Alert Section

Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnaf?


Gwaith y mae angen caniatâd ar ei gyfer

  • Codi a/neu ymestyn unrhyw fath o adeilad
  • Newid defnydd adeilad
  • Gosod ffenestri neu foeleri newydd
  • Troi croglofft yn ystafell
  • Newidiadau strwythurol i’r adeilad 
  • Gosod neu newid unrhyw osodiadau a reolir e.e. bath, cawod, boeler
  • Tanategu sylfeini adeilad
  • Gosodiadau trydanol
  • Ail-doi neu ail-blastro adeilad

Gwaith wedi’i hunanardystio

Os yw’ch gwaith adeiladu’n cynnwys dim ond gosod rhai mathau arbennig o wasanaethau neu ffitiadau (e.e. gosodiadau trydanol mewn anheddau, gosod systemau gwresogi, dŵr poeth, aerdymheru, awyru, gosod ffenestri newydd, toiledau a chawodydd) ac os ydych yn cyflogi gweithiwr sydd wedi cofrestru â Chynllun Person Cymwys perthnasol, fel y nodir yn y Rheoliadau Adeiladu, bydd y person hwnnw’n gallu hunanardystio'r gwaith. Gan hynny, ni fydd angen gwasanaeth yr adran Rheoli Adeiladu arnoch. Fodd bynnag, mae’r consesiwn hwn wedi’i gyfyngu’n gaeth i fathau arbennig o osodiadau ac nid yw’n cynnwys unrhyw fath arall o waith adeiladu.

Rhaid i’r gwaith ei hun fodloni gofynion technegol perthnasol cyfredol y Rheoliadau Adeiladu a rhaid gofalu nad ydynt yn peri i ffabrigau, gwasanaethau a ffitiadau eraill gydymffurfio llai nag yr oeddynt cynt. Er enghraifft, os ydych yn gosod ffenestri dwbl newydd, rhaid gofalu nad ydynt yn peri iddynt gydymffurfio llai o ran dulliau dianc, cyflenwad aer i declynnau hylosgi a ffliwiau a’u systemau awyru.


Gwaith sydd wedi’i eithrio

Mae’r Nodyn Canllaw ar Adeiladau sydd wedi’u Heithrio yn rhoi gwybodaeth am ystafelloedd haul, cynteddau, garejys domestig ac estyniadau ac adeiladau bach eraill sydd wedi’u heithrio o ofynion y Rheoliadau Adeiladu.


Oes angen caniatâd i...

Osod Ffenestri Newydd?

Mae angen i bawb sy’n gosod ffenestri newydd gael caniatâd i wneud hynny ac mae angen i’r ffenestri eu hunain fodloni gofynion rheoliadau adeiladau’n llawn.

Gallwch ddewis i naill ai:

  1. Defnyddio gosodwr sydd wedi cofrestru o dan y cynllun Hunanasesu Ffenestraid (FENSA) sy’n cael ei redeg gan y Glass and Glazing Federation a fydd yn golygu nad oes angen i chi wneud cais Rheoliadau Adeiladu. Dylai’r person sy’n gosod eich ffenestri wedyn sicrhau bod eich ffenestri’n cydymffurfio â’r rheoliadau a chewch dystysgrif ganddo’n cadarnhau hyn ar ôl iddo orffen y gwaith. Cewch hefyd gynnig prynu gwarant dan yswiriant. Gofalwch fod eich gosodwr wedi’i gofrestru’n briodol o dan y cynllun drwy fynd i wefan wefan FENSA neu
  2. Gwneud cais Rheoliadau Adeiladu i Adran Rheoli Adeiladu Sir y Fflint; fel arfer, y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy gyflwyno Hysbysiad Adeiladu. Dylech lenwi ffurflen Hysbysiad Adeiladu a’i hanfon, ynghyd â’r ffi briodol, o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn tynnu’ch hen ffenestr(i) allan. Bydd Syrfëwr Rheoli Adeiladu’n galw acw i weld y ffenestri newydd yn cael eu gosod. Mae’n debyg y bydd eich cyfreithiwr yn gofyn i chi ddangos tystiolaeth sy’n dangos i chi gael y caniatâd hwn os byddwch yn gwerthu’ch eiddo.  

Codi Ystafell Haul?

Yn gyffredinol, nid oes angen caniatâd rheoliadau adeiladu i godi ystafell haul. Fodd bynnag, rhaid bodloni rhai meini prawf arbennig er mwyn eithrio’ch ystafell haul.

Gweler gwaith eithriedig (uchod).

Codi Cyntedd?

Yn gyffredinol, nid oes angen caniatâd rheoleiddio adeiladu i godi cyntedd. . Fodd bynnag, rhaid bodloni rhai meini prawf arbennig er mwyn eithrio’ch cyntedd.

Gweler gwaith eithriedig (uchod)

Troi fy Nghroglofft yn Ystafell?

Oes, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r weithdrefn Cynlluniau Llawn i gyflwyno’r cais gan fod angen cymryd gofal mawr wrth droi croglofft yn ystafell.

Adeiladu Garej ar Wahân?

Oes weithiau.

Gweler gwaith eithriedig (uchod).

Adeiladu Garej Fel Estyniad i Dŷ, Siop neu Swyddfa?

Oes, ond mae modd codi estyniad i gadw car ar lefel daear, sydd â dwy ochr o leiaf ar agor ac sydd ag arwynebedd llawr o lai na 30m2, heb ganiatâd.

Gweler gwaith eithriedig (uchod).

Ymestyn Ny Nhŷ?

Oes, ond mae cyntedd neu ystafell haul sydd wedi’i adeiladu ar lefel y ddaear ac sydd ag arwynebedd llawr o lai na 30m2 wedi’u heithrio cyhyd ag y bo’r gwydr yn cydymffurfio â gofynion gwydro diogel y Rheoliadau Adeiladau (Rhan N).

Gweler gwaith eithriedig (uchod).

Newid y Tu Mewn i Adeilad?

Oes, os yw’r newidiadau’n strwythurol, fel tynnu, neu dynnu’n rhannol, trawst neu frestyn simnai sy’n dal pwysau.

Mae angen caniatâd hefyd os oes angen gwaith ar y system ddraenio neu os oes angen cynnal dull o ddianc os bydd tân.

Trwsio Fy Eiddo?

Oes, os yw’r gwaith trwsio’n sylweddol e.e. tynnu rhan sylweddol o wal, neu  ailadeiladu, tanategu adeilad neu ail-blastro neu ail-doi adeilad.

Nac oes, os mai mân waith trwsio sydd ar y gweill e.e. ailosod ffelt ar do fflat, ail-bwyntio gwaith brics neu osod estyll newydd.

Newid Defnydd Adeilad? (E.e. Trosi Tŷ yn Fflatiau?)

Oes, yn y mwyafrif o achosion, hyd yn oed os na fwriedir gwneud gwaith adeiladu. Mae hyn oherwydd y gallai newid defnydd olygu nad yw’r adeilad cyfan bellach yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n berthnasol i’w ddefnydd newydd e.e. diogelwch tân ac ati.

Cysylltwch â’r Adran Rheoli Adeiladu ar 01352 703417 / 01352 703637 am gyngor.

Gosod Ffitiadau a Theclynnau yn fy Eiddo?

Er enghraifft…

a) Gosod neu newid safle toiled, bath etc:

  • Nac oes, oni bai bod y gwaith yn golygu gosod draeniau neu bibelli newydd neu ychwanegol.

b) Gosod neu newid safle dyfais gwresogi?

  • Nwy: Oes, oni bai bod gosodwr cymeradwy o dan Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1984 yn goruchwylio’r gwaith.
  • Tanwydd solet: Oes,
  • Olew: Oes, oni bai bod gosodwr cymeradwy o dan HETAS ( y corff swyddogol a gaiff ei gydnabod gan y llywodraeth i gymeradwyo dyfeisiau gwresogi tanwydd solet domestig) yn goruchwylio’r gwaith

c) Newid y modd y mae llefydd tân, aelwydydd neu ffliwiau wedi’u hadeiladu?

  • Oes.

d) Gosod tanc dŵr poeth?

  • Oes os yw’r gwresogydd dŵr heb ei fentio (h.y. yn cael ei gyflenwi o’r prif gyflenwad yn uniongyrchol heb danc ehangu agored a heb bibell fentio) ac os gall storio mwy na 15 litr. Rhaid i berson hyfforddedig osod system o’r fath.

Gwaith Trydanol?

Oes. Daeth rheoliadau diogelwch newydd i rym ar 1 Ionawr 2005. O hynny ymlaen, daeth gosodiadau trydanol mewn anheddau’n “wasanaeth a reolir” o dan Reoliadau Adeiladau.

Rhan P – Diogelwch Trydanol mae’n rhaid i osodiadau trydanol sefydlog mewn preswylfeydd fod wedi’u cynllunio’n briodol, a rhaid iddynt gael eu gosod, eu harchwilio a’u profi i sicrhau eu bod yn ddiogel. Rhaid i ddigon o wybodaeth diogelwch fod ar gael hefyd i bobl sydd am weithredu, cynnal a chadw neu addasu gosodiadau trydanol. 

Mae Rhan P yn berthnasol i osodiadau trydanol mewn:

  • Anheddau
  • Eiddo sy’n gyfuniad o eiddo preswyl a busnes sy’n rhannu cyflenwad (e.e. siopau) 
  • Mynedfeydd cyffredin a chyfleusterau cyffredin mewn blociau o fflatiau (e.e. golchdai ond nid lifftiau)
  • Tai allan fel siediau, garejys ar wahân a thai gwydr
  • Gosodiadau allanol sy’n gysylltiedig ag adeiladau (e.e. goleuadau sefydlog a phympiau pyllau dŵr)

Gallwch gydymffurfio â Rhan P drwy naill ai:

  • Ddefnyddio trydanwr / gosodwr sydd wedi’i gofrestru â’r cynllun Person Cymwys.
  • Cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu i’r Cyngor.

Dymchwel Adeilad?

Oes, bydd angen i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad neu ran o adeilad os yw ei gyfaint allanol ym mesur mwy na 50 metr ciwb. Does dim tâl. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â’r Adran Cynllunio leol i holi a oes angen Caniatâd Cynllunio.