Alert Section

Penderfyniadau cynllunio a'r Pwyllgor


Os oes gennych ymholiad ceisiwch ei gyflwyno trwy e-bost yn uniongyrchol i'r swyddog. Os nad ydych yn adnabod cyfeiriad e-bost y swyddog defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:

  • Ar gyfer materion cynllunio e-bost planningadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer rheoliadau adeiladu e-bostiwch bcadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer e-bost datblygu priffyrdd highwaysdc@flintshire.gov.uk  

Mae'r ffordd yr ydym yn dod i benderfyniad, gyda phwy y byddwn yn ymgynghori pa fath o benderfyniad y gellir ei wneud, faint o amser mae'n ei gymryd a beth sy'n digwydd wedyn yn cael ei egluro yn y ddogfen isod.

Cod Ymarfer Cynllunio

Sut ydym ni’n delio â chais cynllunio 

Rydym yn cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad ffurfiol i'r ymgeisydd (neu'r asiant) ar gyfer pob cais o fewn 3 diwrnod gwaith i'r penderfyniad gael ei wneud.  Mae'n datgan yn glir a roddwyd neu a wrthodwyd caniatâd ac unrhyw amodau sydd ynghlwm.

Dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio

Gweld hysbysiad o benderfyniad cynllunio

Mae hysbysiadau ar gael o fewn 3 diwrnod gwaith i'r penderfyniad gael ei wneud.

Gellir gweld ac argraffu copi o unrhyw hysbysiad o benderfyniad am gais o'n Cofrestr Cynllunio ar-lein yn rhad ac am ddim.  Rydym hefyd yn cyhoeddi rhestr wythnosol o benderfyniadau.

Neu fel arall ymwelwch â ni yn: Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF (8.30am tan 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener) er mwyn gweld y penderfyniadau yn bersonol (gweld map lleoliad).

Caiff copïau o hysbysiadau penderfyniad a gyhoeddwyd cyn 01/09/06 eu cadw mewn storfa felly anfonwch e-bost at gweinydducynllunio@siryfflint.gov.uk (neu ffoniwch 01352 703331) er mwyn trefnu i'w gweld. .

Os oes angen i chi gael copi ffurfiol printiedig wedi’i lofnodi e.e. cyn gwerthu / prynu tŷ, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Gynllunio (manylion uchod).

Cymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad

Bydd Swyddog Cynllunio yn ystyried sylwadau a wnaed o blaid neu yn erbyn cais cyn dod i benderfyniad. Mynnwch ddweud eich dweud, gweld a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio.

Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu

Prif bwrpas y Pwyllgor yw ystyried prif geisiadau cynllunio. Hefyd gall cynghorwyr sy'n cynrychioli trigolion lleol wneud cais i geisiadau fynd gerbron y Pwyllgor am benderfyniad.  Bydd cyfarfod bob rhyw bedair wythnos yn: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.

Edrychwch ar agendâu, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor

Mae’r dudalen hon yn egluro’r weithdrefn i ymgeiswyr/asiantwyr, cefnogwyr, gwrthwynebwyr a Chynghorau Tref/Cymuned siarad mewn Pwyllgorau Cynllunio a Rheoli Datblygu.

Siarad yn y Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu.