Alert Section

Y Broses Ymgeisio

Sut yr oedd ceisiadau yn cael eu cyflwyno a'r meini prawf allweddol o ran ystyried a chymhwyster.

Funded by UK Government (Welsh)

Dosbarthwyd y rhan fwyaf o gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy brosesau ymgeisio tryloyw a chystadleuol, ac roedd cyfle i sefydliadau darparu prosiectau posibl gyflwyno eu cynigion i’w hystyried drwy broses ymgeisio galwad agored a gynhaliwyd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.

Cynhaliwyd y broses ymgeisio mewn 2 gam. Gofynnwyd i ymgeiswyr posibl gwblhau ffurflen gais Cam 1 tua diwedd mis Chwefror 2023.  Yna, estynnwyd gwahoddiad i’r ymgeiswyr a oedd llwyddiannus yng Ngham 1 i gyflwyno cais mwy manwl yn yr haf fel rhan o’r broses Cam 2.

Anogwyd prosiect strategol ar raddfa fawr gydag isafswm gwerth o £250,000.  Croesawyd cynlluniau grant a fyddai’n galluogi busnesau a grwpiau gwirfoddol llai i wneud cais am gymorth drwy’r broses ymgeisio prosiect.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn bennaf yn rhaglen sy’n seiliedig ar refeniw. Ystyriwyd gwariant cyfalaf fel elfen lai o fewn prosiect refeniw ehangach, yn ogystal â phrosiectau a all ddosbarthu gwaith neu grantiau cyfalaf bychain ar draws nifer o gymunedau neu busnesau. Oherwydd graddfa fach y rhaglen yn Sir y Fflint, nid oedd ceisiadau prosiect gwaith cyfalaf mawr yn cael eu hannog.

Er mwyn cael eu hystyried, roedd yn rhaid i’r prosiectau arfaethedig ddangos:

  • y gallu i fodloni meini prawf Llywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen a darparu canlyniadau ar gyfer y fframwaith rhaglen;
  • yn gweddu ag anghenion lleol a sut fyddent yn cyd-fynd ac nid yn dyblygu darpariaeth leol bresennol;
  • y cyfraniad i fodloni anghenion strategol yr ardal fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor, Cynllun Lles a strategaethau perthnasol eraill;
  • ymgysylltiad lleol sylweddol gyda budd-ddeiliaid a buddiolwyr posibl;
  • y gallu i ddarparu o fewn amserlen fer ar gyfer y rhaglen;
  • profiad a gallu noddwr y prosiect;
  • gallu nodi a rheoli risgiau yn effeithiol;
  • gwerth am arian ac na all y prosiect gael ei gyllido drwy ffynhonnell arall;
  • y gellir cydymffurfio â rheoliadau rheoli cymorthdaliadau Llywodraeth y DU; a
  • bod y ddarpariaeth yn ystyried dyletswyddau cydraddoldeb, y Gymraeg ac arferion amgylcheddol da.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 Powered by Levelling Up (Welsh)