Alert Section

Mwy Na Geiriau

Mae’n bwysig, pan fyddwn ni ar ein mwyaf bregus, ein bod ni’n derbyn cefnogaeth yn yr iaith rydyn ni’n teimlo fwyaf cyfforddus.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae’n bwysig pan mae pobl yn fwyaf bregus bod y gefnogaeth maent yn ei derbyn yn yr iaith sy’n cefnogi eu hanghenion nhw orau.

Yn 2012 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ‘Mwy Na Geiriau’, strategaeth ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n cydnabod bod darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn fater o ddewis yn unig ond hefyd yn fater o angen.

Er bod hyn yn berthnasol i bawb, mae’n flaenoriaeth yn arbennig ar gyfer

  • plant a phobl ifanc,
  • pobl hŷn,
  • pobl ag anableddau dysgu,
  • defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl,
  • pobl sy’n byw gyda dementia,
  • pobl sy’n cael mynediad i wasanaethau strôc,
  • pobl sy’n cael mynediad i wasanaethau therapi lleferydd ac iaith.

Dylai bawb allu cael mynediad i’r gwasanaethau maent eu hangen yn y Gymraeg heb orfod gofyn amdano.

Mae ‘Mwy Na Geiriau’ yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a’u teuluoedd.