Alert Section

Gostwng eich allyriadau carbon


Climate Behaviour

Lleihau eich allyriadau eich hun

Mae pawb ohonom yn cynhyrchu allyriadau carbon yn ein bywydau bob dydd o gynhesu ein cartrefi i yrru i’r gwaith. Y cam cyntaf i wybod sut i leihau ein hallyriadau yw deall o ble maen nhw’n dod. Gallwch gyfrifo pa mor fawr neu fach yw eich ôl troed carbon drwy ddefnyddio cyfrifydd am ddim megis WWF Footprint Calculator

Gall y wybodaeth isod eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o leihau eich ôl troed carbon. Mae hyd yn oed newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth.

Addewid yma


Bwyd

Siopa’n lleol ac yn ei dymor

Drwy siopa’n lleol ac yn ei dymor gallwch ddefnyddio llai o filltiroedd bwyd. Os bydd bwyd yn gorfod teithio llai i gyrraedd silffoedd ein siopau, gallwn i gyd arbed mwy o garbon. 

Drwy siopa’n lleol ac yn ei dymor gallwch ddefnyddio llai o filltiroedd bwyd. Os bydd bwyd yn gorfod teithio llai i gyrraedd silffoedd ein siopau, gallwn i gyd arbed mwy o garbon. Mae canol trefi Sir y Fflint yn cynnig dewis o siopau annibynnol a siopau stryd fawr, yn ogystal â marchnadoedd bywiog yn cynnig ystod o ffrwythau, pysgod, cig a llysiau ffres a bwyd wedi’i bobi. Gallwch gael mwy o wybodaeth am farchnadoedd lleol yma: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/Markets.aspx

Os nad ydych yn siŵr beth yw tymor pa gynnyrch, dyma wefan ddefnyddiol : Seasonal calendar - BBC Good Food.

Pan fyddwch yn mynd i siopa, mae hefyd yn syniad da:

  • Cynllunio eich prydau cyn gadael eich tŷ.
  • Mynd drwy eich cypyrddau fel eich bod yn prynu’r hyn sydd ei angen arnoch yn unig.
  • Os oes gennych fwyd dros ben, peidiwch â’i daflu, cynlluniwch beth i’w wneud ag o.
  • Arbedwch wastraff drwy edrych ar y dyddiad ‘defnyddiwch erbyn’ yn hytrach na ‘ar ei orau cyn’.
  • Rhowch fwyd dros ben yn y rhewgell neu coginiwch swp o brydau ar y tro.
  • Edrychwch ar y label i weld o ble mae’r bwyd yn dod. Gorau po agosaf at gartref. 

Tyfwch eich bwyd eich hun

Gall tyfu eich bwyd eich hun fod yn ffordd wych o leihau carbon.

Os nad oes gennych lawer o le, peidiwch â digalonni - mae’n rhyfeddol faint allwch chi ei dyfu mewn cynwysyddion, ar y patio neu’r balconi, mewn bocsys ffenestr neu ar silff ffenestr.. Dilynwch y dolenni isod i gael awgrymiadau a syniadau am sut i ddechrau:

https://www.gardenersworld.com/plants/vegetable-crops-for-beginners/

https://www.gardenersworld.com/plants/windowsill-veg-container-ideas

Ynni

Mae ein Tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig ar gael i roi cyngor ar leihau eich defnydd o ynni yn y cartref, pa gyllid allai fod ar gael i chi, a’ch arwain at gefnogaeth bellach. 

Gallwch gysylltu â nhw ar: 01352 703443 neu drwy e-bostio deepadmin@flintshire.gov.uk

Mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Energy-Saving/Arbed-Ynni.aspx

Gall ddefnyddio ynni fod yn un o brif achosion ôl-troed carbon uchel, gweler isod am fwy o ffyrdd i leihau eich allyriadau:

  • Newid eich bylbiau i rai LED
  • Ymchwiliwch i newid i dariff gwyrdd
    • Tariff gwyrdd yw cyflenwad ynni o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hytrach nag ynni a gynhyrchir drwy losgi tanwydd ffosil. Mae’n bwysig eich bod yn ymchwilio i bob math o dariff gwyrdd a faint o ynni adnewyddadwy a ddefnyddir, cyn penderfynu.
  • Dyfeisiau trydanol
    • Mae offer fel teledu, plygiau gwefru ac oergelloedd/rhewgelloedd yn defnyddio llawer o ynni hyd yn oed pan na fyddant yn cael eu defnyddio. Gwnewch y siŵr bod eich teledu a phlygiau gwefru wedi eu diffodd yn y prif gyflenwad.
    • Mae oergelloedd/rhewgelloedd yn fwy effeithlon pan fyddant yn llawn. Arhoswch i bethau oeri cyn eu rhoi yn yr oergell/rhewgell bob amser, i’w gwneud yn fwy effeithlon.
  • Inswleiddio eich cartref
    • Po fwyaf o wres y gallwch ei gadw yn eich cartref, y lleiaf o ynni fyddwch chi’n ei ddefnyddio. Mae gwres yn dianc drwy ffenestri, drysau, waliau a thoeau, felly drwy gadw’r rhain wedi eu hinswleiddio, gallwch gadw eich tŷ yn gynhesach yn hirach.
  • Ystyriwch osod mesurydd SMART
    • Mae’r mesuryddion hyn yn dangos i chi faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio a phryd yn ogystal ag olrhain faint rydych yn ei wario ar ynni. Gall hyn eich helpu i ddynodi pa offer sy’n defnyddio fwyaf o ynni fel y gallwch fod yn fwy effeithlon yn eich cartref.

Ffyrdd eraill o leihau allyriadau yn y cartref:

  • Cau’r llenni i gadw gwres i mewn
  • Diffodd goleuadau pan nad oes eu hangen
  • Cau drysau i atal yr aer oer rhag teithio drwy eich cartref
  • Gall gostwng y gwres un radd wneud gwahaniaeth gwirioneddol 

Tir

Mae llawer o fanteision i adael rhannau o’ch gardd i dyfu’n wyllt drwy beidio â thorri’r glaswellt mor aml a gadael ardaloedd i flodeuo a hadu. Byddwch yn arbed ynni drwy beidio â defnyddio’r peiriant torri glaswellt a bydd gwenyn, gloÿnnod byw ac adar i gyd yn mwynhau’r blodau gwyllt.

Os oes gennych le yn eich gardd, gall plannu coeden, llwyn neu lysiau helpu i leihau eich effaith carbon.

Mae coed a llwyni yn amsugno carbon ac yn anadlu ocsigen allan. Mae eu gwreiddiau’n amsugno dŵr gan leihau effeithiau llifogydd. Gall plannu digon o goed a llwyni mewn ardaloedd trefol arbed ynni drwy ddarparu cysgod a gostwng y tymheredd. Mae tyfu ffrwythau a llysiau yn darparu bwyd rhatach, mwy blasus ac yn dileu milltiroedd bwyd. Mae llwyni, gwrychoedd a choed yn creu coridorau i fywyd gwyllt.  

https://www.woodlandtrust.org.uk/plant-trees/advice/where/

Mae gan CSFf raglen monitro a phlannu coed parhaus, rydym yn gweithio ar draws yr adrannau i wella gwerth bioamrywiaeth ac amsugno carbon yn ein deilliadau tir a pharth cyhoeddus.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Countryside-and-Coast/Nature-in-Flintshire.aspx

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â biodiversity@flintshire.gov.uk 

Cludiant

Cerdded neu feicio

Yn Sir y Fflint, rydym yn parhau i gyflwyno llwybrau teithio llesol gan wneud cerdded a beicio yn ddewis amgen haws a mwy diogel. 

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Active-Travel-Integrated-Network-Map-Consultation.aspx

Mae Sustrans yn cynnal ac yn gofalu am y rhwydwaith beicio cenedlaethol sy’n cysylltu cefn gwlad â threfi a dinasoedd ar hyd a lled y DU. Mae mwy o wybodaeth am waith Sustrans ar gael yma: https://www.sustrans.org.uk/about-us/our-work-in-wales/ein-gwaith-yng-nghymru/

Holwch eich cyflogwyr os ydynt yn cynnig cynllun beicio i’r gwaith, byddai’n lleihau eich allyriadau ond hefyd mae’n ffordd wych o gadw’n iach. Mwy o wybodaeth yma: https://www.cycle2work.info/employees

Yn hytrach na phrynu beic newydd sbon, ystyriwch brynu un ail law - mae cynlluniau beiciau ail law ar gael, fydd yn cynyddu eich arbedion carbon drwy gyfrannu at yr economi gylchol.

Cludiant Cyhoeddus

Pan fo’n bosibl, cynlluniwch eich teithiau drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus. I gael mwy o wybodaeth ac i gynllunio eich taith ar fws, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Bus-timetables.aspx

Gan fod gorsafoedd bysiau ym Mwcle, Caergwrle, y Fflint, Penarlâg a Shotton, gallwch integreiddio eich cynlluniau teithio i gyrraedd mannau ar hyd a lled Cymru a’r DU gyfan. I gael amseroedd trên ac i gynllunio eich taith ewch i https://www.nationalrail.co.uk/

Mae ceir trydan/hybrid yn rhedeg un ai ar fatri neu gyfuniad o fatri a phetrol. Ymchwilio i geir trydan yw’r cam cyntaf i geisio lleihau eich allyriadau. “Mae ceir batri yn creu 40% yn llai o CO2 na rhai petrol” - yr AA  (https://www.theaa.com/driving-advice/electric-vehicles/electric-hybrid-car-guide)

  • Gwiriwch gyda’ch cyflogwr, mae’n bosibl eu bod yn cynnig cynllun aberthu cyflog ar gyfer ceir trydan.   

Newid eich patrymau teithio

Gall gadael y gwaith ychydig yn gynt neu hwyrach i osgoi’r amseroedd prysur leihau’r amser y bydd eich injan yn segur: Engine idling - why it's so harmful and what's being done | RAC Drive

Gallwch helpu i sicrhau bod llai o gerbydau ar y ffyrdd drwy gymudo â chydweithiwr a chymryd tro i yrru bob wythnos.

Gwastraff

Economi Gylchol

Yn hytrach na phrynu rhywbeth a’i daflu pan fydd wedi torri neu os nad ydych yn ei ddefnyddio bellach, cadwch at yr egwyddor o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.  

Lleihau
Ailddefnyddio
  • Pan allwch chi, prynwch bethau ail law.  Mae Refurbs yn y Fflint yn cynnig eitemau fforddiadwy, o ansawdd da ar gyfer y cartref, ac mae llawer o siopau eraill ar y stryd fawr ac ar-lein ble gallwch brynu eitemau ail law.
  • Gellir llogi dillad, bagiau ac ategolion ar-lein ac yna eu dychwelyd i rywun arall gael eu mwynhau drosodd a throsodd.
  • Cyn taflu unrhyw beth sydd wedi torri, mae gan Refurbs Sir y Fflint gaffi trwsio ym Mwcle ble mae gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i drwsio eitemau sydd wedi torri neu eu difrodi i chi.  Mae gweithdai hefyd ble gallwch ddysgu i wneud gwaith trwsio syml eich hun.
  • Os nad oes arnoch eisiau neu angen eitem, yn hytrach na’i daflu, gallech ei roi i rywun fyddai’n hoffi ei gael.  Gallwch werthu eitemau nad oes arnoch eu heisiau ar-lein os nad ydynt wedi eu difrodi, neu eu rhoi i elusen leol.  
Ailgylchu 

Dylai ailgylchu fod yr ateb olaf bob amser, pa na ellir defnyddio’r eitem o gwbl. 

Yn Sir y Fflint, gall preswylwyr ailgylchu llawer o bethau ar ymyl y palmant.

Gallwch weld i ble mae eich gwastraff o ymyl y ffordd yn mynd drwy fynd i Fy Ailgylchu Cymru https://myrecyclingwales.org.uk/cy/local_authorities/sir-y-fflint

Yn ychwanegol at ailgylchu ar ymyl y palmant, mae gan y Cyngor bum canolfan ailgylchu gwastraff cartref ym Mwcle, Maes Glas, yr Wyddgrug, Sandycroft a Rockliffe, ble gallwch ailgylchu pethau ychwanegol fel nwyddau gwyn, carpedi, paent, coed, plastig caled ac ati.

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/Household-Recycling-Centres.aspx

Gallwch drefnu i Refurbs Sir y Fflint ddod i nôl eitemau mawr a gwastraff dodrefn: https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/services/bulky-waste/

Cyngor ar sut i ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu eitemau nad oes arnoch eu heisiau: https://www.walesrecycles.org.uk/cy/sut-i-ailgylchu/sut-i-ailgylchu-gartref-dechrau-arni

Helpwch i wneud Sir y Fflint yn ddi-garbon drwy addo sut y byddwch yn lleihau eich allyriadau carbon.

Addewid Yma