Alert Section

Cyllid Gofal Plant

Rydym yn gweithio i sicrhau bod llefydd addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel ar gael i bob teulu yn Sir y Fflint ac yn anelu at greu llwybrau di-dor rhwng gofal cartref a’r ysgol. 

Dod o hyd i ddarparwr gofal plant

Mae dewis gofal plant yn benderfyniad hollbwysig i’r teulu cyfan.  Bydd y darparwr gofal plant cywir yn helpu eich plentyn i ddysgu, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â bodloni anghenion dydd i ddydd a darparu tawelwch meddwl bod eich plentyn yn derbyn gofal da.

Beth bynnag yw eich rheswm dros fod eisiau gofal plant, mae sawl opsiwn i fodloni eich anghenion. Mae dewis y gofal plant cywir yn bwysig ond fe allai fod yn anodd.  Sut ddylwn i wneud hyn? Sut fydda i’n gwybod ei fod yn iawn? Beth maen nhw’n ei ddisgwyl gennyf? A fyddaf yn gallu mynd â’m plentyn yno yn gynnar yn y bore tan ddiwedd y diwrnod ysgol, ac a ydyn nhw’n casglu a gollwng plant yn yr ysgol? Mae yna gymaint o bethau i’w hystyried.  Efallai y bydd y Llyfryn Dewis Gofal Plant yn ddefnyddiol i chi.

Bydd y llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth am y buddion a’r gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael, ble i ddod o hyd i ofal plant a pha gymorth ariannol sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau gofal plant. 

Cymorth i dalu am eich gofal plant

Gall costau gofal plant fod yn ddrud. Gweler isod fanylion yr opsiynau gofal plant a’r gefnogaeth sydd ar gael a allai helpu.

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Blynyddoedd Cynnar. 

Cyfrifiannell gofal plant

Defnyddiwch y cyfrifiannell hwn i ddarganfod faint fedrwch chi ei gael tuag at ofal plant cofrestredig, gan gynnwys:

  • gofal plant am ddim i blant rhwng 2 a 4 oed; a
  • cymorth gyda chostau gofal plant os yw eich plentyn dan 16 oed (neu dan 17 oed ac ag anghenion ychwanegol).

Fe ddylai gymryd tua 10 munud. Bydd arnoch chi angen gwybodaeth amdanoch chi a’ch partner (os oes gennych chi un), gan gynnwys:

  • faint ydych chi’n ei wario ar ofal plant;
  • unrhyw fudd-daliadau rydych chi neu eich plentyn yn eu cael; ac
  • eich incwm.

Gwiriwch pa gymorth sydd ar gael i chi gyda chostau gofal plant gan ddefnyddio’r cyfrifiannell gofal plant. 

Cyfrifiannell gofal plant

Gofal Plant Di-Dreth

Mae Gofal Plant Di-Dreth yn gynllun llywodraeth sy’n talu 20% o gostau gofal plant mewn lleoliad gofal plant cofrestredig hyd at uchafswm o £2000 y flwyddyn. Mae’r cynllun ar agor i bob rhiant i blant dan 12 oed (neu dan 17 oed os ydynt yn anabl). Gallwch ymgeisio am agor cyfrif Gofal Plant Di-Dreth ar-lein.

Ymwelwch â gwefan Gov.uk am fanylion ynghylch gofal plant di-dreth.

Gofal Plant Di-Dreth

Myfyrwyr gyda phlant

Os ydych chi’n fyfyriwr israddedig â phlant neu os oes oedolyn sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol yn ystod eich astudiaethau, gallwch wneud cais am gyllid ychwanegol.

Cewch wybod mwy ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Myfyrwyr gyda phlant

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr addysg bellach sy’n astudio yng Nghymru’n gallu hawlio cymorth gyda chostau gofal plant drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn. Cysylltwch â’ch ysgol neu goleg am ragor o wybodaeth.

Aelodau teulu sy’n gofalu am blentyn dan 12 oed

Os ydych chi’n aelod o deulu dros 16 ond yn iau nag oedran Pensiwn Gwlad ac yn gofalu am blentyn dan 12 oed (os yw’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio fel arfer) mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i hawlio Credyd Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn cynnwys gofal yr ydych yn ei ddarparu o bell yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – er enghraifft, dros y ffôn neu alwad fideo tra rydych yn hunan-ynysu.

Credyd Yswiriant Gwladol

Gofal plant estynedig ar gyfer personél y lluoedd

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn Gynllun Gofal Plant Estynedig llawn ar draws y DU o Hydref 2022.

O ddechrau tymor yr hydref 2022, bydd cyllid Cynllun Gofal Plant Estynedig ar gael i deuluoedd Milwyr cymwys gyda phlant rhwng 4 ac 11 oed sydd yn yr ysgol neu’n derbyn addysg gartref yn y DU. Gall personél cymwys hawlio hyd at 20 awr yr wythnos o gyllid ar gyfer bob plentyn sy’n mynychu gofal cyn ac ar ôl ysgol yn ystod y tymor. Enw arall ar ofal plant estynedig yw ‘Gofal y Tu Allan i'r Ysgol’ yng Nghymru a ‘Gofal Plant Oedran Ysgol’ yn yr Alban.

Mae’n rhaid i bob plentyn i bersonél sy’n derbyn cyllid drwy’r cynllun Gofal Plant Estynedig gael eu cofnodi ar JPA a chael cyfrif Gofal Plant Di-Dreth.

Gofal Plant Di-Dreth

Gofal i blant gydag anghenion sy’n dod i’r amlwg ac anghenion ychwanegol

Mae’n ddyletswydd ar ddarparwyr gofal plant i ddarparu amgylchedd cynhwysol i bob plentyn.

Mae gan nifer o’r darparwyr gofal plant yn Sir y Fflint gyfleusterau i ofalu am blant gydag anghenion datblygiadol neu anghenion sy’n dod i’r amlwg neu’n barod i wneud addasiadau rhesymol i’w safle.  Fodd bynnag, ni fydd bob lleoliad yn gallu gwneud hyn, felly os oes gennych chi blentyn sydd ag anghenion, neu anghenion datblygiadol neu feddygol sy’n dod i’r amlwg, mae’n bwysig eich bod yn trafod hyn gydag unrhyw ddarparwr gofal plant yr ydych yn ystyried eu defnyddio. 

Grantiau Cefnogaeth Ychwanegol

Diben y grantiau hyn yw galluogi plant gydag Anghenion Cymorth Ychwanegol i gael mynediad at ofal plant a chyfranogi’n llawn ynddo.

Mae’n rhaid i’r ceisiadau gael eu cyflwyno gan y darparwr gofal plant. Rhaid i’r ceisiadau gael eu cefnogi gan ymarferydd/gweithiwr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant neu addysgol sy’n deall ac yn gallu canfod anghenion y plentyn. Caiff bob cais am y cyllid hwn ei drafod a’i weithredu drwy Banel annibynnol.  

1. Cymorth ychwanegol/1:1
  • Efallai y bydd rhai plant angen cefnogaeth ychwanegol gan aelod o staff am ran o’r amser, neu’r holl amser y byddant gyda’u darparwr gofal plant.
  • Mae lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu ar gael drwy Ddechrau’n Deg, y Cynnig Gofal Plant, Gofal Plant a Chwarae a Theuluoedd yn Gyntaf.  Lle byddwn yn ariannu lleoliadau i gefnogi anghenion datblygiadol y plentyn, byddwn yn ystyried sut byddwn y cefnogi’r plentyn i gael mynediad at yr amgylchedd dysgu.
  • Ar hyn o bryd, nid oes cyllid cymorth ychwanegol ar gael i bob plentyn gael mynediad at ddarpariaeth gofal, felly rydym yn cefnogi lleoliadau i ystyried y ffordd orau i fodloni anghenion gofal y plant yn eu lleoliad. 
2. Offer/Adnoddau 
  • Cyllid ar gyfer offer ac adnoddau i alluogi plant i gymryd rhan lawn. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y plentyn, ond gall gynnwys deunyddiau dysgu ychwanegol neu offer chwarae arbenigol.
  • Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf bach a mawr i helpu i sicrhau lleoliad gofal plant o ansawdd uchel a llwybr di-dor rhwng gofal plant ac ysgolion. 
3. Hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant
  • Hyfforddiant ar anghenion meddygol/gofal iechyd penodol neu hyfforddiant cyffredinol sydd â chysylltiad uniongyrchol â gofal i blentyn penodol gydag anghenion cymorth ychwanegol.
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth ADY i weithwyr gofal plant
  • Hyfforddiant arbennig ar gyfer deall awtistiaeth, anghenion niwro-ddatblygiadol ac anghenion cyfathrebu cymdeithasol.
  • Hyfforddiant ar strategaethau yn ogystal â strategaethau modelu yn y lleoliad
  • Arsylwadau yn y lleoliad i nodi targedau datblygiadol priodol i’r plentyn a chyfeirio at wasanaethau arbenigol lle bo angen

Dod o hyd i ddarparwr gofal plant priodol 

Mae sawl math o ofal plant ar gael ar draws Sir y Fflint, o warchodwyr plant yn y cartref, gofal plant sesiynol yn y gymuned i feithrinfeydd dydd mawr, gydag ystod o sgiliau a phrofiad i gefnogi plant gydag anghenion cymorth ychwanegol. 

Dewis darparwr gofal plant

Os hoffech chi drafod eich opsiynau, cysylltwch â’r Porth Blynyddoedd Cynnar.  Byddant yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ddarparwr gofal plant sy’n gallu bodloni anghenion eich plentyn.

Sut rydym yn cefnogi darparwyr gofal plant 

Mae ein tîm Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi lleoliadau gofal plant i gyflawni amgylcheddau cynhwysol o ansawdd uchel drwy ddarparu:

  • Hyfforddiant ar anghenion meddygol/gofal iechyd penodol neu hyfforddiant cyffredinol sydd â chysylltiad uniongyrchol â gofal i blentyn penodol gydag anghenion cymorth ychwanegol
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth ADY i weithwyr gofal plant
  • Hyfforddiant arbennig ar gyfer deall awtistiaeth, anghenion niwro-ddatblygiadol ac anghenion cyfathrebu cymdeithasol.
  • Hyfforddiant ar strategaethau yn ogystal â strategaethau modelu yn y lleoliad
  • Arsylwadau yn y lleoliad i nodi targedau datblygiadol priodol i’r plentyn a chyfeirio at wasanaethau arbenigol lle bo angen
  • Cyllid ar gyfer offer ac adnoddau i alluogi plant i gymryd rhan lawn. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y plentyn, ond gall gynnwys deunyddiau dysgu ychwanegol neu offer chwarae arbenigol.
  • Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf bach a mawr i helpu i sicrhau lleoliad gofal plant o ansawdd uchel a llwybr di-dor rhwng gofal plant ac ysgolion.
  • Mae lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu ar gael drwy Ddechrau’n Deg, y Cynnig Gofal Plant, Gofal Plant a Chwarae a Theuluoedd yn Gyntaf.  Lle rydym yn ariannu lleoliadau i gefnogi anghenion datblygiadol y plentyn, byddwn yn ystyried sut rydym yn cefnogi’r plentyn i gael mynediad at yr amgylchedd dysgu. Nid oes cynllun ariannu i gynnig cefnogaeth ychwanegol i bob  plentyn gael mynediad at ddarpariaeth gofal, felly rydym yn cefnogi lleoliadau i ystyried y ffordd orau i fodloni anghenion gofal y plentyn yn eu lleoliad. 

Dysgu mwy am grantiau gofal plant

Mae nifer o gynlluniau ar gael i helpu gyda chostau gofal plant, ac i’ch plentyn dderbyn addysg gofal plant a chyn ysgol.   Mae rhywfaint o gymorth hefyd ar gael i deuluoedd pan fydd y plant yn mynd i’r ysgol.   Rydym wedi ceisio rhestru’r rhain yn ôl oedran er mwyn i chi fedru ystyried hyn yn gynnar a gwybod am beth i ymgeisio a phryd os ydych chi neu eich plentyn yn gymwys.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg i Blant 2 Oed

Mae Llywodraeth Cymru’n cyflwyno Gofal Plant Dechrau’n Deg yn Sir y Fflint.

Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd Dechrau’n Deg wedi’i ehangu isod, bydd eich plentyn yn gymwys am le gofal plant wedi’i ariannu o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed hyd at ddiwedd y tymor maent yn troi’n 3 oed mewn lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru â Dechrau’n Deg.

Mae gan blant yr hawl i sesiwn 2.5 awr y diwrnod, hyd at 5 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor yn unig.  Gall fod amgylchiadau lle byddwch eisiau llai na 5 diwrnod, a/neu efallai y byddwch eisiau addasu’r sesiynau. Gallwch drafod hyn gyda’r darparwr rydych wedi ei ddewis a’r Tîm Dechrau’n Deg er mwyn sicrhau’r ffordd orau o fodloni anghenion y plentyn.

Mae presenoldeb rhan-amser rheolaidd mewn lleoliad gofal plant o safon uchel wedi profi i wella canlyniadau ar gyfer plant yn sylweddol.  Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, rydym yn eich annog i gymryd eich lle gofal plant er mwyn helpu a chefnogi eich plentyn.

Dechrau'n Deg

Cynnig Gofal Plant Cymru

Os ydych yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant, byddwch yn gallu hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru fesul wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer eich plentyn 3 - 4 oed. Mae’r cynllun gofal plant a gaiff ei ariannu gan y llywodraeth yn anelu at leihau’r baich o gostau gofal plant er mwyn i chi fedru gwario’r arian yr ydych wedi’i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i chi a’ch teulu. I wirio cymhwysedd ac i wneud cais, dilynwch y ddolen.

Y Cynnig Gofal Plant

Addysg Cyfle Cynnar

Darganfod mwy am yr elfen addysg o’r cynnig 30 awr - gan gynnwys gwybodaeth bwysig am gymhwysedd a dyddiad geni eich plentyn

Cynllun Ariannu Cyfle Cynnar

Ceisiadau Ysgol Feithrin/Ysgol

Gallwch ymgeisio am le yn yr ysgol i’ch plentyn yma. Mae dyddiadau ymgeisio yn amrywio yn ddibynnol p’un a ydych yn ymgeisio am le yn yr adran feithrin, derbyn neu’r ysgol uwchradd. Gallwch hefyd wneud cais i newid ysgol (er enghraifft, oherwydd eich bod yn symud tŷ) yma.

Ceisiadau Ysgol Feithrin/Ysgol

Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgotl

Mae rhai teuluoedd sy’n bodloni meini prawf arbennig, er enghraifft, y rhai ar incwm isel neu sy’n derbyn budd-daliadau arbennig, yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Yn dilyn cais llwyddiannus am brydau ysgol am ddim, bydd teuluoedd yn gymwys am fudd-daliadau eraill i dalu am hanfodion ysgol.

Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol

Cyflwyno darpariaeth gofal plant cynhwysol 

Mae lleoliadau Gofal Plant ar draws Sir y Fflint yn ymrwymo i ddarparu amgylcheddau cynhwysol i’r plant y maent yn gofalu amdanynt.

Mae staff darparwyr gofal plant yn derbyn hyfforddiant datblygiad plant ac yn gwybod sut i greu amgylcheddau dysgu ysgogol a chyffrous.

Mae arnom ni eisiau i bob plentyn fod yn ddysgwyr annibynnol sy’n gallu ymgysylltu’n hyderus gyda’r amgylchedd dysgu a chael hwyl. Dylai bob darparwr gofal plant gyflwyno darpariaeth gofal plant gynhwysol o ansawdd uchel i bob plentyn a chynnig rhai gweithgareddau dysgu wedi’u targedu i grwpiau neu unigolion bychain i helpu gyda’u datblygiad.

Fodd bynnag, mae rhai plant yn cael trafferth gyda’r amgylchedd dysgu ac angen cefnogaeth wedi’i thargedu’n well i’w helpu i setlo a datblygu eu sgiliau annibyniaeth. Rydym yn darparu cyngor i unrhyw leoliad drwy ein Tîm Ymgynghorol. Mae’r tîm hwn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda’r blynyddoedd cynnar. Byddant yn ymweld â lleoliad i arsylwi plentyn ac yn cynnig strategaethau cymorth i symud dysgu a datblygu yn ei flaen.

Os yw’r Ymgynghorydd a’r lleoliad gofal plant yn teimlo bod ar y plentyn angen cymorth ychwanegol, byddant yn trafod hyn gyda’r rhiant ac o bosibl yn cyflwyno’r achos gerbron y Panel Anghenion sy’n dod i’r Amlwg. Mae’r Panel yn cyfarfod bob mis ac wedi’i alinio â’r Panel Dirprwyo Cyn Ysgol. Mae’r ddau banel yn ystyried anghenion y plentyn a’r lleoliad, a’r angen am gefnogaeth ychwanegol, hyfforddiant neu offer arbenigol.