Alert Section

Gweithio yng Nghymru

Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n hunaniaeth Gymreig fodern.

Rydym ni’n gallu mwynhau bywyd teuluol, addysg, gwaith a hamdden oll drwy gyfrwng y Gymraeg.


Pam mae’r Gymraeg yn Bwysig

Mae gwasanaethau Cymraeg yn sicrhau fod anghenion pobl yn cael eu deall ac yn cael eu bodloni a bod y rhai hynny sy’n gallu cael at wasanaethau yn gallu dibynnu ar gael eu trin gyda’r urddas a’r parch maen nhw’n ei haeddu.

  • Mae cynnig dewis iaith i’ch cwsmer yn arfer da ac yn dangos parch tuag at y cwsmer a pharch tuag at y Gymraeg.
  • Mae hyn yn gallu helpu i feithrin perthynas wych gyda chwsmeriaid.
  • Mae 17.8% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg.
  • Mae 11.6% o boblogaeth Sir y Fflint yn siarad Cymraeg.

"Mae’r Gymraeg – yn rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau bob dydd. Mae’n rhan o’n hetifeddiaeth gyffredin a’n hunaniaeth fel cenedl” Llywodraeth Cymru


Gwneud Cais am Swyddi Lle mae’r Gymraeg yn Hanfodol

Mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu y bydd cyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i rai swyddi.

Dydi swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol ddim bob amser yn golygu gallu siarad bob gair yn y Gymraeg - mae’n gallu golygu gallu rhoi cyfarchiad syml neu gallu cael sgwrs bob dydd yn y Gymraeg.

Mae gallu ysgrifennu yn y Gymraeg hefyd yn gallu bod yn bwysig i rai swyddi, ond peidiwch â gadael i’r syniad o ddefnyddio neu wella eich sgiliau ysgrifennu neu lafar eich atal.

Pa bynnag lefel sydd ei angen o ran y Gymraeg mae llawer o sefydliadau yn rhoi hyfforddiant o ran y Gymraeg i weithwyr a hefyd cefnogaeth a chyfle i ymarfer yn y gwaith.

Ysbrydoliaeth a Chymhellia

Ysbrydoliaeth a Chymhellia