Alert Section

Cynllun Ariannu Cyfle Cynnar, Sir y Fflint


Mae ceisiadau i Cyfle Cynnar 2025 ar agor i blant sydd â dyddiad geni rhwng 1 Medi 2021 a Ebrill 27, 2022.

Gwiriwch ein gwiriwr cymhwysedd isod i gadarnhau pryd y gallwch wneud cais a chael mynediad at y ffurflen gais.

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Cynllun Ariannu Cyfle Cynnar

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Tîm y Blynyddoedd Cynnar


Bydd eich plentyn yn derbyn lle mewn sefydliad cofrestredig Cyfle Cynnar naill ai ar gyfer:

  • 5 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, 2 awr o hyd
  • neu 4 sesiwn yr wythnos, un y diwrnod, 2 awr a hanner o hyd.

Bydd hyn yn ddibynnol ar beth mae eich sefydliad yn ei ddarparu.

 Gall sefydliad cofrestredig Cyfle Cynnar fod yn un o’r canlynol:-

  • cylch chwarae
  • meithrinfa dydd preifat
  • dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar mewn ysgol leol

Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n derbyn cyllid:

  • cofrestru gyda a derbyn arolwg gan Arolygaeth Gofal Cymru (lleoliadau nas cynhelir yn unig
  • fod â staff cymwys
  • derbyn arolygon gan Estyn
  • darparu’r sesiynau a nodir
  • derbyn cefnogaeth gan athro/athrawes gymwysedig yn rheolaidd.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw Cyngor Sir y Fflint yn hyrwyddo nac yn argymell unrhyw leoliad penodol, a dyletswydd y rhiant / gofalwr yw sicrhau bod y lleoliad a ddewisant yn addas.

Gallwch ond ymgeisio am gyllid mewn UN sefydliad.

Bydd y cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r sefydliad bob mis (Ionawr – Gorffennaf).

Fodd bynnag, mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu sesiynau Cyfle Cynnar wedi’u hariannu yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, mae’n bosibl y bydd meithrinfeydd preifat yn gofyn i chi am 'ffioedd atodol' i dalu am gostau sesiwn bore neu brynhawn lawn yn y sefydliad.


Hawl i Gyllid

Gweler canllawiau Cyngor Sir y Fflint i Wasanaethau Addysg am wybodaeth fanwl ynglŷn a’r broses dderbyn: Derbyniadau Ysgol.

Nod Sir y Fflint yw darparu’r profiadau blynyddoedd cynnar gorau i’n plant ifanc drwy chwarae o ansawdd.

I gael rhagor o wybodaeth:

  • Tîm Cynnig Gofal Plant/Cyfle Cynnar, dros y ffôn: 01352 703930 neu e-bost:  ceisiadaucyllidcyflecynnar@siryfflint.gov.uk
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint, rhif ffôn: 01352 703500
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru, rhif ffôn: 01745 530111
  • Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, rhif ffôn: 01824 707823
  • PACEY Cymru, rhif ffôn:  0845 880 1299
  • Mudiad Meithrin, rhif ffôn: 01978 363422

Cyn llenwi’r ffurflen gofrestru:

  1. Gwiriwch â’ch darparwr gofal plant eu bod wedi cofrestru fel darparwr Cyfle Cynnar.
    Os oes gennych blentyn sydd yn gymwys am Gyfle Cynnar ond ni allwch ddod o hyd i leoliad addysg iddynt o fewn ardal benodol o fewn Sir y Fflint, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar ar 01352 703930.

  2. Gofynnwch i’ch darparwr Cyfle Cynnar:
      • A oes lle ar gael i’ch plentyn dderbyn addysg wedi’i ariannu drwy Cyfle Cynnar ac os felly, sawl awr yr wythnos mae eich darparwr yn gallu ei gynnig i’ch plentyn? Mae hawl gan eich plentyn i uchafswm o 10 awr o Addysg Cyfle Cynnar yr wythnos.
      • Pa ddyddiau ac amseroedd sydd ar gael ar gyfer eich plentyn?

  3. Cytunwch gyda’ch darparwr Cyfle Cynnar pa ddyddiau ac amseroedd y bydd eich plentyn yn mynychu 

    Os cynigiodd eich darparwr 10 awr o addysg Cyfle Cynnar wedi ei ariannu i’ch plentyn, ond ddewisoch chi i ddechrau i beidio manteisio ar y 10 awr yn llawn, gallwch gysylltu â'ch darparwr yn ddiweddarach i gynyddu oriau Cyfle Cynnar eich plentyn i'r 10 awr yn llawn.

    Gallwch wneud y newid hwn oni bai eich bod, ar unrhyw bryd, yn cytuno gyda’ch darparwr yn ysgrifenedig nad ydych yn dymuno cynyddu oriau Cyfle Cynnar eich plentyn yn ystod tymor/tymhorau’r Gwanwyn/Haf.

SICRHEWCH FOD EICH PLENTYN WEDI COFRESTRU Â’CH SEFYDLIAD CYFLE CYNNAR NEU FOD Y SEFYDLIAD WEDI DERBYN EICH MANYLION CYSWLLT CYN LLENWI’R FFURLFEN GOFRESTRU.


Llenwi’r ffurflen gofrestru:

Bydd gofyn i chi ddarparu llungopi o dystysgrif geni eich plentyn pan fyddwch yn cofrestru (os ydych yn ymgeisio drwy’r post, peidiwch ag anfon eich copïau gwreiddiol – dylid ond darparu llungopïau).

Bydd gennych 6 wythnos i gyflwyno’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi eich cais, yn dilyn hyn, byddwn yn cau ceisiadau nad ydynt wedi’u cwblhau a bydd yn rhaid cyflwyno cais newydd ar-lein pe baech yn dymuno bwrw ymlaen â’r cais ymhellach.

Cwblhewch y ffurflen gofrestru isod os gwelwch yn dda, gan sicrhau eich bod yn nodi'r darparwyr Cyfle Cynnar cywir yn y ddewislen ar y ffurflen.

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os yw nifer yr oriau yn newid, os ydych yn symud at ddarparwr arall neu os ydych yn symud tŷ neu’n newid cyfeiriad e-bost. Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y byddwch yn colli eich cyllid Cyfle Cynnar.


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod fod eich cais wedi cael ei gymeradwyo.

Efallai y byddwch yn derbyn e-bost gennym, o dro i dro, er mwyn cadarnhau bod eich amgylchiadau yn dal yr un fath.