Alert Section

E-Gaffael ar gyfer Cyflenwyr


Mae bellach yn ofyniad gorfodol ar gyfer pob cyflenwr cyfredol yn ogystal â chyflenwyr yn y dyfodol i Gyngor Sir y Fflint ymgysylltu â ni yn electronig.  Erbyn 2018 bydd yn dod yn orfodol i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus i gynnal gweithgarwch caffael yn y ffordd hon.  Mae Sir y Fflint wedi cymryd y penderfyniad i wneud hyn yn awr gan ein bod yn gweld hyn fel ffordd llawer mwy effeithlon o gynnal busnes i ni yn ogystal â'n cyflenwyr.

Rhaid i'n holl gyflenwyr (boed gyfredol neu arfaethedig) gofrestru eu manylion ar y Porth Cyflenwyr PROACTIS.  PROACTIS yw ein Partneriaid E-Gaffael sy'n rheoli'r Porth Cyflenwyr.  

Cofrestru  Cyflenwyr  
Yn dibynnu ar p'un a ydych yn un o'n cyflenwyr presennol neu os ydych yn ddarpar gyflenwyr, mae yna 2 opsiwn o ran sut i gofrestru.  Mae Opsiwn 1 yn ymwneud â chyflenwyr presennol sy'n gwneud busnes (neu ar fin gwneud busnes) gyda'r cyngor ac mae opsiwn 2 ar gyfer darpar gyflenwyr / cyflenwyr newydd. 

(The documents below are currently being translated, we apologise for any inconvenience).

Cofrestru Cyflenwyr Opsiwn
 Opsiwn Disgrifiad Canllaw i Ddefnyddwyr 
 1 Rydych chi wedi cael Cod PIN gan Gyngor Sir y Fflint.  Lawrlwytho Canllaw Defnyddwyr
 2 Rydych chi'n ddarpar gyflenwr / cyflenwr newydd sydd erioed wedi gwneud busnes gyda'r cyngor o’r blaen ac yn dymuno derbyn cyfleoedd perthnasol (h.y. Dyfynbrisiau a Thendrau) oddi wrth y cyngor yn y dyfodol.  Lawrlwytho Canllaw Defnyddwyr 

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael nifer o fanteision.

Manteision Cyflenwyr (Safonol)
 Mantais Disgrifiad o’r Fantais
Dyfynbrisiau a Thendrau Derbyn ac ymateb i unrhyw Dendr neu Ddyfynbris drwy'r Porth Cyflenwyr 
E-Ocsiynau Yn eich galluogi i gymryd rhan mewn Ocsiynau Electronig (E-Ocsiynau) o chwith
Arbed arian i chi Er enghraifft dim angen argraffu, postio a thalu am negesydd i anfon ymatebion i geisiadau am ddyfynbrisiau a thendrau
Mae'n arbed amser i chi  Lleihau amser y cylch caffael a gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu yn gyflymach
Hunan wasanaeth Yn eich galluogi i ddiweddaru eich manylion, e.e. pa fath o nwyddau/gwaith/gwasanaethau y mae modd i chi eu darparu, pa ardaloedd daearyddol rydych yn eu cwmpasu, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn ac ati  
Cyfathrebu Gwell / Symlach Yn ein galluogi i gyfathrebu’n gyflym ac effeithlon gyda chi
Mwy o Gyfleoedd / Gwelededd Mae'n caniatáu i chi dderbyn Dyfynbrisiau a Thendrau gan Brynwyr Sector Cyhoeddus a Phreifat eraill sy’n defnyddio Porth PROACTIS

Cyflenwyr Cyfredol
Os ydych yn un o'n cyflenwyr cyfredol (h.y. rydych chi naill ai yn derbyn Gorchmynion Prynu oddi wrthym ni a / neu yn ein hanfonebu am Nwyddau, Gwaith neu Wasanaethau a roddwch i ni) yna o 1 Rhagfyr, 2016 byddwn yn anfon yr holl orchmynion prynu at ein cyflenwyr yn electronig drwy'r Porth Cyflenwyr PROACTIS yn ogystal â rhoi cyfle i gyflenwyr anfon anfoneb atom yn electronig.  Bydd PROACTIS yn darparu'r ymarferoldeb meddalwedd ychwanegol i ganiatáu i hyn ddigwydd.

Fel cyflenwr i'r cyngor, byddwch yn cael manteision ychwanegol gan y feddalwedd newydd.  

Manteision Ychwanegol i Gyflenwyr (Cyflenwyr Cyfredol)
 Mantais Disgrifiad o’r Fantais
Gorchmynion Electronig Derbyn Gorchmynion Prynu Electronig (hon fydd yr UNIG ffordd o dderbyn Gorchmynion gan y Cyngor o 1 Rhagfyr 2016)
 
Anfonebu Electronig

 Trosi eich Gorchmynion Prynu Electronig yn syml ac yn gyflym yn Anfonebau Electronig (E-Anfonebau) trwy'r swyddogaeth ‘PO Flip’

Mynediad at ystod o opsiynau eraill i gyflwyno E-Anfonebau

Sicrwydd bod anfonebau'n mynd yn brydlon i'r lle iawn, yn ogystal â chyflwyno’n uniongyrchol i mewn i system Prosesu Anfonebau’r Cyngor, gan arwain at eich anfonebau yn cael eu prosesu yn gyflymach

Sicrwydd nad yw eich anfonebau yn mynd ‘ar goll yn y post’ ac osgoi costau postio

Gweld Statws Anfoneb Mynediad electronig at Statws Talu unrhyw un o'ch anfonebau gan ddileu'r angen i ffonio tîm Cyfrifon Taladwy y Cyngor
Cyfleuster Talu Cyflym*

Yn ddewisol, cael eich talu yn gyflymach, o bosibl yn derbyn setliad i mewn i'ch cyfrif banc ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, yn gyfnewid am ddisgownt am dalu'n gynnar.

Llif arian gwell drwy dalu anfonebau’n gynnar 

Yn cynyddu eich cyfleoedd cyllido

Lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i chi i gael eich arian o ddyddiau neu wythnosau hyd yn oed

Masnachu gyda Chwsmeriaid eraill Derbyn yr holl fanteision uchod wrth ddelio ag unrhyw Gwsmeriaid PROACTIS eraill

,* Ar hyn o bryd dan ystyriaeth gan y cyngor

Yn gyfnewid am y manteision ychwanegol uchod, bydd angen i chi dalu ffi cymorth meddalwedd flynyddol enwol yn uniongyrchol i PROACTIS.  Sylwch, os nad ydych yn talu’r ffi hon erbyn 1 Rhagfyr, 2016 ni fyddwch yn gallu derbyn Gorchmynion Prynu gan y Cyngor yn ogystal ag achosi oedi difrifol wrth dderbyn unrhyw daliadau am Anfonebau.

Canllawiau E-Anfonebu
Yn ddiweddar, fe lansiodd y Cyngor ddatrysiad E-Anfonebu sy’n golygu ein bod bellach yn prosesu holl Anfonebau a Chredydau gan Gyflenwr mewn modd sy’n fwy effeithlon. Erbyn hyn, gallwn 'sganio' pob papur yn ogystal ag anfonebau a chredydau sy’n cael eu hanfon ar e-bost i mewn i’r system. Fel Cyflenwr i'r Cyngor, mae'n hanfodol eich bod yn dilyn ein canllawiau wrth anfon eich Anfonebau / Credydau atom ni fel y gallwn eu prosesu mor effeithlon â phosibl. Gall methu â dilyn y canllawiau hyn olygu ein bod yn gwrthod eich Anfonebau / Credydau. 

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein tudalen E-Anfonebu.

Sut i Dalu
Er mwyn talu'r ffi flynyddol uchod, lawrlwythwch y CANLLAW DEFNYDDWYR AR GYFER TALIADAU CYFLENWYR a dilynwch y cyfarwyddiadau. Nodwch fod rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i'r Porth Cyflenwyr er mwyn talu.

Sut i gysylltu â ni
Os ydych yn dymuno cysylltu â ni ar gyfer ymholiadau cyffredinol, gallwch wneud hynny drwy naill ai anfon e-bost atom yn procurement@flintshire.gov.uk neu gallwch ffonio ein Desg Gymorth Cyflenwyr ar 01352 704000 (Llun - Gwener 09.00-16.30).  Os oes gennych unrhyw broblemau technegol (cofrestru, sut i dalu’r tanysgrifiad neu fewngofnodi) gyda’r Porth Cyflenwr PROACTIS, cofnodwch eich galwad drwy fynd i http://proactis.kayako.com/suppliernetwork  a dewis “Submit a Ticket”.