Alert Section

Prosiectau wedi'u Cymeradwyo

Gwybodaeth am brosiectau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi cael eu cymeradwyo a manylion cyswllt perthnasol.

Funded by UK Government (Welsh)

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Prosiectau Sir y Fflint yn Unig

(ADAPTS) Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Dechnoleg a Sgiliau

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru

Cyswllt:
Natalie Jones

E-bost:
natalie.jones@amrc.co.uk

Gwefan:
https://www.amrc.co.uk/pages/amrc-cymru
https://www.amrc.co.uk/pages/adapts


Bydd y prosiect yn rhoi mynediad heb ei ail i weithgynhyrchwyr Sir y Fflint at arddangoswyr a pheirianwyr technoleg gweithgynhyrchu uwch, trosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant ac uwchsgilio mewn strategaethau digidol a datgarboneiddio. 

Bydd y prosiect yn ymgysylltu â 32 o weithgynhyrchwyr yn Sir y Fflint drwy weithdy trochi wythnos o hyd. Bydd y gweithdy hwn yn sail i adroddiad a fydd yn manylu ar statws technoleg y cwmni, cyfleoedd technoleg ar gyfer datgarboneiddio ac ystadegau cynhyrchiant ac amgylcheddol.

Ar ôl cwblhau’r sesiynau ymgysylltu cychwynnol hyn, bydd 16 o’r cwmnïau yn cael eu dewis i dderbyn cefnogaeth bellach i weithio ar un o’r cyfleoedd a nodwyd, a chwblhau hyfforddiant ac i sicrhau arloesi parhaus o fewn y sefydliad. 

Bydd y partneriaid cyflawni prosiectau, Coleg Cambria a Small World Consulting, yn darparu hyfforddiant ar weithgynhyrchu uwch a phynciau cynaliadwyedd a fydd yn cynorthwyo â throsglwyddo gwybodaeth a chyd-destun.

Bydd cwmnïau buddiolwyr a’r gymuned weithgynhyrchu ehangach yn Sir y Fflint hefyd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn AMRC a’r Rhwydwaith Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel ehangach, a fydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu, gan ategu mabwysiadu technoleg a sgiliau ymhellach.

Bydd y prosiect o fudd i weithgynhyrchwyr potensial uchel a busnesau bach a chanolig sydd angen cefnogaeth gyda thrawsnewid digidol, gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant a chynaliadwyedd. 

(FAST)Dyfodol Cynaliadwy Di-garbon Sir y Fflint

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru

Cyswllt:
Matthew Booth

E-bost:
m.booth@amrc.co.uk

Gwefan:
https://www.amrc.co.uk/pages/amrc-cymru


Mae’r prosiect yn anelu i gynnwys Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy yn gyfreithiol, i ddatgloi ei botensial llawn i gefnogi twf gwyrdd.  Yn ogystal, bydd y prosiect hefyd yn:

  • Cynnal ymarfer mapio ynni cynhwysfawr ar draws yr holl ddiwydianwyr, i asesu eu hanghenion ynni yn y presennol ac yn y dyfodol a chyflymu’r newid i sero net.
  • Datblygu cynlluniau trawsnewid ynni dewisol.
  • Cefnogi datblygiad y map datgarboneiddio.
  • Cefnogi datblygiad y Prosbectws Buddsoddiad Tir ac Ynni.
  • Cynyddu trosglwyddiad gwybodaeth ym mhob rhan o’r gadwyn gyflawni, o addysg y blynyddoedd cynnar (STEM) i gydweithio sefydliadol.

Bydd y prosiect o fudd i fusnesau, diwydianwyr, cyflenwyr ynni, darparwyr isadeiledd a’r byd academaidd. 

Cronfa Sir y Fflint 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Antur Cymru

Cyswllt:
Rowan Jones neu Toni Godolphin

E-bost:
flintshirefund@anturcymru.org.uk

Gwefan:
www.anturcymru.org.uk


Mae’r prosiect yn cynnwys darparu a rheoli tair cronfa grant i ddarparu cymorth cam cyntaf sydd wedi cael ei ddylunio i gefnogi busnesau wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf ar eu siwrneiau arloesi a di-garbon. 

  • Bydd y grant Lleihau Carbon yn galluogi creu cynlluniau busnes lleihau carbon ar gyfer ystod o dechnolegau carbon isel yn cynnwys cyfle cynhyrchu ynni, pecynnu, ôl-osod deunydd inswleiddio, diweddaru goleuadau a datgarboneiddio fflyd, ymysg mentrau eraill.
  • Bydd y grant Arloesi yn cefnogi creu cyllid profi cysyniad yn y camau cynnar er mwyn galluogi busnesau i adnabod a gwerthuso cyfleoedd yn well, ac i benderfynu os yw cyfle datblygu posibl yn haeddu’r amser a’r adnoddau a fuddsoddir ynddo i’r busnes symud ymlaen drwy’r talebau arloesi neu lwybrau datblygu eraill.
  • Bydd grantiau hefyd yn cael eu dyfarnu i rwydweithiau busnes hygyrch a chynhwysol sy’n gweithredu yn Sir y Fflint ac sydd ag aelodaeth sefydlog o fusnesau lleol. Y nod yw cryfhau rhwydweithiau busnes lleol sy’n cefnogi busnesau i ddechrau arni, tyfu, cynnal eu datblygiad ac arloesi.

Bydd y prosiect o fudd i fusnesau bach a chanolig a bydd yn targedu’r sectorau hynny a fyddai’n ei chael hi’n anodd ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i werthuso eu gwaith carbon sero neu ymchwil a datblygu yn y camau cynnar.

Academi Ddigidol Werdd Sir y Fflint 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Grŵp Llandrillo Menai (GLlM)

Cyswllt:
Donna Hodgson

E-bost:
hodgso1d@gllm.ac.uk

Gwefan:
https://www.gllm.ac.uk/cy/busnes/projects/green-digital-academy


Bydd y prosiect yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau bach a chanolig i wella eu galluoedd digidol a sero net yn unol â’u strategaeth fusnes greiddiol, gan gefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant a lleihau carbon a chostau.

Bydd y prosiect yn:

  • Gwneud gwaith diagnostig ar waelodlin amgylcheddol a digidol y busnes.
  • Darparu map gweithredu wedi’i deilwra er mwyn datgarboneiddio a digideiddio.
  • Mentora busnesau i gyflawni ar y cynlluniau hynny.
  • Nodi cyllid i gefnogi buddsoddiad cyfalaf, rhannu arferion gorau a chefnogi newidiadau cysylltiedig i weithrediadau ac ymddygiad gweithwyr.

Bydd y prosiect o fudd i fusnesau bach a chanolig, yn enwedig y sectorau hynny sydd, yn draddodiadol, wedi ei chael yn anodd ymgysylltu â’r rhaglenni digidol a sero net yn cynnwys yr economi sylfaenol.

Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cadwyn Clwyd

Cyswllt:
Cara Roberts

E-bost:
cara.roberts@cadwynclwyd.co.uk

Gwefan:
www.cadwynclwyd.co.uk


Mae’r prosiect yn anelu i wella cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw y mentrau micro, bach a chanolig sy’n gweithredu o fewn yr economi twristiaeth a phrofiadau. 

Bydd y prosiect yn cefnogi’r tri maes ymyrraeth canlynol:

  • Grantiau Isadeiledd Busnes Twristiaeth ar gyfer busnesau micro, bach a chanolig sy’n ymwneud â thwristiaeth i gynnal arloesedd newydd i’r cwmni, buddsoddi mewn gwella profiadau i ymwelwyr a thargedu marchnadoedd newydd.
  • Bydd Cronfa Ddichonoldeb y Sector Twristiaeth yn cynorthwyo â’r gwaith dichonoldeb sydd ei angen i gyflawni prosiectau sy’n targedu datblygiad isadeiledd twristiaeth a’r economi ymwelwyr. 
  • Gweithredu’r Grant Busnes a’r Gronfa Allweddol Rhwydweithiau Busnes a fydd yn cynnwys swyddog prosiect, cefnogi a gweinyddu prosiect, ymgynghoriaeth dwristiaeth ar gyfer grantiau busnes, marchnata a chyfathrebu, a chostau gwerthuso prosiect.

Bydd y prosiect o fudd i fusnesau sy’n gweithredu o fewn y sector twristiaeth ac ymwelwyr.

Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Sir y Fflint

Cyswllt:
Karen Whitney-Lang

E-bost:
Karen.Whitney-Lang@siryfflint.gov.uk

Gwefan:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/What-we-are-currently-working-on/Flintshire-Town-Centre-Investment-Programme.aspx


Mae’r rhaglen hon yn cynnwys nifer o brosiectau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar draws saith canol tref a chymunedau cyfagos:

  • Cynllun Grant Buddsoddi Mewn Eiddo Canol Tref a ddyluniwyd i uwchraddio a gwella eiddo masnachol yng nghanol trefi.
  • Datblygu prosiectau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, megis astudiaethau dichonoldeb, uwchgynlluniau ac adroddiadau technegol a fydd yn llywio adfywio canol trefi yn y dyfodol.
  • Buddsoddi mewn Mannau Gwyrdd i osod a gwella isadeiledd gwyrdd ar draws y trefi, yn enwedig ym Mwcle, Treffynnon a Shotton.
  • Cyflogi Swyddog Hyrwyddo ac Ymgysylltu ar gyfer y Tîm Marchnadoedd Canol Trefi i gynorthwyo â chynnal marchnadoedd dan do ac awyr agored a datblygu digwyddiadau a marchnadoedd artisan.
  • Cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref.
  • Datblygu’r Cynllun Creu Lleoedd.
  • Darparu Cefnogaeth wedi’i Theilwra i Fusnesau i gyflawni gweithgareddau ymgysylltu â busnesau a chefnogaeth un i un bwrpasol a hyfforddiant i fusnesau canol trefi.
  • Ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu i hyrwyddo ‘cynnig’ canol trefi Sir y Fflint.

Bydd y prosiect o fudd i’r awdurdod lleol, perchnogion eiddo yng nghanol y dref, busnesau, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a’r amgylchedd.

Cysylltu i’r Arfordir a Chefn Gwlad

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Sir y Fflint

Cyswllt:
Isobel Smith

E-bost:
Isobel.Smith@siryfflint.gov.uk

Gwefan:
www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Countryside-and-Coast/Home.aspx


Mae’r prosiect yn anelu i gysylltu pobl ag arfordir a chefn gwlad Sir y Fflint a’r asedau treftadaeth a diwylliannol drwy gyflawni dau brif faes ymyrryd.

  • Adeiladu sylfeini ar gyfer Parc Arfordir hygyrch yn Sir y Fflint sy’n dathlu’r amgylchedd naturiol a threftadaeth arfordir Cymru drwy:
    • Gyflawni cynllun datblygu 5 mlynedd gydag achos busnes wedi’i brisio. 
    • Llunio a gweithredu cynllun marchnata a brandio.
    • Sefydlu trefniadau gwaith ar gyfer gweinyddu’r parc arfordir yn y dyfodol.
    • Cyflawni cyfres o fentrau peilot i wella isadeiledd gwyrdd, yn cynnwys coed, plannu gwrychoedd a phrosiectau mynediad.
    • Cryfhau cysylltiad yr arfordir gyda’r gymuned leol a busnesau drwy gyfleoedd gwirfoddoli, digwyddiadau ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid. 
    • Creu cynlluniau gofodol ac astudiaethau dichonoldeb ar gyfer canolbwyntiau’r parc arfordir.
  • Gwella gwelededd asedau drwy weithredu rhaglen o arwyddion i dwristiaid ac arwyddion ffin newydd ar gyfer safleoedd o bwysigrwydd diwylliannol, treftadaeth a naturiol ac i ddatblygu’r defnydd o fannau agored ar hyd arfordir Dyfrdwy.

Bydd y prosiect o fudd i gymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr.

Rhaglen Welliannau Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas

Cyswllt:
Helen Mrowiec

E-bost:
helen.mrowiec@siryfflint.gov.uk

Gwefan:
www.greenfieldvalley.com 


Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o naw prosiect refeniw a nodwyd fel blociau adeiladu allweddol a galluogwyr i gyflawni’r strategaeth 10 mlynedd ar gyfer Dyffryn Maes Glas. 

  • Cynnydd Carbon Sero i nodi sut y gall y Dyffryn a’i weithgareddau gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o fod yn ddi-garbon erbyn 2050 i lywio penderfyniadau gweithredol a buddsoddiadau yn y dyfodol.
  • Bydd Isadeiledd Treftadaeth-Gwyrdd-Glas yn darparu cynllun trosolwg treftadaeth a thirlun adeiledig integredig ar gyfer y Dyffryn cyfan, gan lywio lleoliad gweithgareddau newydd i’r gymuned ac i ymwelwyr, tra’n gwarchod yr amgylcheddau adeiledig, naturiol a’r dŵr. 
  • Rhaglen Datblygu Diwylliant a Threftadaeth sy’n cynnig dewisiadau ar gyfer diweddaru amgueddfa’r Dyffryn.
  • Rhaglen Gymunedol y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth yn cynnwys addysg, cyfranogiad gweithgareddau estyn allan, arddangosfeydd a digwyddiadau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y gymuned leol. 
  • Hyrwyddo’r lleoliad i ymwelwyr a chynyddu ymwybyddiaeth o brydferthwch, hanes, cyfleusterau, digwyddiadau a gweithgareddau y Dyffryn ymysg twristiaid i gynyddu nifer yr ymwelwyr.
  • Cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli yn y Dyffryn. 
  • Creu mannau cymunedol newydd a chynlluniau ar gyfer ail-ddylunio Tŷ Dinas Basing a’r ardal o’i amgylch i greu canolbwynt cymunedol gyda mannau y gellir eu gosod.
  • Uwchraddio cynnig y dderbynfa i ymwelwyr, cyfleusterau arlwyo a manwerthu’r Amgueddfa. 
  • Cymorth isadeiledd digidol a gwelliannau i’r isadeiledd Wi-Fi presennol yng Nghanolbwynt Ymwelwyr y Dyffryn (ffin dalu) i ymestyn cysylltedd i rannau eraill o’r safle. 

Bydd y prosiect o fudd i drigolion lleol, cymunedau ac ymwelwyr.

Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint

Cyswllt:
Helen Williams a Shaun Darlington

E-bost:
helen.williams@cadwynclwyd.co.uk a Shaun.Darlington@flvc.org.uk

Gwefan:
www.cadwynclwyd.co.uk


Bydd y prosiect yn cefnogi lleoliadau / cyfleusterau / gofodau / grwpiau a arweinir gan y gymuned / sy’n eiddo i’r gymuned, i ddatblygu, cryfhau a gwella isadeiledd cymunedol a phrosiectau yn y gymuned gyda phwyslais yn benodol ar gymunedau lleol a gwasanaethau llawr gwlad o fewn Sir y Fflint.

  • Bydd swyddogion datblygu yn gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol i ganfod prosiectau, datblygu cynigion a chynlluniau busnes, canfod arian cyfatebol allanol a darparu cymorth ymarferol i wireddu eu cynlluniau.
  • Bydd Cymorth Cyllid Datblygu Cyn y Prosiect yn cefnogi cymunedau i gymryd y cam cyntaf at wireddu a gweithredu prosiectau a bydd yn ariannu astudiaethau dichonoldeb ac ymgynghoriaeth arbenigol. 
  • Bydd yr elfen Cronfa Allweddol Gymunedol yn cynnwys grant cyfalaf a refeniw i gefnogi prosiectau cymunedol.

Bydd y prosiect o fudd i sefydliadau cymunedol a lleoliadau a arweinir gan / sy’n eiddo i’r gymuned.

LEAP (Dysgu, Archwilio, Cyflawni, Perfformio) 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Sir y Fflint

Cyswllt:
Gareth Hywel

E-bost:
hywelg10@hwbcymru.net

Gwefan:
www.siryfflint.gov.uk


Bydd y prosiect yn darparu ystod eang o wasanaethau addysg ac ymyriadau a fydd yn cael eu teilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Bydd y gwasanaethau a gynigir yn gwella’r ddarpariaeth addysg bresennol. 

Bydd y prosiect yn cynnwys: 

  • Cefnogaeth un i un i leihau rhwystrau i gyflogaeth ac addysg.
  • Ymyriadau grŵp bach a chyfleoedd ymgysylltu i alluogi buddiolwyr i gael mynediad at ddarpariaeth prif ffrwd yn cynnwys lleoliadau megis ysgolion, addysg bellach neu Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.
  • Datblygu cysylltiadau newydd i gyflogwyr i gysylltu’r rhai hynny sydd angen profiad gwaith gyda chyflogwyr sy’n recriwtio staff.
  • Darparu cyrsiau achrededig sydd wedi cael eu dylunio i fagu hyder a chynorthwyo cyfranogwyr ar y camau nesaf.

Bydd y prosiect hwn o fudd i’r rhai hynny sydd mewn perygl o fod yn NEET, unigolion sy’n gadael gofal, y rhai sy’n economaidd anweithgar a’r rhai sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. 

Prosiect 11 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint

Cyswllt:
James Warr

E-bost:
james.warr@siryfflint.gov.uk

Gwefan:
www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Children,-Young-People--Families/Youth-Justice-Service-Information.aspx


Mae’r prosiect yn cynnwys dull aml-asiantaeth ac aml-fodd i leihau camfanteisio, trais a throseddau cyfundrefnol sy’n cynnwys pobl ifanc er mwyn creu cymdogaethau diogel.

Bydd y prosiect yn darparu ymyrraeth un i un arbenigol wedi’i thargedu ac yn estyn allan i’r gymuned yn ogystal ag ymateb i wybodaeth proffil cymunedol. 

Bydd y prosiect yn cefnogi, yn atal ac yn hyrwyddo ymgysylltiad cadarnhaol a gweithgarwch pwrpasol, datblygiad sgiliau a chyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer y rhai hynny sy’n cyflawni gweithgarwch troseddol a chamfanteisio neu sydd mewn perygl o hynny. 

Bydd y prosiect yn hyrwyddo mentora cyfoedion, gweithgareddau gwrthdyniadol ac ail-ymgysylltu â chyfleoedd cadarnhaol yn cynnwys addysg, hyfforddiant, chwaraeon a chyflogaeth.

Bydd y prosiect o fudd i bobl ifanc 11+ oed sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio a thrais.

‘Minding the Gaps’ ar gyfer Pobl Ifanc yn Sir y Fflint 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
WeMindTheGap

Cyswllt:
Ali Wheeler 

E-bost:
ali@wemindthegap.org.uk 

Gwefan:
www.wemindthegap.org.uk


Bydd y prosiect yn darparu llwybr o raglenni i gefnogi bwlch o ran darpariaeth ymgysylltu i ddiwallu anghenion pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed ar ôl y pandemig. Mae’n ceisio mynd i’r afael â materion megis eithrio cymdeithasol, unigedd, sgiliau isel a diffyg hyder.

  • Mae’r rhaglen ddigidol WeDiscover wedi’i hanelu at bobl ifanc 16 – 25 oed, nad ydynt yn ymgysylltu ag addysg, coleg ac sydd bellaf o’r gweithle, a’r unigolion hyn yn aml yw’r rhai mwyaf unig.
  • Bydd y rhaglen gyflogadwyedd WeGrow yn cyflogi 10 person ifanc ar gontract tymor penodol am chwe mis, gan weithio 30 awr yr wythnos am yr isafswm cyflog cenedlaethol, gan ganiatáu i bobl ifanc ddeall rheolau a disgwyliadau cyflogaeth, cynorthwyo â sgiliau cyllidebu a rhoi ymdeimlad o werth iddynt.
  • WeBelong yw’r cynllun ar gyfer cyn-ddisgyblion a’r gwahaniaethydd profedig olaf.  Mae’n cael gwared ar ‘ymyl clogwyn’ prosiect a bydd yn gweithio i gefnogi cyfranogwyr cyhyd ag y byddant eisiau / angen y gefnogaeth.

Bydd y prosiect o fudd i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed.

Camau Cefnogol 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Coleg Cambria

Cyswllt:
Vicky Barwis

E-bost:
vicky.barwis@cambria.ac.uk

Gwefan:
https://www.cambria.ac.uk/cymorth-i-fyfyrwyr


Bydd y prosiect yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth mentora i gyfranogwyr 16-25 oed sy’n symud i Addysg Bellach, sydd angen cymorth ychwanegol, gan gefnogi eu siwrnai ddysgu drwy gydol eu hamser yn y coleg a defnyddio llwybrau datblygu i gyflogaeth bosibl.

Mae’r prosiect yn ceisio sicrhau gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy’n gadael addysg bellach a dod yn NEET oherwydd problemau megis iechyd meddwl, anhrefn yn y cartref, profiadau addysg negyddol, tlodi, diffyg cadernid ac ati .

Bydd y prosiect o fudd i ddysgwyr Sir y Fflint rhwng 16-25 oed sy’n mynychu campws Glannau Dyfrdwy a champws Llaneurgain Coleg Cambria.

Cryfder mewn Rhifau

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Sir y Fflint

Cyswllt:
Dawn Spence

E-bost:
dawn.spence@siryfflint.gov.uk

Gwefan:
www.siryfflint.gov.uk


Bydd y prosiect yn cynnig ymyriadau wedi’u targedu a darpariaeth i oedolion sy’n dysgu ar eu siwrnai rhifedd, datblygu sgiliau rhifedd y dysgwyr, cynnig rhaglenni astudio creadigol a phersonol gydag achrediad, hyrwyddo pwysigrwydd rhifedd, a sefydlu gweithlu rhifedd cadarn. Bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd hyblyg, am ddim i oedolion sy’n 19 oed neu’n hŷn er mwyn eu helpu i wella eu sgiliau rhifedd ac ennill cymhwyster.

Bydd y prosiect yn:

  • Rhoi darpariaeth rhifedd wedi’i thargedu mewn lleoliadau cymunedol ar draws Sir y Fflint yn cynnwys cymorth rhifedd un i un.
  • Cefnogi dysgwyr ar eu siwrnai ddysgu o gofrestru, presenoldeb, cyfranogiad i gwblhad.
  • Adeiladu gweithlu o ymarferwyr rhifedd cymwys a gefnogir gan raglen ddysgu broffesiynol a fforwm ar gyfer ymarferwyr rhifedd.

Bydd y prosiect o fudd i oedolion sy’n 19 oed neu’n hŷn sydd angen cymorth rhifedd ac uwchsgilio.


Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Prosiectau Aml Awdurdod Lleol

Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai

Cyswllt:
Vicky Barwis

E-bost:
vicky.barwis@cambria.ac.uk

Gwefan:
https://www.cambria.ac.uk/cyflogwyr/


Bydd y prosiect yn cefnogi gweithwyr i adnabod a diwallu anghenion hyfforddiant a bylchau o ran sgiliau i gyflawni twf yn y dyfodol ac amcanion strategol yn eu busnes.

Bydd y prosiect yn sicrhau y gall gweithwyr gael mynediad at gefnogaeth ar gyfer y sgiliau a fydd yn helpu eu busnes ac yn caniatáu i’w gweithwyr ddatblygu sgiliau ychwanegol.  Bydd yn gwella sail sgiliau yr economi leol. 

Bydd y prosiect yn cynnig pecynnau hyfforddiant gwaith wedi’u teilwra i weithwyr ar Lefel 2-7. Mae hyn yn cynnwys cynnal gwaith diagnostig ar draws y busnes i nodi anghenion hyfforddiant a bylchau o ran sgiliau, gan ddarparu ystod o ddatrysiadau o ran cymwysterau, amseroedd a dulliau darparu.   

Bydd y rhain yn cael eu paru â phob busnes a disgwylir y byddant yn cynnwys: 

  • Cymwysterau achrededig llawn 
  • Unedau o gymwysterau 
  • Hyfforddiant sgiliau heb ei achredu 
  • Cymwysterau gwerthwyr 

Bydd y prosiect o fudd i weithwyr busnesau Sir y Fflint.

Working Sense 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain

Cyswllt:
Clare Lewis

E-bost:
clare.lewis@signsightsound.org.uk

Gwefan:
https://www.centreofsignsightsound.org.uk/working-sense

Bydd y prosiect yn gwella sgiliau cyflogadwyedd pobl dros 25 â nam ar y synhwyrau neu anableddau, drwy ddarparu cymorth arbenigol i alluogi’r grŵp targed i sicrhau cyflogaeth neu ddychwelyd iddo, ac aros mewn gwaith, neu symud yn nes at fedru gweithio, gan ddefnyddio dull holistig un-i-un sy’n defnyddio Ymgynghorwyr Cyflogaeth a Gweithwyr Cefnogi.   

Bydd y prosiect yn cefnogi’r cyfranogwyr i oresgyn y rhwystrau a achosir gan eu hanableddau, gwella eu hyder a sgiliau galwedigaethol, a chefnogi cyfranogwyr unigol mewn cyflogaeth, gwaith gwirfoddol neu addysg. Byddant yn datblygu rhaglen / cynllun gweithredu wedi’i deilwra ar gyfer pob unigolyn i nodi eu hanghenion a gofynion penodol.

Bydd y prosiect o fudd i oedolion 25 oed a hŷn sydd ag anabledd neu nam ar y synhwyrau.

Gogledd Cymru - Egnïol, Iach a Hapus 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Gogledd Cymru Actif North Wales

Cyswllt:
Mike Parry  

E-bost:
mike@gogleddcymruactif.cymru

Gwefan:
www.gogleddcymruactif.cymru


Bydd y prosiect yn cefnogi pobl er mwyn eu galluogi i fod yn fwy actif yn rheolaidd.  Trwy hyn, mae’n anelu i fynd i’r afael â heriau lleol eraill yn cynnwys mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, creu cymunedau cadarn, cydlynol a balch, datblygu sgiliau a chanfod, cefnogi a grymuso arweinwyr lleol, lleihau arwahanrwydd ac unigrwydd a chefnogi iechyd meddwl da.

Bydd y prosiect yn cefnogi hyd at 3 cymuned yn Sir y Fflint sy’n wynebu anghydraddoldebau i gael gwell dealltwriaeth o sut beth yw byw yno, y rhwystrau maent yn eu hwynebu o ran bod yn fwy actif ac yna i gyd-ddylunio datrysiadau cynaliadwy.

Bydd y prosiect o fudd i’r cymunedau dewisol.

Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Uchelgais Gogledd Cymru

Cyswllt:
Nia Medi Williams

E-bost:
gwyb@uchelgaisgogledd.cymru

Gwefan:
https://uchelgaisgogledd.cymru/uchelgais-gogledd-cymru/


Nod y prosiect yw bod pobl, busnesau a chymunedau ledled gogledd Cymru’n elwa i’r eithaf ar y buddion a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y buddsoddiadau sy’n gysylltiedig â’r Weledigaeth Twf, gan gynnwys Bargen Dwf Gogledd Cymru. Bydd y prosiect yn grymuso arweinwyr lleol drwy gynyddu’r gallu a’r capasiti i ddarparu prosiectau a arweinir gan dwf.  Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy:

  • Gydweithio’n rhanbarthol a gwella strwythurau rhanbarthol.
  • Porth sgiliau broceriaeth a chyflogaeth ar-lein i gefnogi unigolion i mewn i waith, gan gysylltu’r unigolion hynny sy’n chwilio am waith gyda chyflogwyr sy’n hysbysebu swyddi.
  • Ystod o brosiectau digidol yn cynnwys arolwg symudol, asesiadau cysylltedd, mynediad i asedau’r sector cyhoeddus ac ymgysylltiad band eang cymunedol.
  • Cymorth i fusnesau a sefydliadau cymunedol i gael mynediad at gyllid ar gyfer trosglwyddo i sero net, drwy brosiect Ynni Lleol Clyfar y Fargen Dwf yn benodol.  Adeiladu capasiti rhanbarthol o ran lleihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth drwy fethodoleg arloesol UGC  a dysg gysylltiedig.
  • Datblygiad a gweithrediad parhaus o blatfform monitro ar-lein i bartneriaid rhanbarthol gyflwyno diweddariadau ar gynnydd y prosiect yn erbyn y targedau a gytunwyd arnynt  ac ymrwymiadau gwerth cymdeithasol a rhannu arferion gorau.  Datblygu prosesau caffael er mwyn cynnwys buddion a gwerth cymdeithasol yn y broses er mwyn caniatáu i ymgeiswyr fod yn arloesol a chreadigol wrth ddarparu o fewn yr ardal leol.  Cyfres o ddeunyddiau arferion gorau i rannu dysg ar draws y rhanbarth.

Bydd y prosiect o fudd i’r awdurdod lleol, partneriaid a budd-ddeiliaid strategol, a thrigolion, busnesau a chymunedau Sir y Fflint.

Garddwriaeth Cymru 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Prifysgol Wrecsam

Cyswllt:
Laura Gough

E-bost:
L.Gough@glyndwr.ac.uk

Gwefan:
https://horticulturewales.co.uk/cy/


Bydd y prosiect yn hwyluso mynediad at gynnyrch lleol, atgyfnerthu cadwyni cyflenwi, hybu cyfranogiad, codi ymwybyddiaeth ac yn annog pobl i gyfranogi a gwirfoddoli yn eu hamgylchedd naturiol lleol, gan  addysgu cymunedau ynglŷn â’r effaith y gall garddwriaeth ei chael ar les.

Trwy hwyluso cydweithio rhwng aelodau clwstwr a chyfuno’r dechnoleg a’r wybodaeth ddiweddaraf am dyfu gyda dulliau traddodiadol, bydd y prosiect yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig, cwmnïau buddiannau cymunedol ac ysgolion lleol gan ganolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth o dyfu cynnyrch ar gyfer y posibilrwydd o’u defnyddio gartref a’u hallforio. Cyflawnir hyn drwy:

  • Gefnogi digwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau garddwriaethol a chymunedol lleol.
  • Cynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu mewn ardaloedd dynodedig gan arwain at greu asedau cymunedol newydd yn cynnwys perllannau newydd.
  • Parhau i ddarparu cymorth i entrepreneuriaid a thyfwyr bach sy’n dymuno ymuno â’r farchnad.
  • Cefnogi busnesau bach a chanolig wrth iddynt fabwysiadu prosesau technoleg newydd, gyda gwasanaethau / cynnyrch sy’n newydd i’r cwmni a’r farchnad.
  • Digwyddiadau estyn allan digidol hyrwyddol y clwstwr.
  • Darparu a/neu gyfeirio unigolion at leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • Datblygu rhaglenni gwyddoniaeth / y celfyddydau.
  • Hyrwyddo lles a chynaliadwyedd yn ddigidol.

Bydd y prosiect o fudd i gymunedau, busnesau bach a chanolig, mentrau cymdeithasol, ysgolion a grwpiau cymunedol.

Caru Cymru 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Cadwch Gymru’n Daclus

Cyswllt:
Gruff Jones

E-bost:
Gruff.Jones@keepwalestidy.cymru

Gwefan:
https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/


Bydd y prosiect yn darparu ystod o weithgareddau profedig i greu a chefnogi nifer o rolau gwirfoddoli a chyfleoedd cymunedol megis:

  • Cynnal ac ehangu rhwydwaith o ganolbwyntiau casglu sbwriel cymunedol.
  • Cefnogi ac ehangu’r rhwydwaith o gefnogwyr casglu sbwriel.
  • Cefnogi ac ehangu’r cynllun parthau di-sbwriel, gan sicrhau bod mwy o ysgolion a busnesau’n cymryd cyfrifoldeb am gadw eu hardal leol yn ddi-sbwriel.
  • Sefydlu a hyfforddi grwpiau cymunedol newydd i ‘fabwysiadu’ a chynnal eu hardal leol, wrth barhau i gefnogi’r grwpiau cymunedol presennol.
  • Ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad.
  • Cysylltu ag Awdurdodau Lleol a Grwpiau Cymunedol i ganfod profion ac ymgyrchoedd addas i fynd i’r afael â phroblemau Ansawdd yr Amgylchedd Lleol, megis baw cŵn, tipio anghyfreithlon, sbwriel twristiaid ac ati.
  • Llunio pecyn gwaith ac adnoddau ymgyrch Ansawdd yr Amgylchedd Lleol.
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth i’r awdurdod lleol ar ddatblygu strategaethau sbwriel / tipio anghyfreithlon. 
  • Sefydlu a chefnogi caffis atgyweirio, siopau ailddefnyddio / cyfnewid, amnestau gwastraff, siopau ailgylchu dros dro a gweithgareddau eraill i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon, cynorthwyo pobl ar incymau isel (drwy ailddosbarthu eitemau am ddim) a lleihau gwastraff (egwyddorion economi gylchol).
  • Arolygon sbwriel blynyddol er mwyn nodi problemau cyson a dadansoddiadau i lywio camau gweithredu.

Bydd y prosiect o fudd i’r awdurdod lleol, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd.

Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Gogledd Ddwyrain Cymru 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Prifysgol Wrecsam

Cyswllt:
Laura Gough

E-bost:
L.Gough@glyndwr.ac.uk

Gwefan:
https://wrexham.ac.uk/cy/busnes/partneriaeth-trosglwyddo-gwybodaeth/


Mae’r prosiect yn gwella cyfranogiad mewn gweithgareddau Trosglwyddo Gwybodaeth. Trwy’r cynnig hwn, bydd hyd at bum Taleb Trosglwyddo Gwybodaeth Ychwanegol ar gaeth i fusnesau fel cyfraniad tuag at weithgareddau Ymchwil a Datblygu ar y cyd, astudiaethau peilot, gweithgareddau prawf cysyniad ac ati.

Bydd cymorth ariannol ychwanegol hefyd ar gael i fusnesau ar gyfer Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Bach sy’n cynnig lle i unigolyn graddedig mewn busnes i weithio ar faes ymchwil o fudd masnachol posibl ac ymgysylltu â gweithgareddau dysgu/Datblygiad Proffesiynol Parhaus. 

Bydd y prosiect hefyd yn cwmpasu anghenion hyfforddi ac ymchwil busnesau drwy astudiaethau dichonoldeb a gweithdai ar y cyd, bydd yn ymgysylltu ag entrepreneuriaid  mewn mentrau cymdeithasol ac nid er elw ac yn darparu cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu drwy gydol oes y prosiect.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar chwe maes penodol:

  • Peirianneg yn cynnwys deunyddiau cyfansawdd, pwysau ysgafn, dylunio cynnyrch/3D, datgarboneiddio ac adnoddau adnewyddadwy.
  • Opteg / ffotoneg / mesureg (OpTIC).
  • Technoleg drochi.
  • Seiberddiogelwch.
  • Busnes.
  • Iechyd, Lles, Gwerth Cymdeithasol a Chynaliadwyedd.

Bydd y prosiect o fudd i fusnesau bach a chanolig yn bennaf, ond efallai i fusnesau mwy a mentrau cymdeithasol hefyd.

Cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Prifysgol Bangor

Cyswllt:
Bryn Jones

E-bost:
bryn.jones@bangor.ac.uk

Gwefan:
https://www.bangor.ac.uk/cy/gwasanaethau-busnes


Bydd y prosiect yn cefnogi busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaid graddedig i gael mynediad at arbenigedd, cyfleusterau, sgiliau a thalent Prifysgol Bangor sy’n berthnasol i’w hanghenion o ran ymchwil a datblygu, arloesedd a sgiliau. Dyluniwyd y prosiect i helpu busnesau i allu cymryd y cam cyntaf o ran cael mynediad at arbenigedd, cyfleusterau a thalent y Brifysgol. 

Bydd y cynllun taleb yn cymell y cyswllt cyntaf, a rhagwelir y bydd hyn wedyn yn arwain at weithgarwch mwy sylweddol a gellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau mewn unrhyw faes a gellir ei ddefnyddio i gefnogi:

  • Llunio neu ddatblygu cynnyrch newydd
  • Datrys problemau a hyrwyddo diwylliant o arloesedd
  • Datblygu gweithwyr
  • Cynnal astudiaeth ddichonoldeb
  • Llunio syniad busnes newydd
  • Gwella effeithlonrwydd busnes
  • Archwilio ffyrdd eraill i ysgogi twf cwmni
  • Cael mynediad at dalent graddedigion

Bydd y prosiect hwn o fudd i fentrau bach a chanolig a sefydliadau nid-er-elw.

Lluosi 

Enw'r Sefydliad Arweiniol:
Hyfforddiant COPA (Hyfforddiant Gogledd Cymru gynt)

Cyswllt:
Julie Evans

E-bost:
juliee@copatraining.co.uk

Gwefan:
www.copatraining.co.uk


Bydd y prosiect yn darparu Rhaglen ‘Rhifedd am Oes’ ar gyfer trigolion cyflogedig a thrigolion di-waith. Lluniwyd y rhaglen hon i ddarparu cyrsiau hyblyg, dysgu digidol a thiwtora personol i  drawsnewid eu bywydau drwy wella eu sgiliau rhifedd bob dydd.

Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu drwy blatfform ar-lein, eAsessor Pro, sy’n caniatáu cwestiynau aml ddewis, cwisiau y gall dysgwyr eu marcio eu hunain, gweithgareddau hunan-asesu, a gemau aflinol gan roi profiad dysgu cynhwysfawr i’r dysgwyr. 

Bydd y rhaglen arfaethedig yn rhoi hwb i allu pobl i ddefnyddio mathemateg yn eu bywydau bob dydd, gartref ac yn y gwaith a bydd yn galluogi oedolion i ennill cymwysterau ffurfiol sy’n gallu agor drysau iddynt, megis camu ymlaen yn eu gyrfa, neu symud ymlaen i addysg bellach.

Bydd y rhaglen hon yn cynyddu hyder wrth ddefnyddio rhifedd mewn bywyd bob dydd a bydd yn amrywio o lefel mynediad i lefel 2.

Bydd y prosiect o fudd i oedolion sy’n 19 oed neu’n hŷn sydd angen cymorth rhifedd ac uwchsgilio.


Powered by Levelling Up (Welsh)