Alert Section

Sut i ddarparu dogfennau i ddangos eich bod yn gymnwys i gael bathodyn glas


Gallwch ddarparu dogfennau i ategu'r cais mewn gwahanol ffyrdd, sef:

Defnyddiwch un o'n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu (dyma'r ffordd orau)

Galwch alw heibio i un o'n pump Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu i ddangos eich dogfennau a'ch llun. Dyma'r ffordd orau oherwydd byddwch yn gallu mynd â'ch dogfennau adref gyda chi ar yr un diwrnod a gall aelod o'n tîm ddilysu'r llun yn y fan a'r lle.

Dyma'r canolfannau:

  • Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, Wepre Drive, Cei Connah, CH5 4HA
  • Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, Hen Neuadd y Dref, Heol Fawr, Treffynnon, CH8 7TD
  • Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, Swyddfeydd y Sir, Lôn y Capel, Y Fflint, CH6 5BD
  • Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell Bwcle, Y Ganolfan Siopa, Bwcle, CH7 2EF
  • Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, Llyfrgell, Yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AP 

Rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Anfonwch lungopi, wedi'i ardystio, o'ch dogfen(nau)

Gallwch anfon llungopi, wedi'i ardystio, o'ch dogfennau (rydym yn awgrymu'ch bodyn eu hanfon drwy'r post cofrestredig), ynghyd â llun, wedi'i ardystio. Os dyma'r dull y byddwch yn ei ddewis, rhaid i chi ganiatáu digon o amser iddynt gyrraedd.

Llungopi wedi'i ardystio yw llungopi o ddogfen y mae person 18+ oed, sy'n eich adnabod ers o leiaf dwy flynedd, nad yw'n bartner nac yn perthyn i chi, wedi cadarnhau ei bod yn wir.

Rhaid i'r rhai sy'n dilysu'r dogfennau gynnwys y geiriau " Mae hwn yn gopi cywir o'r gwreiddiol" wrth ymyl eu llofnod. Dylent hefyd brintio'u henw, eu manylion cysylltu a'u galwedigaeth gyda'r wybodaeth. Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â nhw i gadarnhau pwy ydynt.

Dyma enghreifftiau o'r math o berson a allai lofnodi'r dogfennau.


 
Cyfrifydd Ynad Heddwch Swyddog heddlu
Swyddog banc / cymdeithas adeiladu Daliwr trwydded tafarn Gweithiwr cymdeithasol
Bargyfreithiwr Swyddog llywodraeth leol Cyfreithiwr
Cynghorydd (lleol neu sir) Nyrs (RGN ac RMN) Syrfewr
Gwas Sifil Swyddog yn y lluoedd arfog Athro, darlithydd
Deintydd Optegydd Swyddog Undeb Llafur
Swyddog yn y GWasanaeth Tân Fferyllydd  

Sut fath o lun sydd ei angen

Gallwch anfon llun electronig at yr awdurdod lleol ar ffurf jpg. Rhaid i'r gwahaniaeth rhwng y wyneb a'r cefndir fod yn glir a, cyhyd ag y bo'n ymarferol, anfonwch lun :

  • lliw
  • yn mesur 45 milimetr o hyd a 35 milimetr o led (maint pasport)
  • wedi'i gymryd dim my na mis cyn dyddiad y cais
  • â chefndir llwyd golau neu hufen
  • heb ei ddifrodi
  • heb 'lygaid coch', cysgodion, adlewyrchiad neu ddisgleirdeb oddi ar sbectols
  • cynnwys y pen cyfan (a neb arall i'w weld, heb orchudd dros y pen, ac eithrio gorchudd sy'n cael ei wisgo oherwydd rhesymau crefyddol neu feddygol)
  • yn dangos yr ymgeisydd yn wynebu ymlaen
  • yn dangos wyneb yr ymgeisydd heb ei orchuddio o gwbl
  • yn dangos yr ymgeisydd yn edrych yn syth at y camera
  • yn dangos yr ymgeisydd heb unrhyw fynegiant ar ei wyneb a'i geg ar gau
  • yn dangos yr ymgeisydd â'i lygaid ar agor ac i'w gweld yn glir (heb sbectols haul, sbectols ag arlliw, a rhaid gofalu nad oes ffrâm sbectols neu wallt yn gorchuddio'r llygaid)
  • mewn ffocws clir
  • wedi'i argraffu'n broffesiynol neu ar fformat digidol
  • yn debygrwydd cywir, heb unrhyw newidiadau

Neu, gall un o'n Cynghorwyr Cwsmeriaid dynnu'ch llun yn un o'n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.