Alert Section

Eich Hawliau a'r Gymraeg

Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg.

Fel siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, gadewch i ni wneud y mwyaf o’n hawliau a dewis yr iaith.


Mae Cymru’n wlad ddwyieithog, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd ac mewn mannau gwaith. Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru, sy’n golygu bod y Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg a bod pobl i fod i allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae deddfwriaeth i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. 

Mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, mae’r rhain yn dweud wrthym beth y mae’n rhaid i ni ei wneud yn y Gymraeg ac yn cael eu hegluro mewn Hysbysiad Cydymffurfio.

Mae pump o gategorïau o ran Safonau yn ein Hysbysiad Cydymffurfio:

  • Safonau Darpariaeth Gwasanaeth - gwneud yn siŵr ein bod yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Safonau Llunio Polisïau - gwneud yn siŵr ein bod yn ystyried effaith ein penderfyniadau ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a thrin y Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg. 
  • Safonau Gweithredu - gwneud yn siŵr bod ein gweithwyr yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.  
  • Safonau Hyrwyddo - cynyddu nifer yr unigolion sy’n defnyddio’r Gymraeg ac yn siarad Cymraeg yn y Sir. Darllenwch ein Strategaeth 5 mlynedd i Hyrwyddo’r Gymraeg.
  • Safonau Cadw Cofnodion - gwneud yn siŵr ein bod yn casglu a chofnodi gwybodaeth benodol a chreu adroddiadau blynyddol ar sut yr ydym wedi cydymffurfio efo’r Safonau.   

Os ydych chi eisiau gwneud cwyn am gydymffurfiaeth Cyngor Sir y Fflint gyda Safonau’r Gymraeg defnyddiwch Weithdrefn Gwynion y Cyngor