Alert Section

Adfywio Canol Tref


Mae Sir y Fflint yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn ffinio ar y Gogledd wrth aber Afon Dyfrdwy ac wrth ymyl siroedd Dinbych a Wrecsam, a siroedd Gorllewin Swydd Gaer a Chaer a Chilgwri. Er ei bod yn cael ei gweld fel rhanbarth diwydiannol yn bennaf, mae Sir y Fflint yn wledig yn bennaf ac mae’n cynnal amrywiaeth o drefi: o drefi marchnad Treffynnon a’r Wyddgrug, i drefi mwy diwydiannol Cei Connah, Bwcle, y Fflint, Queensferry, Saltney a Shotton. Mae'r Sir yn gartref i gwmnïau mawr gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Airbus UK, Tata Steel a moneysupermarket.com.

Mae trefi yn y rhanbarth wedi addasu i dueddiadau cymdeithasol ac economaidd newidiol, gyda llai o eiddo gwag na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae gan Sir y Fflint amrywiaeth o safleoedd hanesyddol a diwylliannol o bwys, o Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon i gastell y Fflint a’r dreftadaeth ddiwydiannol ar hyd arfordir Sir y Fflint. Mae gan y Sir ddarpariaeth bwyd a diod amrywiol, gydag ystod o gwmnïau bwyd a chynnyrch o safon uchel, gŵyl fwyd flynyddol a grwpiau bwyd amrywiol. Daw’r dreftadaeth, y bwyd a’r diwylliant hwn ynghyd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n gweddu â’r rhanbarth.

Grantiau a Chyllid

Grantiau a Chyllid

Marchnadoedd

Mae marchnadoedd yn elfen hanfodol o ganol trefi - maent yn dod â chwsmeriaid i'r dref ac yn cynnig cyfleoedd busnes gwerthfawr i fasnachwyr ac yn creu egni a hyfywdra.

Trefi Digidol (Sir y Fflint)

Mae Cyngor Sir y Fflint eisiau adfywio canol ein trefi lleol. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy'n arwain at dwf economaidd, yn ogystal â'u cynorthwyo i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol.

Y Rhaglen

Bydd y Rhaglen yn helpu'r trefi yn Sir y Fflint i addasu yn llwyddiannus ac mewn modd cynaliadwy i fyd sy'n newid; yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

Ymgysylltu â Busnesau

Mae'r Tîm Adfywio yn Sir y Fflint yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi ac annog twf a datblygiad busnesau; o gwmnïau annibynnol ar raddfa fach i gwmnïau rhyngwladol mawr.