Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais dros dro a bydd angen dilysu'ch hanes blaenorol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd. Gallwch wneud cais drwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01352 701304 neu drwy ymweld â'ch swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu. Dylech ddod â'r dogfennau a ganlyn hefo chi:
Prawf o bwy ydych chi
Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:
- Tystysgrif geni / mabwysiaduTystysgrif priodas / ysgariad
- Tystysgrif partneriaeth sifil / diddymu partneraeth sifil
- Trwydded yrru ddilys
- Pasbort dilys
Prawf o ble rydych yn byw
Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:
- Bil Treth Gyngor
- Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan
Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas
Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar. Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.
Tystiolaeth
Bydd angen tystiolaeth i benderfynu pa un a yw’r nam yn debygol o bara am gyfnod o 12 mis. Bydd angen cyngor gan arbenigwyr a gellir darparu hyn trwy:
- Dimau ail-allu’r ysbyty sy’n cyfrannu at ofal y claf
- LlawfeddygGwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n cynorthwyo gydag adferiad cleifion (PARIS)
- Therapyddion Galwedigaethol
- Gweithwyr proffesiynol iechyd sy’n darparu gwasanaethau arbenigol e.e. ffisiotherapyddion, nyrsys macmillan ac ati a gellir talu am y rhain yn breifat, neu
- Y Gwasanaeth Asesu Annibynnol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru
Dylai’r dystiolaeth ddangos nad yw’r ymgeisydd yn gallu cerdded neu mae’n cael cryn anhawster yn cerdded a disgwylir i’r anawsterau hyn barhau am 12 mis neu fwy.
Lle bynnag mae hynny’n bosibl mae’r cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i ddarparu tystiolaeth gefnogol, os na ddarperir tystiolaeth o’r fath, byddwn ni fel yr awdurdod lleol yn penderfynu pa un ai i atgyfeirio’r ymgeisydd i’r Gwasanaeth Asesu Annibynnol.
NODER: Gall ymgeiswyr ddarparu copïau o ddogfennau neu gellir gwneud llungopïau o’r gwreiddiol.