Alert Section

4. Ffyrdd Newydd o Weithio

"Gallwn wella'r gwasanaethau a ddarperir i gwsmeriaid drwy weithio gyda'n gilydd a sicrhau y defnyddir ein gwybodaeth a'n data'n effeithiol, mewn ffordd drefnus a diogel a'u bod yn cyrraedd y sawl sydd eu hangen."

Egwyddorion:

  • Bod yn agored i wrando ar eraill a dysgu o’u profiadau.
  • Gweithredu o fewn diwylliant sy’n annog arloesedd ac yn dathlu llwyddiant.
  • Ail-ddylunio gwasanaethau o amgylch canlyniadau ac nid strwythurau presennol a seilos gwybodaeth.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau ‘o’r dechrau i’r diwedd’ sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
  • Byddwn yn mabwysiadu egwyddorion ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ i gyfyngu ar sawl gwaith y bydd angen i gwsmeriaid roi’r un wybodaeth i ni. 
Cam Gweithredu Ffyrdd Newydd o Weithio
RhifCam Gweithredu
1 Adeiladu ar y profiad a’r momentwm a gafwyd yn ystod y pandemig Covid, gyda’r bartneriaeth Profi, Olrhain a Diogelu a’r profiad o adnabod a chefnogi cwsmeriaid a oedd yn gwarchod eu hunain i nodi cyfleoedd ar gyfer ymestyn a / neu ailadrodd. 
2 Cysylltu â phrosiect rhanbarthol Gogledd Cymru i adolygu dulliau archifo a chadw digidol; ac adolygu a diffinio prosesau ar gyfer archifo cofnodion ffisegol a digidol.  Bydd hyn yn adolygu sut y caiff mathau newydd o gyfryngau eu cynnwys yn y prosesau a gweithdrefnau archifo i sicrhau bod data a gedwir yn y dyfodol yn parhau i fod yn adlewyrchiad cywir a chyfoethog o gymdeithas yn ein hoes.
3 Creu gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ i rannu gwybodaeth gyda gwasanaethau a phartneriaid lle gallwn a lle mae o fudd i’n cwsmeriaid i wneud hynny.
4 Gweithio gyda phartneriaid i rannu ein gwybodaeth a data fel modd o ddatblygu dull mwy cydlynol o ddarparu gwasanaeth. Wrth wneud hyn byddwn yn rhannu profiadau ar draws y Cyngor ac yn sicrhau ein bod yn dysgu ohonynt mewn datblygiadau pellach.