Alert Section

E-Anfonebu


Dylai'r dudalen ei hun gynnwys y testun canlynol: -Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi lansio datrysiad E-Anfonebu sy'n golygu ein bod yn awr yn prosesu anfonebau a Chredydau holl Gyflenwyr mewn ffordd fwy effeithlon.  Rydym bellach yn 'sganio' pob anfoneb a chredydau papur yn ogystal ag e-bost i mewn i'r system.

Fel Cyflenwr i'r Cyngor, mae'n hanfodol eich bod yn dilyn ein canllawiau wrth anfon eich Anfonebau / Credydau atom fel y gallwn eu prosesu mor effeithlon â phosibl.  Gall methu â dilyn y canllawiau hyn arwain at wrthod eich Anfonebau / Credydau.

Gwybodaeth hanfodol mewn anfonebau a chredydau

Rhaid cynnwys y wybodaeth a ganlyn ar bob Anfoneb /Credyd y byddwch yn eu hanfon atom:

1. Enw’ch cwmni / sefydliad
2. Dyddiad yr anfoneb (ni chewch roi dyddiad nad yw wedi bod eto)
3 Rhif yr anfoneb (rhif unigryw nad yw wedi’i ddefnyddio o’r blaen)
4. Gwerth net
5. Gwerth TAW (os ydych wedi’ch cofrestru at ddibenion TAW)
6. Gwerth crynswth
7. Rhif archeb prynu dilys gan Gyngor Sir y Fflint (Darllenwch DIm Archeb Brynu Dim Tal- Cannllawiau I Gyflenwyro dan yr adran Dogfennau Denfyddiol I Gael rhagor of wybodaeth)

Os ydych yn gwmni sydd wedi’i gofrestru at ddibenion TAW, mae angen i chi hefyd ddangos eich Rhif TAW ar eich Anfoneb / Credyd

Canllawiau E-Anfonebu - Anfonebau / Credydau ar Bapur
Os byddwch yn Postio eich Anfonebau a / neu Gredydau i ni, yna rhaid iddynt gael eu postio i'r cyfeiriad post canlynol:
AP & AR
Adran Gyllid
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir 
Yr Wyddgrug
CH7 6NR

Canllawiau E-Anfonebu - Anfonebau / Credydau trwy E-bost

Os byddwch yn E-bostio eich Anfonebau a/neu Gredydau i ni (mae llawer ohonoch chi eisoes yn gwneud hynny), yna rhaid iddynt:

  1. E-bostio atom yn invoices@flintshire.gov.uk.
  2. Ar ffurf PDF.  Nid ydym yn derbyn Word, Excel neu unrhyw fformatau eraill.
  3. NI fydd yn sgan o anfoneb bapur.
  4. Ond yn cynnwys 1 Anfoneb neu Gredyd fesul ffeil PDF, fodd bynnag, rydym yn derbyn atodiadau PDF lluosog o fewn e-bost.
  5. DIM yn Anfoneb gyfunol - hy yn cynnwys mwy nag 1 Rhif Archeb Prynu.
  6. Dim ond yn cynnwys Anfonebau a/neu Gredydau - mewn geiriau eraill peidiwch â chynnwys unrhyw Ddatganiadau, deunydd marchnata ac ati yn yr un e-bost â’ch Anfonebau/Credydau.

Porth Cyflenwr
Yn ychwanegol at y Canllawiau E-Anfonebu a Dim AP Dim Tâl uchod, mae’n rhaid i’n holl Gyflenwyr cyfredol / gweithredol, hefyd gael eu cofrestru ar y Porth Cyflenwyr PROACTIS.  Er bod y rhan fwyaf o'n cyflenwyr eisoes wedi cofrestru, os nad yw eich busnes wedi cofrestru, yna ni fyddwch yn gallu derbyn Dyfynbrisiau, Tendrau yn ogystal ag unrhyw Archebion Prynu oddi wrthym yn y dyfodol.  I gofrestru, gweler ein tudalen E-Gaffael am fwy o fanylion.  Os ydych yn gyflenwr presennol / gweithredol (hy rydych yn masnachu ar hyn o bryd gyda ni), bydd angen i chi ddilyn y canllaw Cofrestru Cyflenwyr ar gyfer Cod Pin (bydd angen i chi gael Cod Pin unigryw gan eich cyswllt o fewn y Cyngor).