1 – Ffurflen gais
Gwneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r Porth Cynllunio cenedlaethol (atodi’r cynlluniau a’r dogfennau, logio mewn/allan a chyflwyno pryd bynnag yr ydych yn barod, a chael arweiniad cam wrth gam), neu
Lawllwytho ffurflenni papur o’r Porth Cynllunio (i’w hargraffu a’u cyflwyno drwy'r post neu’n bersonol)
Ansicr pa ffurflen i'w defnyddio? Gweler Dewis eich cais ar y Porth Cynllunio
Pa bynnag ddull a ddewiswch bydd angen i chi gyflwyno un ffurflen sy'n cwmpasu eich holl anghenion e.e. caniatâd cynllunio perchenog tŷ gyda chaniatâd ardal gadwraeth. Bydd y Porth yn eich tywys at y ffurflen gywir.
I gael help i gyfrifo cyfaint adeiladau nodwch y mesuriadau yn arf cyfrifo cyfaint y Porth Cynllunio.
2 – Cynlluniau, dyluniadau a dogfennau cefnogol
Gofynion Cais Cynllunio – rhestr yw hon o'r dyluniadau a'r dogfenau cefnogol y mae'n rhaid i chi eu cyflwyno gyda'ch cais er mwyn iddo fod yn ddilys. Efallai y bydd angen i chi gyfeirio at sawl rhestr yn dibynnu ar eich math o gais, e.e. rhestr ar gyfer datblygiadau gan berchnogion tai ynghyd â rhestr am ganiatâd mewn ardal gadwraeth.
Os nad oes gennych y dogfennau electronig i’w hatodi i gais ar-lein mae'n dal yn bosibl i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein. Yna gallwch gyflwyno rhai neu'r holl ddogfennau ategol a'r tâl drwy'r post neu yn bersonol i'r cyfeiriad ar frig y ffurflen. Bydd y Porth Cynllunio yn eich tywys drwy'r broses.
Lleoliad Arolwg Ordnans a chynlluniau bloc (gofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau) – gellir prynu’r rhain oddi wrth ein Gwasanaethau Gwybodaeth Ddaearyddol neu ar-lein gyda’r chais Porth Cynllunio.
Gweld yr arweiniad ar y Datganiad Dylunio a Mynediad (DAS) (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer ceisiadau gan berchnogion tai).
3 – Y tâl
Os ydych yn gwneud cais ar-lein bydd eich tâl yn cael ei gyfrifo fel rhan o'r broses o wneud cais. Nid oes tâl ychwanegol am wneud cais ar-lein a gall arbed arian i chi o ran costau argraffu.
Gallwch gyfrifo cost eich cais gan ddefnyddio offeryn cyfrifo tâl y Porth Cynllunio neu lawrlwytho rhestr lawn o daliadau gwneud cais cynllunio
Gallwch dalu:
Dylai sieciau gael eu gwneud yn daladwy i 'Cyngor Sir y Fflint'. Ni ellir dychwelyd y tâl os byddwch yn tynnu'r cais yn ôl neu os yw eich cais yn cael ei wrthod (fodd bynnag, byddwn yn ad-dalu eich tâl os cyflwynir cais mewn achos lle nad oes angen caniatâd cynllunio). Mae'r tâl yng Nghymru yn wahanol i'r hyn a godir yn Lloegr.