Teleofal
Mae offer teleofal yn ystod o synwyryddion a chanfodyddion megis:
- System larwm Intellilink
- Canfodydd llifogydd
- Larwm mwg
- Botwm ymwelwyr twyllodrus / panig
Gellir cysylltu offer teleofal â gwasanaeth monitro 24 awr Llesiant Delta neu â ffôn symudol neu system rhybuddio gofalwr. Gallwn eich helpu beth bynnag fo’ch sefyllfa.
Faint yw’r gost?
Mae’r offer Teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n teimlo y gallai wneud gwahaniaeth i’w bywydau yn dilyn asesiad o anghenion.
Ffi gosod o £25 a ffi monitro blynyddol o £166.90.
Bydd anfonebau yn cael eu hanfon i’ch cartref gan yr Adran Gyllid AR ÔL y gwaith gosod.
Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, anelu at gynnal annibyniaeth. Mae Ailalluogi, teleofal a chymorthyddion ac addasiadau i gyd yn enghreifftiau o wasanaethau ymyrraeth gynnar sy’n helpu i atal pobl rhag bod yn ddibynnol ar eraill yn ddi-angen a derbyn cymorth mwy dwys.
Un Pwynt Mynediad
Cyngor Sir y Fflint
Preswylfa, Hendy Road, Yr Wyddgrug, CH7 1PZ
Ffoniwch: 03000 858858
Ebost: spoa@flintshire.gov.uk