Alert Section

Pa eitemau sy'n gallu cael eu hailgylchu a beth na ellir ei ailgylchu?


Erosolau

Os gwelwch yn dda! Os ydynt yn erosolau gwag a ddefnyddir yn y cartref (e.e. diaroglydd, chwistrell corff, chwistrell gwallt), dylid eu hailgylchu ynghyd â'ch tuniau a'ch caniau.  

Os nad yw’r erosol yn eitem a ddefnyddir yn y cartref, er enghraifft paent car, pryfladdwr WD40 ac ati, dylid mynd â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref agosaf a'u gosod yn y cynhwysydd Erosolau Peryglus.  Ni ddylid rhoi'r rhain yn eich gwastraff cyffredinol oherwydd gallant fod yn beryglus i’r amgylchedd.   Gwiriwch label eich erosolau am symbolau diogelwch.  

Hambyrddau ffoil alwminiwm a ffoil alwminiwm

Os gwelwch yn dda, cyn belled â’u bod yn lân (dim gwastraff bwyd/saim)   Dylid eu golchi, eu gwasgu a’u rhoi yn eich bagiau ailgylchu gyda chaniau a thuniau  

Batris

Gellir ailgylchu batris cartref o bob math gan gynnwys batris ‘botwm’ oriorau ar ymyl y palmant a gellir eu gosod allan i’w casglu gyda gweddill eich gwastraff ailgylchu.   Rhowch eich batris mewn bag clir a’u rhoi allan gyda’ch gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu.   Rydym hefyd yn derbyn batris cartref yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  

Dylid ailgylchu pecynnau batris gliniaduron, ffonau symudol, offer pŵer, teclynnau rheoli o bell a batris car yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Cynwysyddion diod

Os gwelwch yn dda! Rydym yn derbyn Tetrapaks (cawliau, suddion, smwddis ac ati), gellir eu hailgylchu gyda’r plastigion.

Hambyrddau bwyd plastig du

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain ar hyn o bryd, felly dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du).   

Llestri sydd wedi torri 

Os gwelwch yn dda! Gellir ailgylchu llestri’r cartref a photiau planhigion yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref lleol drwy eu rhoi yn y cynhwysydd Pridd a Rwbel a’u defnyddio fel agregau.   Yn anffodus, nid ydym yn derbyn llestri Pyrex yn y cynhwysydd hwn.  Dylid ystyried cynnig unrhyw eitemau diangen sydd mewn cyflwr da i siop elusen.  

Gwydr neu Pyrex sydd wedi torri 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.   Y rheswm dros hyn yw eu bod wedi’u trin â gwres, felly nid ydynt yn toddi ar yr un tymheredd ag eitemau gwydr eraill.  Dylid lapio’r eitem yn ofalus â phapur a’i rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du).   Dylid ystyried cynnig unrhyw eitemau diangen sydd mewn cyflwr da i siop elusen. 

Gwydrau gwin neu wydrau yfed eraill sydd wedi torri 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.  Y rheswm dros hyn yw eu bod wedi’u trin â gwres, felly nid ydynt yn toddi ar yr un tymheredd ag eitemau gwydr eraill.  Dylid lapio’r eitem yn ofalus â phapur a’i rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). Dylid ystyried cynnig unrhyw eitemau diangen sydd mewn cyflwr da i siop elusen. 

Papur Swigod

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain ar hyn o bryd, ond gellir eu hailddefnyddio er mwyn postio eitemau yn ddiogel neu fel dull inswleiddio i ddiogelu planhigion sensitif yn ystod tywydd oer. 

Bocsys a chwpanau tecawê cardbord

Sicrhewch fod unrhyw focsys a chwpanau tecawê cardbord yn lân a heb weddillion bwyd megis caws wedi toddi a saim. Gellir rhoi bocsys a chwpanau cardbord glân a sych yn y sach ailgylchu papur a cherdyn. Gellir eu compostio gartref hefyd. Dylid rhoi bocsys budr yn y gwastraff gweddillol (bin du)

Bagiau neges, pecynnau cylchgronau a ffilm plastig 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.  Ni ellir ailgylchu ffilmiau plastig megis pecynnau cylchgronau, cling ffilm a bagiau neges ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cymysgedd o blastigion a ddefnyddir.   Dylid rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du).  

Gellir defnyddio bagiau neges eto a’u hailddefnyddio fel leiners bin.  

Gellir ailgylchu bagiau bara drwy Terracycle®. Mae TerraCycle® a Hovis® yn gweithio mewn partneriaeth i greu rhaglen ailgylchu am ddim ar gyfer bagiau bara.  Gellir danfon eich bagiau bara i leoliadau cyhoeddus dynodedig ar draws Prydain.

Hambyrddau, tybiau neu fasgedi plastig clir

Os gwelwch yn dda, cyn belled â’u bod yn lân (dim gwastraff bwyd/saim)  Dylid eu golchi a’u hailgylchu ynghyd â'ch potiau, tybiau a hambyrddau plastig.  

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu hambyrddau du ar hyn o bryd, felly dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Podiau coffi

Nid ydym yn casglu podiau coffi ar wahân ar ymyl y palmant ar hyn o bryd.

Mae’r cynllun ailgylchu Podback wedi’i sefydlu er mwyn ailgylchu podiau coffi’n hawdd.

Ewch i’r Gwiriwr Ailgylchu ar wefan Podback.

Olewau Coginio (e.e. olew olewydd, olew blodyn yr haul, olew sosban sglodion)

Rydym yn derbyn olewau coginio yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref cyn belled â’ch bod yn selio’r olew mewn cynhwysydd gyda chaead sy’n cau arno. 

Pecynnau Creision / Cydau Bwyd Babi 

Nid ydym yn derbyn pecynnau creision na chydau bwyd babi i’w hailgylchu ar hyn o bryd gan na ellir ailgylchu pecynnau creision a chynnyrch ffilm plastig sy’n cynnwys metel, megis cydau bwyd babi, oherwydd y saim a’r gwastraff creision sy’n glynu arnynt.  Mae’r prawf gwasgu yn ffordd syml o wirio a ellir ailgylchu rhywbeth.  Os yw’r eitem yn dychwelyd yn ôl i’w siâp gwreiddiol ar ôl i chi ei gwasgu, ni ellir ei hailgylchu.   

Mae KP Snacks® yn gweithio mewn partneriaeth â Terracycle i gynnig cynllun ailgylchu pecynnau creision syml ac am ddim, sydd bellach yn derbyn pob brand. 

Mae Terracycle®  ac Ella's Kitchen® yn gweithio mewn partneriaeth i greu EllaCycle, rhaglen ailgylchu am ddim ar gyfer pecynnau byrbrydau Ella’s Kitchen a chydau bwyd babi o bob math, a chyfle i gyfranogwyr godi arian. 

Fel arall, dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Poteli / silindrau / tuniau nwy

Gellir ail-lenwi poteli nwy i’w defnyddio eto, a dylid eu dychwelyd i'r cyflenwr.  Peidiwch â rhoi silindrau nwy yn eich bin gwastraff os gwelwch yn dda, oherwydd mae’n bosibl iddynt ffrwydro pe baent yn cael eu gwasgu.  Rydym hefyd yn derbyn poteli nwy yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  Gwiriwch â staff y ganolfan ailgylchu lle y dylid gadael y poteli er mwyn sicrhau eu bod yn cael storio’n ddiogel cyn iddynt gael eu hailddefnyddio. 

Cardiau cyfarch (e.e. cardiau Nadolig, cardiau pen-blwydd ac ati.) 

Ni ellir ailgylchu pob cerdyn cyfarch.  Os oes gliter, sticeri neu eitemau eraill ynghlwm â’r cerdyn, ni ddylid eu hailgylchu ynghyd â’ch papur a’ch cardiau gan eu bod yn halogi’r broses o wneud papur.   Gellir ailgylchu pob math arall o gardiau a dylid eu rhoi yn eich bagiau casglu papur a chardiau  

Bylbiau golau 

Os gwelwch yn dda!  Gallwch ailgylchu bylbiau golau effeithlon o ran ynni a thiwbiau fflworoleuol yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref lleol.  

Ni ellir ailgylchu hen fylbiau gwynias a bydd yn rhaid eu lapio'n ddiogel a'u rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du)  

Papurau newydd, papurau swyddfa, cylchgronau, amlenni ac ati 

Os gwelwch yn dda!  Rydym yn derbyn papurau newydd, papurau swyddfa, cylchgronau, post sothach, amlenni gwyn/lliw, cyfeiriaduron, catalogau, cardiau llwyd/gwyn, llyfrau heb feingefnau neu gloriau.  Rhowch nhw yn eich bagiau casglu papur a chardiau os gwelwch yn dda.

Derbynebau papur

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.   Ni ellir ailgylchu derbynebau sydd wedi'u hargraffu ar bapur sgleiniog a thermol, oherwydd mae’r rhain yn cynnwys sylwedd o’r enw bisphenol A (BPA) NEU bisphenol S (BPS).   Gall y cemegion hyn fod yn beryglus pe baent yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd neu os llyncir symiau mawr ohono.  Dylid rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du).  

Cydau Bwyd Anifeiliaid Anwes

Nid ydym yn derbyn cydau anifeiliaid anwes i'w hailgylchu ar hyn o bryd.

Mae TerraCycle®, Whiskas®  a James Wellbeloved® yn gweithio mewn partneriaeth i greu rhaglen ailgylchu am ddim ar gyfer cydau plastig anifeiliaid anwes a bagiau plastig hyblyg.   Mae’r rhaglen yn gweithredu drwy rwydwaith o leoliadau preifat a chyhoeddus ar draws Prydain sy’n derbyn cydau bwyd anifeiliaid anwes.

Fel arall, dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Bagiau Salad / Ffilm Plastig 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.  Ni ellir ailgylchu bagiau salad sydd wedi'u paratoi ymlaen llaw oherwydd maent yn cynnwys gwahanol fathau o blastig, ac felly mae'n anodd eu gwahanu a'u prosesu.   Dylid rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Poteli Llaeth Plastig 

Os gwelwch yn dda! Gellir ailgylchu’r rhain ynghyd â’r potiau, tybiau a hambyrddau plastig. Caiff y rhain eu gwneud allan o blastig o’r enw HDPE. Bydd symbol ailgylchu â rhif 2 wedi'i nodi ar y poteli hyn. Mae’n hawdd newid HDPE i greu poteli llaeth newydd, felly mae galw uchel amdano ac mae'n werthfawr i gwmnïau ailgylchu.  

Teganau a gemau plastig 

Nid ydym yn derbyn rhai mathau o deganau plastig i’w hailgylchu yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, mae’n well gwirio yn gyntaf.    Yn anffodus, ni ellir eu casglu fel rhan o’ch casgliadau gwastraff cartref.   Os yw eich teganau’n gweithio’n iawn, gallwch roi cynnig ar eu gwerthu, eu rhoi i siop elusen neu eglwys leol, llyfrgell deganau neu gylch chwarae.   Os nad oes modd trwsio eich teganau a’ch gemau, efallai ei fod yn bosibl ailgylchu rhannau ohonynt pe baech yn eu datgymalu.  Mae hyn yn cynnwys batris a phecynnau batris teclynnau rheoli o bell, dylid tynnu'r rhain allan a'u hailgylchu. 

Polystyren a bocsys tecawê 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.   Dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Tiwbiau cardbord Pringles 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain gyda phapur a chardiau, gan eu bod yn cynnwys deunydd gwahanol megis sylfaen metel, papur selio ffoil, caead plastig, leinin ffoil ar yr ochr mewnol a chardbord ar yr ochr allanol.  

Gellir eu hailddefnyddio i storio bagiau creision a bisgedi sydd wedi eu hagor a nwyddau eraill y cartref, neu gall plant eu haddurno a’u defnyddio i storio pethau.  Fel arall, dylid rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du).   

Mae bellach yn bosibl ailgylchu tiwbiau Pringles fel rhan o gynllun casglu peilot a sefydlwyd ym mynedfa Tesco yn yr Wyddgrug.
Byddwn yn treialu hyn yn Tesco’r Wyddgrug tan ddiwedd mis Chwefror 2021.  

Nodiadau Gludiog / Nodiadau Post-it 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu’r rhain.  Ni allwn dderbyn nodiadau post-it neu nodiadau gludiog gyda phapurau eraill yn y casgliadau ailgylchu ar ymyl y palmant, oherwydd nid yw bob amser yn bosibl tynnu’r glud oddi ar y strip glynol yn ystod y broses ailgylchu.   Dylid rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Past dannedd a thiwbiau eraill y gellir eu gwasgu 

Mae’n anodd ailgylchu past dannedd, eli haul a thiwbiau eraill y gellir eu gwasgu oherwydd maent yn cynnwys deunydd gwahanol.   Mae tiwbiau past dannedd yn aml yn cynnwys haen denau o alwminiwm a gwahanol fathau o blastig - sy'n ei gwneud yn anodd i ailgylchwyr eu gwahanu a'u prosesu.

Mae Colgate® yn gweithio mewn partneriaeth â Terracycle®, cwmni sy’n mowldio eitemau i greu cynnyrch newydd, megis meinciau ar gyfer parciau, i gynnig cynllun ailgylchu am ddim ar gyfer tiwbiau past dannedd, brwshys dannedd, pecynnau allanol a phennau brwshys dannedd trydanol a batri.  I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â: https://www.terracycle.com/en-GB/brigades/colgate-uk 

Dylid rhoi’r rhain yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du). 

Fframiau / paenau ffenestri 

Os gwelwch yn dda! Gallwch fynd â’r rhain i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref lleol.  

Papur lapio 

Ni ellir ailgylchu pob math o bapur lapio.   Mae’r prawf gwasgu yn ffordd syml o wirio a ellir ailgylchu rhywbeth.  Os yw’r eitem yn dychwelyd yn ôl i’w siâp gwreiddiol ar ôl i chi ei gwasgu, ni ellir ei hailgylchu.   Os nad yw’n dychwelyd i’w siâp gwreiddiol, gellir ei hailgylchu ynghyd â'r papurau eraill y gellir eu hailgylchu. 

Potiau iogwrt, cynwysyddion menyn / margarîn, hambyrddau, tybiau a basgedi bwyd plastig clir 

Os gwelwch yn dda, cyn belled â’u bod yn lân (dim gwastraff bwyd/saim)  Gellir ailgylchu’r rhain ynghyd â’r potiau, tybiau a hambyrddau plastig.  Yn anffodus, ni ellir ailgylchu hambyrddau du ar hyn o bryd, felly dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol (bin olwynion du).