Sut mae'r ardaloedd wedi'u dewis?
Mae Awdurdodau Lleol yn targedu ehangiad tuag at gymunedau nad ydynt eisoes yn rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg. Darllenwch pryd all eich plentyn fod yn gymwys ar gyfer cyllid ar llyw.cymru.
Pryd gall fy mhlentyn ddechrau mewn gofal plant?
Mae cyllid ar gael o'r tymor ar ôl eu hail ben-blwydd i'r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd.
Pryd gall fy mhlentyn ddechrau mewn gofal plant?
Mae fy mhlentyn yn cael ei ben-blwydd yn ddwy oed rhwng | y cyfnod mae cyllid ar gyfer gofal plant yn dechrau |
1 Medi - 31 Rhagfyr |
Ionawr |
1 Ionawr – 31 Mawrth |
Ebrill |
1 Ebrill – 31 Awst |
Medi |
Sawl awr y mae gan fy mhlentyn hawl iddo?
2.5 awr y dydd, 12.5 awr yr wythnos, ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig hyd at 39 wythnos y flwyddyn.
Gweld dyddiadau tymor Sir y Fflint
A oes unrhyw gost i mi?
Na, mae Dechrau'n Deg / Llywodraeth Cymru yn talu am y sesiynau gofal plant
Ble gall fy mhlentyn fynychu?
Mae cyllid ar gael i ddarparwr cofrestredig Dechrau’n Deg, gall fod yn warchodwr plant, cylch meithrin, meithrinfa ddydd breifat neu gylch chwarae.
A all fy mhlentyn fynd i leoliad Cymraeg?
Gallent, mae nifer o gylchoedd yn Sir y Fflint. Darllenwch i Buddion Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg.
Beth mae’n ei olygu i fod yn lleoliad cofrestredig Dechrau’n Deg?
Rhaid i leoliad Dechrau'n Deg fod o ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu eu bod wedi’u cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru a:
- Bod â staff profiadol a chymwys iawn
- Yn cael ymweliad a chefnogaeth gan Athro Ymgynghorol
- Darparu amgylchedd gofalgar ac ysgogol
Beth ydi manteision fy mhlentyn yn mynychu gofal plant?
Bydd eich plentyn yn cael cyfleoedd i:
- Chwarae gyda phlant eraill
- Datblygu eu sgiliau mewn llawer o wahanol feysydd
- Chwarae yn yr awyr agored
- Dod yn ddysgwyr annibynnol
- Siarad a chlywed Cymraeg
- Cael eu hanghenion unigol eu hunain wedi’u diwallu
- Cael hwyl!
Beth os ydw i’n gweithio, ydw i’n dal yn gallu hawlio?
Ydych, prif amcanion ehangu gofal plant Dechrau’n Deg ydi sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posib’, mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd a chynyddu darpariaeth gwasanaethau gofal plant a chynyddu nifer y lleoliadau gofal plant Cymraeg. Ond gall darparu lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu i blant dwy oed hefyd alluogi rhieni i fynd i weithio neu fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant neu addysg na fyddai modd iddynt wneud hynny fel arall. Yn ogystal, gall y ddarpariaeth hon gwrdd â rhywfaint o gostau gofal plant y rheiny sy’n gweithio llawn amser os ydi’r plant yn mynd i leoliad sydd wedi cofrestru â Dechrau'n Deg.