Y Rhaglen
Y Rhaglen Adfywio Canol Trefi
Bydd y Rhaglen yn helpu’r trefi yn Sir y Fflint i addasu yn llwyddiannus ac mewn modd cynaliadwy i fyd sy’n newid; yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.
Blaenoriaethau'r Rhaglen yw:
- Ymateb yn rhagweithiol i ddiddordeb y farchnad mewn buddsoddiad yng nghanol trefi a bydd yn anelu i geisio annog buddsoddiad ble bynnag y ceir cyfleoedd priodol;
- Parhau i gefnogi lleoliadau gwasanaethau rheng flaen yng nghanol trefi, er mwyn galluogi mynediad at wasanaethau’r Cyngor (a phartneriaid) tra hefyd yn helpu i gynnal nifer yr ymwelwyr;
- Gweithredu polisïau Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer canol trefi sy'n galluogi newid mewn defnydd tir er mwyn eu rheoli i hybu cynaliadwyedd a bywiogrwydd;
- Adnabod safleoedd allweddol ar gyfer eu hailddatblygu yn y dyfodol gyda phwyslais ar amrywio defnydd tir er mwyn cynyddu cynaliadwyedd a bywiogrwydd;
- Dechrau, yn amodol ar argaeledd adnoddau cyfalaf ac ymchwiliad manwl mewn i fywiogrwydd masnachol, cael gafael ar safleoedd allweddol ar gyfer eu hailddatblygu;
- Targedu eiddo yng nghanol y trefi sy’n wag neu ddim yn cael eu defnyddio rhyw lawer ar gyfer ymyrraeth, gan gynnwys gwneud defnydd llawn o bwerau gorfodaeth y Cyngor;
- Cefnogi twf ym mherchnogaeth asedau cymunedol a mentrau cymunedol yng nghanol trefi;
- Manteisio ar fuddsoddiad posib gan Lywodraeth Cymru mewn isadeiledd cludiant, er mwyn adnabod sut i gyflawni buddion adfywio yn ehangach yn y cyffiniau cyfagos;
- Cefnogi grwpiau budd-ddeiliad canol tref i ddatblygu a rhoi cynlluniau gweithredu eu trefi ar waith, a chynnal gweithrediadau ar draws y Sir i gefnogi canol trefi, er enghraifft drwy weithgareddau hyrwyddol;
- Helpu busnesau i addasu i’r hinsawdd economaidd gyfnewidiol;
- Parhau i chwilio am gyfleoedd cyllido allanol er mwyn gweithredu’r Rhaglen; a
- Chynyddu’r broses o fonitro bywiogrwydd yng nghanol y trefi.