Mae'n hanfodol bod y gwaith rydym yn ei wneud a'r gwelliannau rydym yn eu cynllunio yn cyd-fynd yn briodol â'r cyfeiriad strategol sydd wedi cael ei osod yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac nad yw'r fframwaith deddfwriaethol yn cyfyngu ar arloesi, ond yn hytrach yn ychwanegu haen o amddiffyniad i sicrhau bod gwybodaeth a data'n cael eu defnyddio'n gyfrifol a theg.
Mae fframwaith deddfwriaethol statudol cymhleth sydd wedi cael ei ddatblygu dros nifer o flynyddoedd, ac mae’n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i:
- Deddfwriaeth Diogelu Data.
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
- Rheoliadau Ail-ddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015.
- Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2016.
- Deddf yr Economi Ddigidol 2017.
Byddwn yn gweithio yn ôl y deddfwriaethau i sicrhau fod gennym reolyddion a fframwaith diogelwch priodol mewn lle i gadw a rheoli gwybodaeth a data’n ddiogel.
Byddwn hefyd yn nodi ac yn ystyried cysylltiadau â darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dyma’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth yn y byd i ddatgan cyfrifoldeb ar y genhedlaeth bresennol i wneud penderfyniadau mewn ffordd gynaliadwy sy’n ceisio sicrhau twf ac ansawdd bywyd i genedlaethau’r dyfodol. Bydd ei Saith Nod Lles (Ffigur 1 isod) yn dylanwadu ar ddyluniad a darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol, gyda chamau gweithredu o fewn y strategaeth hon yn cefnogi gwelliant parhaus y gwasanaethau yn ysbryd y Ddeddf.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015): Saith Nod Lles
- Cymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-Eang
- Cymru Lewyrchus
- Cymru Gydnerth
- Cymru Iachach
- Cymru sy’n Fwy Cyfartal
- Cymru â Chymunedau Cydlynol
- Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
Rydym hefyd yn awyddus i gysylltu â’r corff cynyddol o arferion da sy’n datblygu ar draws sector cyhoeddus Cymru a thu hwnt, gan ddysgu o’u profiadau.
Rydym eisiau cysylltu ag eraill a defnyddio eu profiad, gan sicrhau bod ein dull yn cyd-fynd â’r Strategaeth Ddigidol i Gymru gan Lywodraeth Cymru.
Strategaeth Ddigidol i Gymru:
Bydd Cymru Ddigidol yn gwella ansawdd bywyd, cynaliadwyedd a thwf economaidd gan greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth, data a diwylliant effeithiol o arloesi a chydweithio.
- Data a Chydweithio: Gwella gwasanaethau drwy gydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu.
- Cysylltedd Digidol: Darparu, hwyluso a chefnogi isadeiledd cyflym a dibynadwy.
- Cynhwysiant Digidol: Rhoi’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r h yder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion.
- Gwasanaethau Digidol: Darparu a moderneiddio gwasanaethau i gyrraedd cyfres gyffredin o safonau er mwyn sicrhau eu bod yn syml, yn ddiogel ac yn hwylus.
- Economi Ddigidol: Sbarduno twf, ffyniant a chydnerthedd economaidd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.
- Sgiliau Digidol: Creu cymdeithas a gweithlu sydd â’r sgiliau cywir i weithredu mewn byd digidol.
Mae’r weledigaeth drosfwaol ar gyfer y strategaeth honno yn canolbwyntio ar yr effaith y gall buddsoddi mewn technolegau digidol ei gael o ran ansawdd bywyd a thwf economaidd, nid ar ddarpariaeth TG a thechnoleg.
Mae chwe chenhadaeth allweddol wedi cael eu dylunio i gefnogi datblygiad a darpariaeth strwythur galluogol i sicrhau gweithrediad effeithiol, ac ystod o amcanion ymarferol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi’r holl gwsmeriaid yng Nghymru i fynd ar-lein yn hyderus a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus cydlynol o safon. Cenhadaeth 6, Mae “Data a Chydweithredu”, yn anelu i gefnogi gwelliant gwasanaeth drwy gydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a’u rhannu. Mae’r ffocws ar effaith a chanlyniadau sy’n ddull sylfaenol rydym eisiau ei efelychu wrth i ni roi’r strategaeth hon ar waith.
Wrth i ni adolygu a gwerthuso llwyddiant ein Strategaeth Rheoli Gwybodaeth a Data yn y cyfnod 2021-2026, bydd yn cael ei barnu a’i gwerthuso yn seiliedig ar yr effaith mae’n ei chael a’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni.