Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau rhestredig a threftadaeth roi baich sylweddol ar berchnogion, yn arbennig o ran costau atgyweirio.
Er mwyn ceisio darparu anogaeth a chymorth i berchnogion i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif i gadw adeiladau o’r fath mewn cyflwr cadwraeth cadarnhaol, mae’r Cyngor wedi datblygu cynllun grant atgyweirio adeiladau a fydd yn rhedeg yn ystod y flwyddyn ariannol yma a’r nesaf mewn ffurf beilot. Yna bydd y buddion yn cael eu gwerthuso ar gyfer cyllid yn y blynyddoedd i ddod.
Y nod yw darparu cymorth cymharol ar gyfer costau cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol, a’r egwyddorion allweddol tu ôl i hyn yw annog perchnogion i ddeall eu hadeiladau o ran eu dyluniad, strwythur a chyflwr, a chyflawni gwaith cynnal a chadw rheolaidd a phriodol. Os oes angen gwaith atgyweirio, dylai’r rhain fod y lleiafrif angenrheidiol er mwyn sefydlogi a chadw’r adeilad ar gyfer goroesiad hirdymor ac i fodloni gofynion defnydd parhaus.
Mae’r Cyngor wedi paratoi nodyn cyfarwyddyd cryno sy’n egluro prif egwyddorion atgyweirio, ac yn nodi’r math o ddull y mae’r Cyngor yn chwilio amdano o ran ei allu i gefnogi ceisiadau grant.
Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr
Mae’r Cyngor wedi paratoi nodyn cyfarwyddyd ar gyfer ymgeiswyr posibl sy’n nodi pwy all wneud cais ar gyfer y grant, pa fathau o adeiladau treftadaeth sy’n gymwys, pa waith sy’n cael eu cynnwys, a’r swm o grant sydd ar gael. Yn dibynnu ar y math o adeiladu treftadaeth, bydd y grantiau yn daladwy am hyd at hanner y costau cymwys, hyd at uchafswm o rhwng £2,500 a £10,000.
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr posibl adolygu’r ddau nodyn cyfarwyddyd uchod, a dylent ystyried gael trafodaeth anffurfiol gyda’r Tîm Cadwraeth Adeiladau i amlinellu natur yr atgyweiriad y maent yn ystyried gwneud cais amdano, ac i gael safbwynt mewn egwyddor, yn ogystal â chyngor ar wybodaeth gefnogol sydd ei angen o fewn y cais.
Ar hyn o bryd mae’r Tîm Cadwraeth Adeiladau yn parhau i weithio o gartref yn sgil sefyllfa barhaus Covid a’r ffordd orau o gysylltu yw trwy e-bost i’r cyfeiriad canlynol conservation@flintshire.gov.uk.
Dylai’r ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais Grant Atgyweirio Adeiladau a’i ddychwelyd (drwy e-bost os yw’n bosibl) i’r Tîm Cadwraeth Adeiladau, i’r cyfeiriad uchod.
Mae ardaloedd cadwraeth yn ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae gan yr awdurdod cynllunio lleol ddyletswydd statudol i'w dynodi a'u gwarchod a gwella eu cymeriad neu eu hymddangosiad arbennig. Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd cyn gwneud unrhyw waith ar eiddo mewn ardal gadwraeth.
Gall nifer o nodweddion greu cymeriad ardal gadwraeth, megis deunyddiau adeiladu, arddulliau a nodweddion, gosodiad ffordd benodol neu batrwm datblygu. Mae archeoleg, topograffeg lleol, coed, tirwedd, tirwedd ehangach a golygfeydd hefyd yn bwysig.