Alert Section

Tipio-anghyfreithlon


Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff ar dir heb ganiatâd. Mae’n amrywio o un oergell / bag du ar ochr priffordd i dunnell o rwbel mewn lleoliad hardd yn eich ardal. Mae’n falltod i’n cymunedau a’n cefn gwlad ac yn fygythiad i’n bywyd gwyllt.

Os gwelwch achos o dipio anghyfreithlon ar dir cyhoeddus:

Tir cyhoeddus gan gynnwys ffyrdd, palmentydd, ochrau ffyrdd, cilfannau a nifer o fannau agored.  Ar dir preifat, y tirfeddianwr sy’n gyfrifol am gael gwared arno.

  • Peidiwch â tharfu ar unrhyw dystiolaeth, rhoi’ch hun mewn perygl, cyffwrdd y gwastraff na dod wyneb yn wyneb â’r troseddwyr.
  • Nodwch y math o wastraff ydyw, ei faint, ei leoliad a’r math o dir e.e. priffordd, preswyl, tir parc.
  • Os gwelsoch y bobl/cerbyd dan sylw, cofnodwch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl e.e. rhif cofrestru, nodweddion arbennig, ble’r oeddech yn sefyll.
  • Tynnwch luniau os yw hynny’n bosibl a nodwch fanylion unrhyw dystion eraill os ydynt yn cytuno.

Adrodd am dipio anghyfreithlon

Fel arall:

Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd ein tîm Diogelu’r Amgylchedd yn ymchwilio i’r achos i geisio dod o hyd i’r troseddwr er mwyn cymryd camau gorfodi yn ei erbyn. Os cytunwch fod yn dyst gallwch ein helpu i sicrhau erlyniad.

Rydym yn anelu at gael gwared ar sbwriel cyn pen 24 awr. Mae’n bosibl y bydd gwastraff mawr arall yn cymryd mwy.

Dyletswydd Gofal Deiliaid Tai
Mae dau o bob tri achos o dipio anghyfreithlon yn Sir y Fflint yn tarddu o dai.  Mae gennych Ddyletswydd Gofal i gael gwared ar eich gwastraff eich hun yn gyfrifol.  Os gwelir eich gwastraff wedi’i adael yn anghyfreithlon, p’un a ydych yn gwybod amdano ai peidio, gallech dderbyn dirwyo o hyd at £5,000.

Os ydych yn cyflogi masnachwr, cwmni sgipiau neu rywun arall i gael gwared ar eich gwastraff, chi sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn gludwyr gwastraff cofrestredig.  Mae masnachwyr a gwasanaethau a ddylai fod yn gofrestredig yn cynnwys adeiladwyr, gosodwyr carpedi, gosodwyr ffenestri, plymwyr, trydanwyr, garddwyr a meddygon coed.

Gwiriwch i ble y maent yn mynd â’ch gwastraff a gofynnwch am gael gweld eu trwydded cludo gwastraff.  Cymerwch eu henw a’u cyfeiriad, rhif cofrestru eu cerbyd a disgrifiad. Cadwch y manylion yn ddiogel rhag ofn y bydd gofyn i chi eu dangos yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth gwiriwch gofrestr gyhoeddus Asiantaeth yr Amgylchedd neu ffoniwch 03708 506 506.  Os nad ydynt yn gofrestredig, gwrthodwch y gwasanaeth.

Fel arall:
Ewch â’ch gwastraff cartref i’ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol am ddim.  Canfyddwch beth ydym yn ei dderbyn, lleoliadau ac oriau agor.

Gofynnwch am gasgliad gwastraff swmpus.  Efallai y byddwch yn gymwys i gael casgliad am ddim. Ni chodir tâl am gael gwared ar oergelloedd ac oergelloedd/rhewgelloedd o unrhyw gartrefi.