Alert Section

Cynhorthwydd Personol


 Being a personal assistanst 670

Beth yw Cynorthwyydd Personol?

Gellir cyflogi Cynorthwyydd Personol drwy ddefnyddio arian Taliadau Uniongyrchol i helpu cefnogi a galluogi dinasyddion. Gall eich rôl fod yn amrywiol, dyma ambell i syniad o ran sut y gallai cefnogaeth fod yn ofynnol:

  • Cefnogaeth i gael gafael ar wasanaethau e.e. gweithgareddau hamdden a chymdeithasol
  • Hybu annibyniaeth
  • Cefnogaeth gyda pharatoi prydau a thasgau o gwmpas y tŷ
  • Cael mynediad at gyfleusterau a defnyddio cludiant cyhoeddus

 Bwriad y rôl yw cefnogi dinasyddion gyflawni eu nodau.


Sut mae’n gweithio?

Mae gan ddinasyddion gyda Thaliadau Uniongyrchol y dewis o recriwtio Cynorthwywyr Personol. Mae hyn yn golygu y bydd y dinasyddion sy’n dewis yr opsiwn hwn yn eich cyflogi chi. Mae ganddynt yr un cyfrifoldebau ag unrhyw gyflogwr arall. Byddant hefyd yn defnyddio darparwr gwasanaethau'r gyflogres i sicrhau bod eich cynllun Talu Wrth Ennill yn gywir a’i fod yn cydymffurfio â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Gallech benderfynu dod ynghyd gydag eraill sy’n dymuno darparu cefnogaeth i eraill, drwy greu model cydweithredol o Gynorthwywyr Personol.  Drwy weithio yn y ffordd yma, gallwch gynnig cefnogaeth i’ch gilydd, rhannu syniadau a manylion am weithgareddau lleol, creu cyfleoedd cymdeithasol newydd a chyfnewid syniadau am gefnogi pobl.

Gallai hyn fod o fudd i chi fel Cynorthwyydd Personol oherwydd fe allwch gysylltu â sawl cyflogwr i roi hwb i’ch oriau. Mae hefyd o fudd i gyflogwyr, oherwydd gall cydweithio helpu i atal cefnogaeth rhag chwalu i gyflogwr.


Beth yw’r buddion?

Mae bod yn gyflogedig yn golygu y byddwch â budd unrhyw weithiwr arall, fel hawl i wyliau blynyddol, absenoldeb mamolaeth ac absenoldeb salwch.

Yn aml, mae hyblygrwydd gyda rolau o’r fath, mae’r hyblygrwydd hwn yn gweithio’r ddwy ffordd.

Byddwch hefyd â’r cyfle i gael mynediad at hyfforddiant a chymwysterau i ddatblygu eich dysgu a’ch gwybodaeth eich hun.

Byddwch mewn rôl werthfawr, sy’n helpu eraill i aros mor annibynnol â phosibl, a helpu gyda hunan-ynysu.


Beth os ydw i wedi bod allan o waith?

Yn gyntaf, nid yw pob dinesydd yn chwilio am Gynorthwywyr Personol gyda phrofiad ffurfiol mewn rolau tebyg. Mae’n debygol y byddwch wedi cefnogi rhywun yn ystod eich bywyd eich hun ac mae hyn yn ei hun yn rhoi profiad y gall eraill elwa ohono.

Mae hyfforddiant ar gael ac fe gaiff ei annog yn gryf. Gall rhywfaint o’r hyfforddiant fod yn orfodol, ond mae cyfleoedd i gyflawni hyn cyn dechrau, neu wrth ddysgu eich rôl.

Mae rhai Dinasyddion angen cefnogaeth am ychydig o oriau’r wythnos yn unig, felly gallai hyn fod o fudd i chi a’ch helpu yn ôl i’r gwaith.

Mae yna sefydliadau sydd hefyd yn gallu eich helpu yn ôl i’r gwaith, gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder i fynd i weithio eto.


Beth nesaf.....

Mae swyddi gwag cyfredol cael eu hysbysebu ar safleoedd a gofodau amrywiol, e.e.:

  • Mae Porth Cymhorthydd Personol Cyngor Sir y Fflint 
  • Indeed
  • Y Ganolfan Byd Gwaith
  • Cyfryngau cymdeithasol
  • Grwpiau cymdeithasol lleol
  • Canolfannau Hamdden
  • Colegau
  • Dod o hyd i waith

Cysylltwch â’r tîm Taliadau Uniongyrchol i drafod swyddi gwag cyfredol ar 01352 701100 neu e-bost dp.support@flintshire.gov.uk

Gallwch hefyd greu eich proffil ar ein cofrestr CP i'w ystyried ar gyfer Cyfleoedd Cynorthwyol Personol

Ewch i www.siryfflint.gov.uk/porthcp ac i  Hafan Cynorthwywyr Personol i gofrestru eich proffil.

I gael rhagor o wybodaeth;

E-bost dp.support@flintshire.gov.uk 

Ffôn 01352 701100