddementia
- Wedi cael strôc
- Anableddau dysgu
- Salwch meddwl
- Anafiadau i'r pen/ymennydd
Sylwch nad yw'r rhestr hon yn cynnwys pob dim ac nad yw'r meini prawf hyn wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar ddiagnosis o'r cyflyrau; mae angen bodloni'r gofynion diogelwch sydd mewn print trwm uchod hefyd.
Ydych chi'n dioddef o unrhyw un o'r cyflyrau uchod a hefyd yn ei chael yn anodd cynllunio neu ddilyn siwrnai?
Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar sail Nam Gwybyddol a bydd angen dilysu'ch hanes blaenorol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd. Gallwch wneud cais drwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01352 701304 neu drwy ymweld â'ch swyddfa Cysylltiadau Sir y Fflint agosaf. Sir y Fflint yn Cysylltu. Dylech ddod â'r dogfennau a ganlyn hefo chi:
Prawf o bwy ydych chi
Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:
- Tystysgrif geni / mabwysiadu
- Tystysgrif priodas / ysgariad
- Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneraeth sifil
- Trwydded yrru ddilys
- Pasbort dilys
Prawf o ble rydych yn byw
Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:
- Bil Treth Gyngor
- Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan
Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas
Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar. Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Tystiolaeth
Unrhyw un o'r canlynol os ydych dan 64 oed:
• Cyfradd Uwch Elfen Gofal Lwfans Byw i'r Anabl hefyd llythyr yn rhoi diagnosis o nam gwybyddol.
• Neu, llythyr yn rhoi diagnosis o nam gwybyddol a/neu lythyr yn gofyn i chi fynd i glinig cof.
• Neu, Taliad Byw'n Annibynnol (PIP) – 12 pwynt Cynllunio Siwrnai.
Os ydych dros 64 oed, bydd angen llythyr yn rhoi diagnosis o nam gwybyddol gan weithiwr iechyd proffesiynol a/neu llythyr yn gofyn i chi fynd i glinig cof.
Mae'n bosibl defnyddio gwasanaeth Cynghori Annibynnol i benderfynu a ydych yn gymwys i gael Bathodyn Glas ai peidio os na fedrwch ddarparu'r dystiolaeth uchod.
Sut rydw i'n darparu'r dogfennau hyn?
Oes gennych chi anabledd cerdded dros dro ond sylweddol, sy’n debygol o barhau am y 12 mis nesaf?
Oes
Mae'n ddrwg gennyf, ond gan nad ydych chi'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf, ni fyddai'n briodol bwrw ymlaen â'ch cais gan nad yw'n debygol y byddem yn rhoi bathodyn i chi. Os bydd eich amgylchiadau'n newid, neu os oes gennych ragor o wybodaeth i gefnogi'ch cais, cysylltwch â ni i drafod y mater.